Mae ein tocynnau Ranger a Rover yn rhoi hyblygrwydd llwyr i chi a dydy Rover Gogledd Cymru yn ddim gwahanol.

Gallwch chi ddewis teithio mewn unrhyw ddau neu dri pharth neu’r Cyan.

 

Prisiau

  Oedolyn Plentyn Cerdyn Rheilffordd
Rover Gogledd Cymru 2 Barth £15.60 £7.80 Ddim ar gael
Rover Gogledd Cymru 3 Pharth £26.60 £13.30 Ddim ar gael
Rover Gogledd Cymru Pob Parth £42.00 £21.00 £27.70

 

Ble mae prynu tocyn Ranger Gogledd Cymru

Maen nhw ar gael i’w prynu mewn unrhyw swyddfa docynnau National Rail, ar wasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru yn unig neu ar wasanaethau bws sy’n cymryd rhan.

 

Ein partneriaid bysiau

Bysiau Dyma restr o'r cwmnïau bysiau yng Nghymru a fydd yn derbyn ‘Tocyn Crwydro Cymru’:

  • Arriva Cymru
  • First Cymru
  • Stagecoach South Wales

 

Map

Map Gogledd Cymru - Tocyn Rover

 

Telerau ac amodau

  • Mae ffiniau parthau wedi’u gosod yn ôl y ffiniau sirol sydd wedi’u rhestru. Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Meirionnydd, Wrecsam, Ceredigion.

  • Bydd y tocyn pob parth yn caniatáu teithio ar drên rhwng Machynlleth a Gobowen ar lein y Cambrian.

  • Yn ddilys ar wasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru a Avanti West Coast.

  • Mae'r gostyngiad yn berthnasol i’r Cardiau Trên canlynol: 16-25, 26-30, Pobl Hŷn, Pobl Anabl, Dau Berson (fesul Oedolyn).

  • Yn ddilys ar unrhyw drên yn y parthau penodol.

  • Maen nhw ar gael i’w prynu mewn unrhyw swyddfa docynnau National Rail, ar wasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru yn unig neu ar wasanaethau bws sy’n cymryd rhan.
  • Pris yn ddilys hyd at 31 Rhagfyr 2024.