Mentrwch ymhellach gyda’r tocyn Crwydro Caerdydd a’r Cymoedd.

Gallwch ei ddefnyddio am y diwrnod cyfan o 09:30 ymlaen o ddydd Llun i ddydd Gwener neu drwy'r dydd ar benwythnosau (dim gwyliau’r banc).

 

Prisiau

  Oedolyn Plentyn Cerdyn Rheilffordd*
Crwydro Caerdydd a’r Cymoedd a Thocyn £14.60 £7.30 £9.70

*Arbedwch ragor gyda'r Cardiau Rheilffordd canlynol: 16-25, Dau Berson, Pobl Anabl neu Pobl Hŷn.

 

Ble mae prynu tocyn Crwydro Caerdydd a’r Cymoedd

Prynwch docyn Crwydro Caerdydd a’r Cymoedd o swyddfa docynnau eich gorsaf leol.

 

Map

Map Rheilffyrdd y Cymoedd - Tocyn Crwydro

 

Ein partneriaid bysiau

Dyma restr o’r cwmnïau bysiau yng Nghymru fydd yn derbyn tocyn 'Crwydro Caerdydd a’r Cymoedd’:

  • Stagecoach South Wales Bus
  • Thomas of Rhondda

 

Telerau ac amodau

  • Gallwch chi deithio faint fynnwch chi yn yr ardal ddaearyddol ddynodedig am ddiwrnod ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru.
  • Ar gyfer teithio rhwng Maesteg - Caerdydd Canolog drwy Bont-y-clun neu Lanilltud Fawr, ynghyd ag Ynys y Barri - Y Barri, Penarth - Grangetown a Chaerdydd Canolog - Treherbert / Merthyr Tudful / Aberdâr / Rhymni / Glynebwy. 
  • Yn ddilys ar gyfer teithio ar ôl 09:30 dydd Llun i ddydd Gwener, a drwy ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc.
  • Dim cyfyngiad ar fysiau.
  • Yn ddilys ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru.
  • Prynwch docyn Crwydro Caerdydd a’r Cymoedd o swyddfa docynnau eich gorsaf leol. 
  • Os nad oes cyfleusterau prynu tocynnau yn yr orsaf lle rydych chi’n cychwyn eich taith, gallwch hefyd brynu tocyn Crwydro Caerdydd a’r Cymoedd gan Oruchwyliwr ar wasanaeth trên Trafnidiaeth Cymru.
  • Gellir cael ad-daliad am docynnau heb eu defnyddio, ond rhaid talu ffi weinyddu.
  • Pris yn ddilys hyd at 31 Rhagfyr 2024.