
Gweithredu diwydiannol
Tocynnau cyfredol
Mae gan ddeiliaid tocynnau advance hawl i newid eu taith gan ddefnyddio 'Archebu â Hyder' a chaiff y ffioedd i newid y siwrnai eu canslo os gwneir cais cyn 18:00 diwrnod y daith. Gallwch ddal newid eich tocynnau ar ôl yr amser hwn, a hyd at amser ymadael, ond bydd yn rhaid talu ffi o £10 i newid y daith. Mae hyn yn berthnasol i bob tocyn a newidir.
Archebu â Hyder ond yn berthnasol i gwsmeriaid sydd wedi prynu drwy sianeli gwerthu y mae TrC yn berchen arnynt.
Gall cwsmeriaid sydd â thocynnau Unrhyw Amser, Tocynnau cyfnodau tawelach neu Advance, hefyd tocynnau Ranger/Rover, ar gyfer gwmni trên (TOC) sydd ar streic - dyddiedig 31 Mai deithio naill ai ar y diwrnod cyn dyddiad y tocyn neu hyd at ddydd Llun 5 Mehefin 2023 | dyddiedig 2 a 3 Mehefin deithio naill ai ar y diwrnod cyn dyddiad y tocyn neu hyd at ddydd Mawrth 6 Mehefin 2023.
Os oes gennych docyn dwyffordd ac nad oes modd i chi wneud rhan gyntaf o'ch taith oherwydd y streic, caniateir ad-daliad ar eich tocyn hyd yn oed os nad yw streic yn effeithio ar ail ran eich taith. Mae'r un peth yn wir os yw streic yn effeithio ar y daith ddychwelyd ond nid ar ran gyntaf o'r daith.
Fel arall, gall cwsmeriaid hawlio ad-daliad llawn, heb unrhyw ffi weinyddol. Gall deiliaid tocyn tymor wneud cais am iawndal drwy’r broses Ad-daliad am Oedi (Delay Repay).
I gael gwybodaeth amser real am y gwasanaethau trên lawrlwythwch ap TrC neu i gael gwybodaeth am wasanaethau bws lleol amgen, ewch i wefan Traveline Cymru, ein partner cynllunio teithiau.
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithredu diwydiannol ewch i wefan National Rail.
Gwaith trawsnewid y Metro
I gael gwybod am y gwaith trawsnewid y Metro a all effeithio ar yr amserlen, ewch i’r dudalen hon.