Cyfle i fwynhau cynnyrch blasus Cymru a chefnogi talent o Gymru
Mae tarddiad ein bwyd a diod yn bwysig i ni. Rydyn ni’n ymfalchïo mewn prynu yn gynaliadwy, gyda gofal.
Mae llawer o’r cynnyrch blasus rydyn ni’n eu cynnig wedi’u gwreiddio yng ngwaith caled pobl mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru.
Rydyn ni’n prynu ein bwyd a’n diod yn lleol lle gallwn ni er mwyn i chi gael cyfle i fwynhau cynnyrch gwych Cymru. Ar yr un pryd, rydyn ni’n helpu cyflenwyr talentog o Gymru i ffynnu ac rydyn ni’n rhoi’n ôl i gymunedau yng Nghymru, gan gefnogi swyddi lleol ac economïau lleol llewyrchus.
Yn ogystal, mae cadwyni cyflenwi mwy cynaliadwy, byrrach, yn well i’r amgylchedd.
Pwy yw ein cyflenwyr?
Rydyn ni’n meithrin cysylltiadau â chyflenwyr sy’n rhannu ein hymrwymiad i ddefnyddio cynnyrch Cymreig go iawn.
Ond i ni, mae’n fwy na dim ond defnyddio bwyd a diod lleol. Mae hefyd yn ymwneud â’n hymrwymiad i gynaliadwyedd a chael effaith gadarnhaol ar gymunedau a diwylliant Cymru.
Dim ond gyda chyflenwyr sy’n rhannu ein gwerthoedd a’n hymrwymiad i gyflog tecach, amgylcheddau gwaith mwy diogel a lleihau’r deunydd pecynnu yn ogystal â’u heffaith carbon rydyn ni’n gweithio.
Dyma stori ychydig o’n cyflenwyr
Radnor Hills
Mae wedi’i hidlo’n naturiol drwy'r creigiau, felly mae’n llawn mwynau. Mae Radnor yn potelu dŵr ffynnon eithriadol o bur i dorri eich syched.
Mae Radnor wedi buddsoddi mewn cyfleuster ailgylchu o’r radd flaenaf ar y safle. Mae’r poteli plastig yn 100% ailgylchadwy ac wedi’u gwneud o 30% deunydd wedi’i ailgylchu.
Mae'r cwmni hefyd yn chwarae rhan weithredol yng nghymunedau lleol Powys, gan gynnwys noddi Gŵyl Rygbi ‘Radnor 7’s’ yng Ngharnifal Llanandras ac yn Nhrefyclo.
Celtic Pride
Rydyn ni’n falch i gael cefnogi ffermwyr Cymru drwy ddod â chig eidion o’r radd flaenaf i chi.
Mae Celtic Pride yn frand premiwm o Gastell Howell, sef y prif gyfanwerthwr gwasanaethau bwyd annibynnol yng Nghymru.
Mae tirwedd a hinsawdd Cymru yn golygu bod gennym ddigonedd o laswelltiroedd i anifeiliaid gael pori, felly dydy ein ffermydd ddim yn dibynnu ar fwyd ynni-ddwys sy’n cael ei fewnforio. Mae hyn yn golygu eich bod chi’n cael cig eidion sydd wedi’i fagu yn y ffordd Gymreig – llai o garbon, mwy o werth cymdeithasol.
Paned Gymreig
Wnaeth rhywun sôn am baned?
Awydd ‘Paned Gymreig’ gan y cwmni o Gŵyr? Maen nhw’n defnyddio’r te gorau i fragu’r Baned berffaith.
Mae'r cwmni wedi datblygu bagiau te bioddiraddadwy ac wedi lleihau faint o ddeunydd pecynnu mae’n ei ddefnyddio drwy gynnig te dail rhydd. Mae’n gweithio gyda chyflenwyr i leihau faint o blastig sydd yn y deunydd pecynnu. Mae te a choffi’r cwmni hefyd wedi’u hardystio gan y Gynghrair Fforestydd Glaw.
Wafflau Tregroes
Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi dwymo Waffl Tregroes drwy ei roi ar ben eich mwg o goffi neu de?
Mae Tregroes wedi bod yn pobi’r danteithion blasus hyn yn Llandysul, Dyffryn Teifi, ers 40 mlynedd a mwy, ac maent ar gael ar ein gwasanaeth troli i chi eu blasu.
Mae Tregroes yn fusnes sy’n eiddo i’r gweithwyr, ac mae’r rhan fwyaf o’r gweithlu yn dod o Landysul a’r cyffiniau. Bob awr, maent yn pobi 18,000 o wafflau ffres ar eu llinell gynhyrchu newydd, fodern.