Dosbarth Cyntaf bwydlen cinio neu swper

Dau gwrs £21.95

Tri chwrs £24.95

Dau gwrs gyda photel o win y tŷ 75cl £37

Tri chwrs gyda photel o win y tŷ 75cl £40

 

Bwydlen o’r Radd Flaenaf

Mae ein bwydlenni tymhorol yn defnyddio'r cynhwysion lleol gorau. Rydyn ni'n hoffi eu cadw mor ffres â'r bwyd rydyn ni'n ei weini, ac mae ein cogyddion dawnus yn arloesi'n gyson i ddod â chyfuniadau newydd blasus i chi. Cymerwch olwg ar yr hyn y gallwch ei ddisgwyl pan fyddwch yn teithio gyda ni.

Weithiau gall argaeledd stoc effeithio ar ba fwyd a diod y gallwn eu gweini ar ein trenau. Bydd eich gwesteiwr yn rhoi gwybod i chi os nad oes rhywbeth ar gael a gweld a hoffech chi ddewis arall.

 

I ddechrau

Cawl cartref tomato a basil

Wedi’i weini gyda bara crystiog twym a menyn Cymreig. Hyfryd.


Rarebit Cymreig

Caws wedi’i doddi ar dost gyda bacwn, wedi’i weini gyda salad tomatos a winwns coch crensiog â dresin.


Samosa tatws a chennin (VG)

Wedi’i flasu’n ysgafn gyda sbeisys cyrri a’i weini â dresin Indiaidd a choriander er mwyn ychwanegu blas.


 

Y prif gwrs

Siancen cig oen wedi’i goginio’n araf

Wedi’i weini gyda saws gwin coch a mintys, gyda phiwrî pomme â chennin syfi a ffa gwyrdd wedi’u trwytho â garlleg.


Draenogyn môr wedi’i ffrio (GF)

Wedi’i weini gydag ychydig o olew lemwn, cennin pupurog a thatws newydd wedi’u ffrio’n ysgafn.


Wellington Pwmpen Cnau Melyn (VG)

Clasur figanaidd, gyda phiwrî pomme â chennin syfi a ffa gwyrdd wedi’u trwytho â garlleg.


 

I bwdin

Tarten Lemwn (VG)

Llenwad lemwn llyfn a chrwst toes crimp, wedi’i weini gyda chŵli mafon ffres.


Pwdin taffi gludiog

Pwdin taffi gludiog twym gyda saws taffi a hufen tolch. Blasus.


Detholiad o gawsiau Cymreig

Ein detholiad o gawsiau clasurol Cymreig, wedi’u gweini gyda chracers ceirch a siytni âl.
(£3 ychwanegol)


 

Mynnwch olwg ar ein bwydlen pryd nos fel PDF

 

Darperir yr holl fwyd a diod gan Trafnidiaeth Cymru. Mae’r cynnyrch yn amodol ar faint sydd ar gael ac mae’r prisiau’n gywir ar 1 Ebrill 2024, ond mae’n bosibl y byddant yn newid.

  • Oes gennych chi alergeddau?
    • Os oes gennych chi alergedd neu anoddefiad bwyd, siaradwch ag aelod o’r tîm cyn archebu. Gallwn ddweud wrthych chi beth yw’r holl alergenau/cynhwysion penodol yn ein bwyd. Gan fod ein cegin yn trin bwydydd sy’n cynnwys blawd, wyau, llaeth, cnau ac alergenau eraill, mae bob amser risg o groeshalogi, felly ni allwn warantu bod unrhyw gynnyrch yn gwbl rydd o unrhyw alergen.