Profiad gwaith gyda Trafnidiaeth Cymru
Dysgwch sut beth yw gweithio i ni. Cewch ennill sgiliau gwerthfawr ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
Ymunwch â ni am gyfnod byr (hyd at dair wythnos). Mae fel arfer yn ddi-dâl.
Beth yw’r manteision?
- Cewch weld beth rydyn ni’n ei wneud, boed hynny mewn swyddfa neu ar rwydwaith trafnidiaeth Cymru – bydd hyn yn eich helpu i benderfynu a yw gyrfa ym maes trafnidiaeth yn addas i chi.
- Byddwch yn cymryd rhan mewn tasgau a gweithgareddau a fydd yn eich helpu i ddysgu a datblygu eich sgiliau.
- Cewch brofiad ymarferol drwy roi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu ar waith mewn sefyllfaoedd go iawn.
- Mae’n gyfle i roi dechrau da i’ch gyrfa.
Sut mae gwneud cais?
Yn gyntaf, bydd angen i chi gwblhau ein rhaglen profiad gwaith ar-lein gan ddefnyddio llwyfan o'r enw Springpod. Rydyn ni wedi gweithio mewn partneriaeth â nhw i greu rhaglen gyffrous a rhyngweithiol sy’n agored i bobl 13 oed a hŷn. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod am y rhaglen:
- Cewch gofrestru unrhyw bryd.
- Mae’n cymryd tua 7 awr i gwblhau’r rhaglen - gallwch wneud hyn yn eich pwysau.
- Byddwch yn dysgu am drafnidiaeth a’n cenhadaeth i newid y ffordd mae Cymru’n teithio.
- Byddwch yn darganfod y gyrfaoedd gwahanol sydd ar gael i chi yn TrC.
- Mae’n rhyngweithiol - gyda gweithgareddau, cwisiau ac awgrymiadau defnyddiol gan ein cydweithwyr.
- Byddwch yn cael tystysgrif y gallwch ei hychwanegu at eich proffil LinkedIn neu’ch CV.
I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd dan sylw ac i gofrestru, cliciwch yma:
Trawsnewid Teithio: Rhwydwaith ar gyfer y Dyfodol | Springpod
Beth am brofiad gwaith wyneb yn wyneb?
Ar ôl i chi gwblhau ein rhaglen profiad gwaith ar-lein a chael eich tystysgrif, byddwn yn ystyried lleoliad wyneb yn wyneb mewn maes o’ch dewis. Bydd yn para 1-2 wythnos.
Nid yw cwblhau ein rhaglen profiad gwaith ar-lein yn gwarantu lleoliad wyneb yn wyneb. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i fodloni eich cais.
Rydyn ni’n cynnig profiad gwaith mewn llawer o’n timau, gan gynnwys:
- Adnoddau Dynol
- Cyllid
- Peirianneg
- Cynaliadwyedd
- Cynllunio Trafnidiaeth
- Gorsafoedd
Ni allwn gynnig lleoliadau ym meysydd goruchwylio na gyrru trenau oherwydd bod y rolau hyn yn hanfodol bwysig o ran diogelwch. Hefyd, efallai fod gofynion oedran gyfer rhai rolau am resymau iechyd a diogelwch.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am wneud profiad gwaith gyda ni, cysylltwch ag earlytalent@tfw.wales.