Byrbrydau Nadoligaidd
Moch mewn blancedi £4.95 |
Chwe tsipolata blasus wedi’u lapio mewn bacwn, gyda saws llugaeron melys.
Tatws rhost crensiog £4.95 |
Tatws rhost euraidd gyda dysgl o refi crasboeth, blasus.
Y byrgyr Nadolig £6.95 |
Byrgyr twrci a pherlysiau gyda bacwn, caws brie toddedig a saws llugaeron ar ei ben, mewn torthen feddal.
Darperir yr holl fwyd a diod gan Trafnidiaeth Cymru. Mae’r cynnyrch yn amodol ar faint sydd ar gael ac mae’r prisiau’n gywir ar 4 Rhagfyr 2024, ond mae’n bosibl y byddant yn newid.
Bwriwch olwg ar ein bwydlen byrbrydau Nadoligaidd fel PDF
- Oes gennych chi alergeddau?
-
Os oes gennych chi alergedd neu anoddefiad bwyd, siaradwch ag aelod o’r tîm cyn archebu. Gallwn ddweud wrthych chi beth yw’r holl alergenau/cynhwysion penodol yn ein bwyd. Gan fod ein cegin yn trin bwydydd sy’n cynnwys blawd, wyau, llaeth, cnau ac alergenau eraill, mae bob amser risg o groeshalogi, felly ni allwn warantu bod unrhyw gynnyrch yn gwbl rydd o unrhyw alergen.
-