Archebwch fyrbryd yn hawdd heb orfod symud modfedd

Os byddai'n well gennych beidio â gorfod codi o'ch sedd i fynd i'r bar bwyd, beth am roi cynnig ar ein gwasanaeth archebu wrth y sedd? Mae'n wasanaeth cyflym, rhwydd a chyfleus.

Yn syml, hofrwch gamera eich ffôn dros y cod QR ar eich bwrdd neu gefn y sedd o'ch blaen a dewiswch opsiwn y wefan. Gellir dod o hyd iddo ar frig neu waelod eich sgrin yn dibynnu ar eich ffôn. Os nad yw'r cod QR ar gael neu os nad yw'ch ffôn yn ei adnabod, dilynwch y ddolen hon i fewnbynnu manylion eich taith. 

Byddwch yn gallu gweld amrywiaeth o fyrbrydau a diodydd blasus gan gynnwys bapiau brecwast blasus, brechdanau ffres gyda'ch dewis o fara, danteithion melys blasus a dewisiadau iachach, byrbrydau sawrus, diodydd poeth a chwrw a gwirodydd gan gynhyrchwyr bwyd a diod rhagorol Cymru. Bwrwch olwg ar y fwydlen i weld beth sy'n mynd â'ch bryd.

Ar ôl gwneud eich dewis, ychwanegwch eich rhif sedd - gofynnwch i'ch gwesteiwr os nad ydych yn siŵr beth ydyw. Dewiswch eich bwyd a thalu a byddwn yn dod ag ef i'ch sedd.

 

Beth os nad yw'r hyn rwy’n ei ddewis ar gael?

Bydd eich gwesteiwr yn rhoi gwybod i chi ac yn gofyn a ydych chi eisiau rhywbeth arall. Peidiwch â phoeni, dim ond pan fydd yr hyn rydych chi wedi'i ddewis wedi'i weini chi y bydd taliad yn gadael eich cyfrif. Os nad yw ar gael am ba bynnag reswm, ni chodir tâl arnoch.

 

Pa wasanaethau trên sy’n cynnig gwasanaeth archebu o sedd?

Ar hyn o bryd, dim ond ar ein Prif Wasanaeth rhwng Caerdydd a Chaergybi a Chaerdydd a Manceinion y mae modd archebu bwyd i'ch sedd. Ein bwriad yw cynnig y gwasanaeth hwn ar ein holl drenau sy'n darparu bwyd a diod. Fe roddwn wybod i chi pan fydd hyn yn digwydd.

 

Sut ydw i'n dod o hyd i wybodaeth am alergenau?

Os oes gennych alergedd neu anoddefiad, bydd yr wybodaeth yn ymddangos ar y sgrin wrth archebu.

Gallwch ofyn i’r gwesteiwr os ydych yn ansicr neu am gael rhagor o wybodaeth.