
Beth yw TrawsCymru?
TrawsCymru yw’n rhwydwaith o wasanaethau bws ar gyfer pellteroedd hirach. Mae’n rhan o’r rhwydwaith trafnidiaeth integredig yng Nghymru sy’n cynnwys bysiau, trenau, cerdded a seiclo.
Ariennir gan Lywodraeth Cymru, mae bysiau TrawsCymru yn darparu cysylltiadau teithio hanfodol i gymunedau Cymru. Maent yn cysylltu â gwasanaethau trên, gan eich galluogi i gwblhau’ch taith gyflawn ar drafnidiaeth gyhoeddus, p’un ac ydyw ar gyfer gwaith, diwrnod allan gyda’r teulu, neu i archwilio prydferthwch gwledig Cymru mewn ffordd sy’n well i’r amgylchedd.
Mae yna lawer yn digwydd i wella’r gwasanaethau bws, gyda mwy o wasanaethau integredig yn ymddangos sy’n ymateb yn well i’ch gofynion. Mae yna hefyd ddatblygiadau technolegol a fydd yn lleihau allyriadau bysiau, gan gynnwys cyflwyno bysiau trydan.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma: Teithio ar fws
Lawrlwythwch ein ap i gynllunio’ch taith, prynu’ch tocynnau, tracio’ch bws a darganfod faint o CO2 y gallwch arbed drwy adael y car gartref.