Gwasanaethau
Rhuthun
Mae’r parth fflecsi hwn yn cynnwys tref farchnad brydferth Rhuthun, yng nghesail Dyffryn Clwyd, sy’n gwasanaethu’r rhan fwyaf o ardaloedd trefol a phreswyl y dref. Mae nifer o bentrefi a phentrefannau eraill yn yr ardal yn cael eu gwasanaethu gan gynnwys Bontuchel, Clawddnewydd, Clocaenog, Cyffylliog, Derwen, Graigfechan, Llanelidan, Pentrecelyn a Rhydymeudwy.
Pethau i’w gwneud
- Archwiliwch ddyfnderoedd gorffennol tywyll Rhuthun a mynd ar daith o amgylch Carchar Rhuthun. Dyma’r unig garchar pwrpasol o fath Pentonville sy’n agored i’r cyhoedd - manteisiwch ar y cyfle i archwilio pob twll a chornel a dysgu am fywyd yn y system carchardai Fictoraidd.
- Ymwelwch â Thŷ Nantclwyd y Dre o’r 15fed ganrif gyda’i ardd furiog sy’n dyddio o’r Oesoedd Canol.
- Crwydrwch o amgylch Sgwâr Sant Pedr a mwynhau'r holl bensaernïaeth wych, y siopau unigryw a’r mannau ardderchog i fwyta yn Rhuthun.
Cysylltiadau pellach
- Cysylltu â gwasanaeth T8 TrawsCymru, sy’n rhedeg rhwng Caer a Chorwen.
- Llwybrau bysiau lleol, gan gynnwys yr X51 ar gyfer cysylltiadau i Ddinbych a Wrecsam.
Prisiau
Dyma’r prisiau ar gyfer teithio yng nghanol tref Rhuthun:
- Tocyn unffordd drwy’r dydd i oedolion - £1.10
- Tocyn unffordd i blentyn - £0.55
- Ci - £0.50
Dyma’r prisiau ar gyfer teithio yng nghanol tref Rhuthun a’r cyffiniau:
- Tocyn unffordd drwy’r dydd i oedolion - £1.65
- Tocyn unffordd i blentyn - £1.10
- Ci - £0.50
Mae tocynnau 1bws hefyd yn ddilys ar y gwasanaeth hwn a gellir eu prynu am £6.50.
Mae’r rheini sydd â cherdyn bws rhatach yn teithio am ddim gyda fflecsi.
Archebu ymlaen llaw
28 diwrnod.
Cŵn ar y bws
Rydym yn caniatáu i deithwyr ddod â chi cydymaith gyda nhw, mae tâl o 50c.
Map
Lleoliadau fflecsi
Mae fflecsi wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion lleol. Bwrwch olwg ar y lleoliadau isod i weld sut mae'n gweithio ym mhob ardal.