Gwasanaethau

Bwcle

fflecsi service driving down a road

Mae’r gwasanaeth fflecsi hwn yn rhedeg yn nhref hanesyddol Bwcle yn Sir y Fflint, ac mae’n cysylltu â Brychdyn gerllaw a’i ganolfan siopa adnabyddus, sy’n golygu ei fod yn opsiwn teithio delfrydol ar gyfer diwrnod o therapi siopa neu dreulio amser gyda’r teulu. Mae’r gwasanaeth hefyd yn cysylltu’r pentrefi ar hyd yr A550 i’r de o Fwcle cyn belled â Chefn-y-bedd. Mae’r gwasanaeth hefyd yn cysylltu â sawl gorsaf ar hyd llinell Wrecsam-Bidston - gan fynd â chi’n syth i ddinas fwyaf newydd Cymru.

 

Pethau i’w gwneud

  • Treuliwch ddiwrnod gyda’r teulu yng Nghanolfan Siopa Brychdyn - mae digon o siopau a bwytai ardderchog, yn ogystal â sinema.
  • Crwydrwch o amgylch tref hanesyddol Bwcle a gwrando am acen unigryw’r ardal a ddatblygodd yn ystod anterth y cyfnod cloddio.
  • Cysylltwch â llinell Wrecsam-Bidston a threulio diwrnod yn crwydro dinas fwyaf newydd Cymru a’r Cae Ras byd-enwog.
  • Ymwelwch â Parc y Gorffennol, ger Yr Hôb, lle gwych yn yr awyr agored sy’n berffaith ar gyfer cerdded, sydd hefyd yn dathlu hanes cyfoethog y rhan hon o Ogledd Cymru.

 

Cyfleusterau lleol yn y parth hwn

  • Llyfrgell Bwcle
  • Llyfrgell Brychdyn
  • Canolfan Feddygol Bwcle
  • Practis Meddygol Clwyd House
  • Canolfan Hamdden Bwcle
  • Practis Meddygol Marches

 

Cysylltiadau teithio pellach

 

Tocynnau

Mae modd talu ymlaen llaw drwy ap fflecsi neu dalu ar y bws gyda cherdyn / dyfais digyswllt neu arian parod.

  • Tocyn unffordd i oedolion - yn dechrau o £1.50.
  • Plant (5 - 15) a phobl ifanc (16 - 21 gyda cherdyn fyngherdynteithio) - 
    • Taith Sengl (unffordd) - £1.00.
    • Tocyn Cymru (tocyn dydd) - £3.00 (teithio diderfyn ar wasanaethau bws sy'n rhan o'r cynllun).
  • Mae tocynnau 1bws hefyd yn ddilys ar y gwasanaeth hwn a gellir eu prynu o £7.50 (oedolyn) / £5.00 (consesiwn).
  • Mae deiliaid Tocyn Teithio Rhatach yn teithio am ddim gyda fflecsi.

 

Tap Ymlaen Tap Ymadael

Mae tap ymlaen a thap ymadael (TYTY) yn ddull syml y gall cwsmeriaid ei ddefnyddio i brynu tocyn Oedolyn.

  • Yn syml, tapiwch eich cerdyn debyd neu ddyfais ddigyswllt ar y darllenydd tocynnau wrth fynd ar y bws.
  • Yna tapiwch yr un cerdyn neu ddyfais ar y darllenydd Tap Ymadael wrth i chi ddod oddi ar y bws.
  • Cyfrifir y pris sengl rhwng y ddau leoliad.
  • Os byddwch yn gwneud sawl taith mewn diwrnod a bod cyfanswm gwerth eich tocynncau yn cyrraedd y cap, sef pris tocyn dydd 1bws, codir uchafswm o £7.50 arnoch. Os byddwch yn gwneud sawl taith dros gyfnod o 7 diwrnod yn olynol, bydd y system yn cyfrifo beth sy’n rhoi y gwerth am arian orau i chi, sef talu am sawl tocyn dydd 1bws neu am docyn 1bws Wythnos.

 

Archebu ymlaen llaw

28 diwrnod.

 

Cŵn ar y bws

Ni all cŵn deithio, ac eithrio cŵn tywys.

 

Map

Oriau gwasanaeth

  • Dydd Llun
    09:15 - 18:30
  • Dydd Mawrth
    09:15 - 18:30
  • Dydd Mercher
    09:15 - 18:30
  • Dydd Iau
    09:15 - 18:30
  • Dydd Gwener
    09:15 - 18:30
  • Dydd Sadwrn
    07:45 - 18:30

Archebwch i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn

Lawrlwythwch ein ap

Ffoniwch ni ar 03002 340 300

Dydd Llun - Dydd Sadwrn: 07:00 - 19:00
Dydd Sul: 10:00 - 14:00

Lleoliadau fflecsi

Mae fflecsi wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion lleol. Bwrwch olwg ar y lleoliadau isod i weld sut mae'n gweithio ym mhob ardal.