Tocyn Diwrnod TrawsCymru

Cewch deithiau anghyfyngedig am y diwrnod ar fysiau T1, T1C, T2, T3, T4, T5, T6, T7, T8, T10, T11, T12, T14, T22, T28, 43, X43, a 460.

Mae’r Tocyn Diwrnod yn berffaith os ydych yn bwriadu defnyddio’r bws sawl gwaith mewn un diwrnod. Beth am archwilio man gwledig prydferth yn y bore cyn mynd siopa yn y prynhawn?

 

Faint ydyw’n costio?

Oedolyn £13.00
Plentyn (dan 16 oed neu rhwng 16 a 21 oed gyda fyngherdynteithio) £8.70
Tocyn Grŵp (hyd at ddau oedolyn a thri phlentyn neu berson ifanc gyda fyngherdynteithio) £30.00

 

Ymhle allaf ei brynu?

Gallwch ei brynu wrth y gyrrwr bws a’i ddefnyddio ar unrhyw wasanaeth a restrwyd uchod - nid dim ond ar y bws wnaethoch chi brynu’r tocyn arno. Mae’n ddilys tan y daith olaf a hysbyswyd ar y diwrnod wnaethoch ei brynu.