Gwasanaethau
Blaenau Gwent
Mae’r gwasanaeth fflecsi hwn wedi’i rannu’n ddau barth, ac mae’n gwasanaethu trefi Glynebwy, Bryn-mawr ac Abertyleri. Parth 1 - mae’n rhedeg yng Nglynebwy a’r cyffiniau yn gynnar yn y bore a gyda’r nos, ac mae gwasanaeth llinell sefydlog yn rhedeg rhwng 09.24am a 17.45. Gallwch weld llwybrau ac amserlenni E1 ac E2. Mae Parth 2 yn rhedeg ym Mryn-mawr i lawr tuag at Abertyleri a Llanhiledd.
Pethau i’w gwneud
- Saif cerflun y Gwarchodwr ar safle hen Lofa’r Six Bells - dyma gofeb i’r rhai a gollodd eu bywydau yn nhrychineb Glofa’r Six Bells ym 1960. Mae’n werth i chi ymweld â'r safle hwn tra byddwch yn yr ardal i gael ymdeimlad o bwysigrwydd cloddio i’r rhan hon o Gymru a sut mae wedi dylanwadu ar y dirwedd.
- Gallwch wylio ffilm yn un o sinemâu hynaf Cymru - mae sinema Neuadd y Farchnad yn sgwâr tref Bryn-mawr wedi bod yn rhedeg yn barhaus am fwy nag unrhyw sinema arall yng Nghymru, ac mae’n dal i fynd o nerth i nerth heddiw.
- Ymwelwch â The Owl Sanctuary ar hen safle canolfan siopa Festival Park.
Cysylltiadau pellach
- Cysylltiadau rheilffyrdd tuag at Gasnewydd a Chaerdydd o dref Glynebwy, Parcffordd Glynebwy a Llanhiledd.
- Cysylltiadau â gwasanaethau bysiau lleol.
Map
Oriau gwasanaeth
-
Dydd Llun
05:30 - 09:1517:45 - 23:00
-
Dydd Mawrth
05:30 - 09:1517:45 - 23:00
-
Dydd Mercher
05:30 - 09:1517:45 - 23:00
-
Dydd Iau
05:30 - 09:1517:45 - 23:00
-
Dydd Gwener
05:30 - 09:1517:45 - 23:00
-
Dydd Sadwrn
05:30 - 09:1517:45 - 23:00
Lleoliadau fflecsi
Mae fflecsi wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion lleol - edrychwch ar y lleoliadau isod i weld sut mae'n gweithio ym mhob ardal