Brecwast Dosbarth Cyntaf

Mae ein bwydlenni tymhorol yn defnyddio'r cynhwysion lleol gorau.
Tarwch olwg ar beth allwch chi ei ddisgwyl pan fyddwch chi’n teithio gyda ni.

 

Y brecwast Cymreig llawn | £10.50

Selsig morgannwg, bacwn cefn, pwdin gwaed, ffa pob, madarch, hash tatws, wyau wedi’u ffrio, tomatos wedi’u grilio a thost.


Y brecwast llysieuol/figan | £10.50

Selsig figan wedi’u grilio, afocado wedi’i falu, hash tatws, ffa pob, madarch, tomatos wedi’u grilio a thost. Mae modd ei fwynhau gydag wyau neu hebddynt.


Y brecwast mawr | £11.50

Bacwn cefn, selsig porc cymreig, pwdin gwaed, wyau wedi’u ffrio, ffa pob, hash tatws, madarch, tomatos wedi’u grilio a thost.


Wy wedi’i botsio ar dost | £5.45

Wy wedi’i botsio’n ysgafn ar dost.


Uwd | £4.45

Ceirch wedi’u coginio mewn llaeth ceirch, gyda surop masarn melys ac aeron haf.


 

Mynnwch olwg ar ein bwydlen frecwast fel PDF

 

Darperir yr holl fwyd a diod gan Trafnidiaeth Cymru. Mae’r cynnyrch yn amodol ar faint sydd ar gael ac mae’r prisiau’n gywir ar 1 Ebrill 2024, ond mae’n bosibl y byddant yn newid.

  • Oes gennych chi alergeddau?
    • Os oes gennych chi alergedd neu anoddefiad bwyd, siaradwch ag aelod o’r tîm cyn archebu. Gallwn ddweud wrthych chi beth yw’r holl alergenau/cynhwysion penodol yn ein bwyd. Gan fod ein cegin yn trin bwydydd sy’n cynnwys blawd, wyau, llaeth, cnau ac alergenau eraill, mae bob amser risg o groeshalogi, felly ni allwn warantu bod unrhyw gynnyrch yn gwbl rydd o unrhyw alergen.