Rydym yn gwneud gwelliannau yn y cefndir..

Ddydd Mawrth 7 Rhagfyr 2021 gwnaethom newid ein system archebu ar-lein felly wrth brynu tocyn efallai y bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif newydd ar ein gwefan neu lawrlwytho ein ap TrC newydd. 

Mae hyn yn golygu, os ydych chi wedi cofrestru gyda ni eisoes, bydd angen i chi nodi'ch enw defnyddiwr, cyfrinair a'ch manylion talu eto, er mwyn agor cyfrif. 

O ddydd Mawrth 7 Rhagfyr 2021 fe wnaethom newid i ap newydd Trafnidiaeth Cymru.

Mae ein ap TrC newydd yn caniatáu ichi brynu a rheoli tocynnau o'ch ffôn clyfar ac olrhain eich taith mewn 
amser real. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth deithio hwylus i chi ar gyfer eich taith, felly gallwch chi bob amser gael yr wybodaeth ddiweddaraf o ran pa amser y byddwch chi'n cyrraedd eich cyrchfan a'r cyfleusterau sydd ar gael ar eich taith. 

Mae'r nodweddion gwell hyn yn ei gwneud hi'n haws ac yn gyflymach i'n cwsmeriaid gael gafael ar wybodaeth gyfoes a phrynu tocynnau yn gyflym ac yn rhwydd.

Ddydd Mawrth 7 Rhagfyr, disodlwyd ap TrC Rail o ddefnydd cwsmeriaid. Os oes gennych docynnau wedi'u storio
yn ap 'TfW Rail' fel rheol bydd y rhain yn weithredol am hyd at 12 wythnos ar ôl i chi eu prynu fel y gallwch eu defnyddio.

Fodd bynnag, rhaid i chi ddefnyddio'r tocynnau hyn cyn i ni ffarwelio â'r hen ap ddydd Sul 6 Mawrth 2022. 

Oes gennych chi docynnau Multi-flex wedi'u storio yn ein hen ap?

Yn yr un modd â thocynnau eraill, bydd tocynnau Multi-flex* yn parhau i weithio tan ddydd Sul 6 Mawrth 2022 i'ch galluogi i ddefnyddio'r holl docynnau heb eu defnyddio.  Mae eich 12 tocyn Multi-flex yn ddilys am 3 mis o'r diwrnod y gwnaethoch eu prynu.

 *Mae tocyn Multi-flex 12 tocyn siwrnai sengl yn costio’r un peth â 5 tocyn Dychwelyd Dydd Unrhyw Amser (10 taith sengl), gan arbed yr hyn sy'n cyfateb i un daith gyflawn i chi, ewch i trc.cymru/multiflex i gael mwy o fanylion.

Darganfyddwch fwy ar sut i lawrlwytho'ch ap TrC newydd

 

 Apple App Store Button

Google Play Store Button

 

Cwestiynau Cyffredin

  • A ddylwn i roi’r gorau i ddefnyddio fy ap TfW Rail presennol ?
    • Os nad oes gennych chi unrhyw docynnau wedi’u prynu sydd heb eu defnyddio ar eich Ap ‘TfW Rail’, gallwch lwytho i lawr a dechrau defnyddio ein ‘Ap TrC’ newydd o ddydd Mawrth 7 Rhagfyr 2021 ymlaen. 

  • ydda i’n dal yn gallu defnyddio fy nhocynnau sydd wedi’u storio yn yr hen ap?
    •  Byddwch. Bydd Ap ‘TfW Rail’ yn fyw am 12 wythnos a byddwch yn gallu defnyddio eich tocynnau tan ddydd 6 Mawrth 2022.

      Mae eich 12 tocyn Multiflex yn ddilys am dri mis o’r diwrnod y gwnaethoch eu prynu.

  • Pryd alla i ddechrau defnyddio’r ap newydd?
    • Bydd yr ap newydd yn fyw yn y siop apiau o ddydd Mawrth 7 Rhagfyr 2021 ymlaen.