Gwasanaethau

Dyffryn Dulas

fflecsi vehicle

Mae fflecsi’n cysylltu tref hanesyddol Machynlleth gyda phentrefi tua gogledd yr A487 gan gynnwys Aberllefenni, Corris Uchaf, Corris, Minffordd a Phantperthog. Mae’r gwasanaeth hwn yn berffaith i’r rheini sy’n cysylltu â chanol tref Machynlleth ar gyfer gwaith, siopa, addysg ac apwyntiadau.

 

Pethau i’w gwneud

  • Wedi’i leoli ym mhrydferthwch Dyffryn Dyfi ac yn agos iawn at ei foryd, mae Machynlleth yn lle hyfryd i dreulio’r prynhawn. Mae marchnad wych yng nghanol y dref sydd ar agor ddydd Mercher a gellir ymweld â chloc enwog y dref, hefyd.

  • Dyma oedd leoliad Senedd 1404 Owain Glyndŵr. Beth am ymweld ag amgueddfa Owain Glyndŵr a dysgu mwy am yr arweinydd Cymreig chwedlonol?

  • Beth am dipyn o hwyl a sbri? Mae Gŵyl Gomedi Machynlleth wedi denu llawer o sylw dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’n denu niferoedd uchel o bobl i ganol y dref bob blwyddyn sy’n teithio o Gymru gyfan, y DU a thu hwnt.

  • Ewch i Warchodfa Natur Ynys-hir sydd ychydig filltiroedd y tu allan i ganol dref Machynlleth ac sy’n cael ei defnyddio’n aml er mwyn ffilmio Springwatch ar y BBC. Gellir crwydro ar hyd llwybrau prydferth â glaswelltiroedd iseldir, gwely cyrs, a chynefinoedd morfeydd heli.

 

Amwynderau lleol yn y parth hwn

  • Gorsaf drên Machynlleth

  • Ysbyty Bro Ddyfi

  • Ysgol Dyffryn Dulas Corris

 

Cysylltiadau pellach

  • Cysylltwch â gwasanaeth TrawsCymru T2 er mwyn teithio tuag at Fangor ac Aberystwyth.

 

Tocynnau

Gallwch dalu am eich taith ar yr ap fflecsi neu ar y bws gyda cherdyn digyswllt neu arian parod.

  • Tocyn unffordd i oedolion - yn dechrau o £1.50.

  • Tocyn unffordd i blant / tocyn unffordd gyda Fy Ngherdyn Teithio - yn dechrau o £1.00.

  • Mae tocynnau 1bws hefyd yn ddilys ar y gwasanaeth hwn a gellir eu prynu o £7.00 (oedolyn) / £4.70 (plentyn / gyda cherdyn teithio rhatach).

  • Mae deiliaid pasys bws rhatach yn teithio am ddim gyda fflecsi.

 

Tap Ymlaen Tap Ymadael

Mae tap ymlaen a thap ymadael (TYTY) yn ddull syml y gall cwsmeriaid ei ddefnyddio i brynu tocyn Oedolyn.

  • Yn syml, tapiwch eich cerdyn debyd neu ddyfais ddigyswllt ar y darllenydd tocynnau wrth fynd ar y bws.

  • Yna tapiwch yr un cerdyn neu ddyfais ar y darllenydd Tap Ymadael wrth i chi ddod oddi ar y bws.

  • Cyfrifir y pris sengl rhwng y ddau leoliad.

  • Os byddwch yn gwneud sawl taith mewn diwrnod a bod cyfanswm gwerth eich tocynncau yn cyrraedd y cap, sef pris tocyn dydd 1bws, codir uchafswm o £7.00 arnoch. Os byddwch yn gwneud sawl taith dros gyfnod o 7 diwrnod yn olynol, bydd y system yn cyfrifo beth sy’n rhoi y gwerth am arian orau i chi, sef talu am sawl tocyn dydd 1bws neu am docyn 1bws Wythnos.

 

Archebu ymlaen llaw

28 diwrnod.

 

Cŵn ar y bws

Derbynnir cŵn.

 

Map

Oriau gwasanaeth

  • Dydd Llun (ac eithrio Gwyliau Banc)
    08:45 - 18:00
  • Dydd Mawrth (ac eithrio Gwyliau Banc)
    08:45 - 18:00
  • Dydd Mercher (ac eithrio Gwyliau Banc)
    08:45 - 18:00
  • Dydd Iau (ac eithrio Gwyliau Banc)
    08:45 - 18:00
  • Dydd Gwener (ac eithrio Gwyliau Banc)
    08:45 - 18:00
  • Dydd Sadwrn
    08:00 - 18:00
  • Bydd gwasanaeth amser penodol yn gadael Aberllefenni am 08.15 ac yn cyrraedd Machynlleth am 08.40, ac yna bydd y daith ddychwelyd yn gadael Machynlleth am 15.40 ac yn cyrraedd Aberllefenni am 16.05.
  • Sylwch na fydd fflecsi ar gael i'w harchebu yn ystod y daith amser a roddir.

Archebwch i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn

Lawrlwythwch ein ap

Ffoniwch ni ar 03002 340 300

Dydd Llun - Dydd Sadwrn: 07:00 - 19:00
Dydd Sul: 10:00 - 14:00

Lleoliadau fflecsi

Mae fflecsi wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion lleol. Bwrwch olwg ar y lleoliadau isod i weld sut mae'n gweithio ym mhob ardal.