Gwasanaethau
Dyffryn Conwy
Mae’r gwasanaeth fflecsi hwn yn gweithredu yn Nyffryn Conwy hardd ac yn cysylltu trefi prysur Betws-y-coed a Llanrwst â’r pentrefi cyfagos. Mae digon i’w weld a’i wneud yn yr ardal hon, gan gynnwys ymweld â Choedwig Gwydir a’i llwybrau cerdded niferus neu Tu Hwnt I'r Bont fyd-enwog, sef ystafell de restredig gradd II hanesyddol o’r 15fed ganrif ar lannau Afon Conwy.
Pethau i’w gwneud
- Crwydro Betws-y-coed
- Ewch am dro yng Nghoedwig Gwydir a’i llynnoedd hardd
- Cerddwch ar hyd glannau Afon Conwy yn Llanrwst i Tu Hwnt I’r Bont
- Ymwelwch â Chastell Gwydir, un o’r enghreifftiau gorau o dŷ o gyfnod y Tuduriaid yng Nghymru
- Crwydrwch i lawr i geunant Ffos Anoddun hudolus nid nepell o Fetws-y-coed
Cyfleusterau lleol yn y parth hwn
- Canolfan Hamdden Llanrwst
- Llyfrgell Llanrwst
- Meddygfa Gwydir
- Meddygfa Betws-y-coed
Cysylltiadau teithio pellach
- Cysylltiadau rheilffyrdd i Flaenau Ffestiniog a Llandudno o orsafoedd trenau Dolwyddelan, Pont-y-Pant, Betws-y-coed a Llanrwst
- Sherpa’r Wyddfa Gwasanaeth bws S1 rhwng Betws-y-coed a Chaernarfon
- Gwasanaeth T10 TrawsCymru rhwng Corwen a Bangor
Prisiau
Gallwch dalu am eich taith ar yr ap fflecsi neu drwy daliad ddigyffwrdd neu arian parod ar y bws.
Teithio ym Metws-y-coed a Llanrwst yn unig:
- Tocyn unffordd drwy’r dydd i oedolion - £1.00
Teithio yn ardal fflecsi ehangach Conwy:
- Tocyn unffordd drwy’r dydd i oedolion - £2.00
Mae tocynnau 1bws hefyd yn ddilys ar y gwasanaeth hwn a gellir eu prynu am £6.50.
Mae’r rheini sydd â cherdyn bws rhatach yn teithio am ddim gyda fflecsi.
Archebu ymlaen llaw
30 diwrnod.
Cŵn ar y bws
Derbynnir cŵn.
Map
Oriau gwasanaeth
-
Monday
06:30 - 19:00
-
Tuesday
06:30 - 19:00
-
Wednesday
06:30 - 19:00
-
Thursday
06:30 - 19:00
-
Friday
06:30 - 19:00
-
Saturday
06:30 - 19:00
Lleoliadau fflecsi
Mae fflecsi wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion lleol. Bwrwch olwg ar y lleoliadau isod i weld sut mae'n gweithio ym mhob ardal.