TrawsCymru bus driver

Recriwtio ystod wahanol o yrwyr bws

Mae galw aruthrol am yrwyr bws ar draws Cymru a’r DU gydag ymgyrch fawr i recriwtio gyrwyr o wahanol gefndiroedd. Mae bod yn yrrwr bws yn yrfa sydd ar gael i bawb gyda’r sgiliau a’r agwedd iawn, beth bynnag yw eich oed, rhywedd, tarddiad ethnig neu dueddiad rhywiol. Mae amrywiaeth o swyddi llawn-amser a rhan amser ar gael.  Y gyfrinach yw dod o hyd i'r hyn sy'n gweithio orau i chi.

 

Hydrobus at a TfW train station

Arloesi i ddarparu bysus glanach a mwy cynaliadwy

Mae teithio ar fws eisoes yn ffordd lanach a mwy cynaliadwy o deithio sy’n golygu bod llai o siwrneiau’n cael eu gwneud yn y car.

Mae llawer o arloesi’n digwydd yn y sector bysus a thechnegau newydd yn cael eu datblygu i wneud bysus yn gerbydau mwy cyfeillgar i’r amgylchedd. Mae awdurdodau lleol ar draws y DU yn prynu bysus newydd gydag allyriadau isel iawn ac mae ymchwil ac arloesi’n digwydd fydd yn caniatáu i fysus ddefnyddio tanwyddau glân fel hydrogen, a chael eu rhedeg ar drydan.

 

fflecsi vehicle parked up

Gwasanaethau hyblyg i gwrdd ag anghenion teithwyr

Mae effaith Covid-19 wedi creu impetws i gyflwyno gwasanaethau bws mwy hyblyg sy’n ymateb yn well i’r galw ac i anghenion pobl sy’n teithio ar fws.

Ym mis Mai 2020 fe wnaethom gyflwyno Fflecsi, cynllun peilot cydweithredol rhwng TC (TfW) a chwmnïau bws lleol, yn disodli nifer o wasanaethau bws lleol ar amserlen gyda gwasanaethau mwy hyblyg sy’n gallu codi a gollwng pobl mewn lleoliad drwy ofyn, yn lle mewn gorsafoedd bws penodol.

 

 

Cwestiynau cyffredin

  • A allai bod yn yrrwr bws neu goetsys moethus fod yn yrfa i chi?
    • A oes gennych sgiliau gyrru da, yn gyfeillgar a hawddgar, gyda sgiliau rhifedd sylfaenol a gwybodaeth dda am lwybrau ffyrdd lleol neu genedlaethol?  Efallai y dylech feddwl am yrfa fel gyrrwr bws neu goetsys moethus. 

      Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi ymdrechion i recriwtio gyrwyr, yng Nghymru a phellach i ffwrdd, ac mae amrywiaeth eang o wahanol gyfleoedd ar gael. 

  • Pam ddylwn i fod yn yrrwr bws / coetsys moethus?
    • Mae bod yn yrrwr bws neu goetsys moethus yn yrfa gyffrous a phrysur sy’n cynnig cyfleoedd gwych i ddringo’r ysgol mewn rôl fedrus, mewn sector trafnidiaeth deinamig sy’n tyfu a newid. Mae amrywiaeth o rolau ar gael sy’n cynnig gwahanol brofiadau a manteision unigryw felly mater o ddod o hyd i’r rôl orau i chi ydy o.

      Gwasanaethu cymunedau lleol

      Fel gyrrwr bws lleol, byddwch yn gwasanaethu a chael cyswllt â chymunedau lleol drwy ddarparu gwasanaeth hanfodol sy’n cynnig achubiaeth i lawer, gan gynnwys y nifer enfawr o bobl nad oes ganddynt fynediad at geir, pobl mewn gwaith, pobl ifanc a myfyrwyr. Mae gwasanaeth bws hefyd yn sbardun allweddol i geisio lleihau tagfeydd traffig lleol a llygredd yn ein cymunedau.

      Teithio pellter hir yn y Deyrnas Unedig a thramor

      Mae bod yn yrrwr coetsys moethus yn gyfle cyffrous i deithio dros bellteroedd hirach ac i amrywiaeth o wahanol gyrchfannau ar draws y DU a thramor. Os ydych yn gyrru dros bellter hir, byddwch yn aml yn gweithio gyda ‘bydi’ gan roi amser i chi orffwys rhwng siwrneiau a threulio amser mewn llecynnau hardd, cyrchfannau gwyliau a hamdden ar draws y DU, ac efallai ymhellach i ffwrdd yn Ewrop.

      Datblygiad gyrfa 

      Mae bod yn yrrwr bws yn rôl y gallwch dyfu ynddi gyda chyfleoedd gwych i hyfforddi a datblygu a’ch rhoi mewn sefyllfa dda i ddringo’r ysgol yn eich gyrfa. Wrth i chi ennill mwy o brofiad a hyfforddiant, bydd digon o gyfle i symud ymlaen o fod yn yrrwr bws i swyddi mentora a goruchwylio, a hefyd i swyddi uwch sy’n talu’n well fel Rheolwr Bysus.

      Swyddi rhan-amser 

      Mae swyddi rhan-amser ar gael, allai gynnwys gyrru bysiau ysgol neu goleg ar adegau penodol o'r dydd. Yn ogystal â gwasanaethu cymunedau lleol bydd gennych swydd fydd yn addas i'ch amgylchiadau personol chi.

  • Beth fydda i yn ei wneud?
    • Fel gyrrwr bws / coetsys moethus, byddwch yn cludo teithwyr o un lle i’r llall. Ar rai bysus, byddwch hefyd yn gyfrifol am wirio tocynnau a phasys y teithwyr. 

      Wrth yrru, bydd angen i chi gadw at yr amserlen gymaint â phosib. Gall traffig neu ddamweiniau achosi oedi. Ond mae gan y rhan fwyaf o ffyrdd lôn fysus arbennig i’ch helpu i aros ar amser.

  • I bwy fydda i’n gweithio?
    • Mae awdurdodau lleol a chwmnïau bws preifat yn recriwtio gyrwyr i wasanaethu cymunedau lleol. Gallech gael eich cyflogi fel gyrrwr coetsys moethus, gweithio i gwmni llogi coetsys moethus preifat, neu i gwmni bysus gwyliau.

  • Ble fydda i’n gyrru?
    • Mae’r llwybrau a gynigir gan wahanol gwmnïau bysus yn amrywio ac yn gallu cynnwys llwybrau lleol a llwybrau cyflym pellter hir. Gan ddibynnu ar y math o rôl yr ydych yn chwilio amdani, gallech yrru yng Nghymru, ar draws y DU neu hyd yn oed yrru bysus gwyliau i Ewrop.

 

Mwy o wybodaeth

Holwch i weld a fyddai bod yn yrrwr bws yn iawn i chi. 

Mae mwy o wybodaeth am y gwahanol rolau, pa sgiliau sydd eu hangen, y cyflog a’r oriau, sut y gallwch ymgeisio, a mwy, ar gael yn

Darllen mwy