Y fenter gymdeithasol Elite Clothing Solutions yn darparu gwisgoedd i blas

Rydyn ni wedi lansio blas, ein gwasanaeth bwyd a diod, er mwyn i chi allu mwynhau’r amrywiaeth newydd o fwyd a diod ffres a blasus sydd ar gael yn ystod teithiau hir ar ein trenau. Boed hynny’n bryd tri chwrs ym moethusrwydd y Dosbarth Cyntaf, byrbryd poeth o’n bar bwyd, neu de neu goffi gyda danteithion melys o’r troli.

Ond mae blas yn cynnig llawer iawn mwy na bwyd blasus yn unig, oherwydd mae hefyd yn cyflawni pethau da yn ein cymunedau. Erbyn hyn, rydyn ni’n mynd at gyflenwyr lleol talentog i gael mwy o’r cynhwysion ar gyfer ein bwyd a’n diod. Mae hyn yn creu mwy o swyddi lleol ac yn rhoi’r cyfle i chi flasu rhai o’r bwydydd gorau sydd gan Gymru i’w cynnig. 

A phan ddaw hi’n fater o brynu’n lleol, mae hynny’n golygu mwy na dim ond ein bwydlenni.

blas branded apron

Rydyn ni’n falch o fod wedi gweithio mewn partneriaeth ag Elite Clothing Solutions, menter gymdeithasol yng Nglynebwy, i ddarparu’r gwisgoedd unigryw i blas – sy’n cael eu gwisgo gan ein gwesteiwyr ar ein gwasanaeth bwyd Dosbarth Cyntaf. Mae hyn yn cynnwys popeth o ffedogau i grysau, siwmperi, crysau-t a chrysau polo.

Roedden ni eisiau creu gwisg smart ac unigryw i’n gwesteiwyr a oedd yn cyfleu eu proffesiynoldeb, eu sgiliau a’u hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth bwyd a diod unigryw i’n cwsmeriaid. Roedd hi hefyd yn bwysig bod y gwisgoedd yn ymarferol, oherwydd nid hawdd ydy gweini bwyd a diod ar drên sy’n symud.

Fe wnaeth y tîm talentog yn Elite ymateb i’r her, gan weithio’n agos gyda ni i greu gwisg ymarferol o ansawdd uchel sy’n gyfforddus ac mae ein staff yn falch o’i gwisgo.

Elite Clothing Solutions worker creating the blas branded apron

Mae Elite yn frand o Gymru, ac yn un o’r ychydig gyflenwyr dillad pwrpasol sy’n gwneud gweithgynhyrchu’n fwy cynaliadwy yn y DU. Mae cynhyrchu lleol yn golygu llai o allyriadau carbon, sy’n helpu i warchod ein hamgylchedd.

Fel menter gymdeithasol, mae Elite yn cyflogi pobl leol a oedd yn arfer bod yn ddi-waith oherwydd anabledd neu amgylchiadau personol, gan eu helpu i ddysgu, hyfforddi a datblygu eu sgiliau mewn amgylchedd gwaith cynhwysol. Mae Elite hefyd yn cefnogi cyflogadwyedd tymor hir yn lleol.

Maent hefyd yn y broses o ehangu'r fenter, gyda chynlluniau i ddyblu’r gweithlu a chyflwyno peiriannau argraffu finyl newydd yn eu ffatri yng Nglynebwy.

A server wearing the blas branded apron

Rydyn ni’n falch o weithio gydag Elite i ddod â gwasanaeth blas yn fyw. Rydyn ni eisiau gwasanaethu ein cwsmeriaid a helpu ein cymunedau i ffynnu ar yr un pryd.