Gwasanaethau
Prestatyn
Mae fflecsi Prestatyn yn wasanaeth delfrydol i unrhyw un sy’n dymuno gwneud taith fer i ganol y dref o’r ardaloedd preswyl. Mae mannau gwych i ymweld â nhw gan ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, gan gynnwys glannau tywodlyd hir Traeth Barkby neu adfeilion hanesyddol Baddonau Rhufeinig y dref. I’r cerddwyr yn eich plith, Prestatyn ydy diwedd Llwybr Clawdd Offa (neu’r dechrau, yn dibynnu sut rydych chi’n edrych arno).
Pethau i’w gwneud
-
Crwydrwch ar hyd Traeth Barkby helaeth - gyda’i dwyni tywod gwyllt a mannau picnic hyfryd mae’n lle delfrydol i dreulio diwrnod gyda’r teulu.
-
Dilynwch ôl troed y Rhufeiniaid ac ymweld ag adfeilion Baddonau Prestatyn - nid nepell o Melyd Avenue; bydd ein gwasanaeth fflecsi yn eich helpu i gyrraedd yno.
-
Gwisgwch eich esgidiau cerdded ac ewch ar hyd Llwybr Clawdd Offa - gan ddilyn y gwrthgloddiau hynafol a orchmynnwyd gan y Brenin Offa i nodi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Cysylltiadau pellach
-
Mae gorsaf drenau Prestatyn ar brif linell Gogledd Cymru, gyda chysylltiadau i Landudno a’r gogledd-orllewin, yn ogystal â chysylltiadau i Gaer, Manceinion, Birmingham, Caerdydd, a Llundain Euston.
-
Cysylltu â gwasanaethau bysiau lleol.
Tocynnau
Gallwch dalu am eich taith ar yr ap fflecsi neu ar y bws gyda cherdyn digyswllt neu arian parod.
-
Tocyn unffordd i oedolion - yn dechrau o £1.50.
-
Tocyn unffordd i blant / tocyn unffordd gyda Fy Ngherdyn Teithio - yn dechrau o £1.00.
-
Mae tocynnau 1bws hefyd yn ddilys ar y gwasanaeth hwn a gellir eu prynu o £7.00 (oedolyn) / £4.70 (plentyn / gyda cherdyn teithio rhatach).
-
Mae deiliaid pasys bws rhatach yn teithio am ddim gyda fflecsi.
Tap Ymlaen Tap Ymadael
Mae tap ymlaen a thap ymadael (TYTY) yn ddull syml y gall cwsmeriaid ei ddefnyddio i brynu tocyn Oedolyn.
-
Yn syml, tapiwch eich cerdyn debyd neu ddyfais ddigyswllt ar y darllenydd tocynnau wrth fynd ar y bws.
-
Yna tapiwch yr un cerdyn neu ddyfais ar y darllenydd Tap Ymadael wrth i chi ddod oddi ar y bws.
-
Cyfrifir y pris sengl rhwng y ddau leoliad.
-
Os byddwch yn gwneud sawl taith mewn diwrnod a bod cyfanswm gwerth eich tocynncau yn cyrraedd y cap, sef pris tocyn dydd 1bws, codir uchafswm o £7.00 arnoch. Os byddwch yn gwneud sawl taith dros gyfnod o 7 diwrnod yn olynol, bydd y system yn cyfrifo beth sy’n rhoi y gwerth am arian orau i chi, sef talu am sawl tocyn dydd 1bws neu am docyn 1bws Wythnos.
Archebu ymlaen llaw
7 diwrnod.
Cŵn ar y bws
Ie. Yn ôl disgresiwn y gyrrwr ar yr amod eu bod yn lân, yn ymddwyn yn dda ac yn cael eu cadw ar dennyn.
Map
Lleoliadau fflecsi
Mae fflecsi wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion lleol. Bwrwch olwg ar y lleoliadau isod i weld sut mae'n gweithio ym mhob ardal.