Croeso! Dylai diwrnodau allan i’r teulu a theithiau dyddiol fod yn gyffrous ac yn ddidrafferth. Darllenwch ein canllaw ymarferol ar deithio gyda phlant, dysgwch fel mae plant yn teithio am ddim ar draws ein rhwydwaith a chael manylion llawn am docynnau trên i blant.

 

Tocyn trên teulu

Mae’n syml ac yn fforddiadwy trefnu diwrnod allan i’r teulu ledled Cymru neu yn ardaloedd y ffin. Mae plant dan 5 oed bob amser yn teithio am ddim ar draws holl wasanaethau trên y DU heb fod angen tocyn.

Mae ein tocyn Teulu yn docyn trên dwyffordd sy'n caniatáu i hyd at ddau o blant dan 16 oed deithio am ddim ar ein rhwydwaith gyda phob oedolyn sy'n talu am docyn.

Prynwch eich tocyn Teulu yn gyflym ac yn hawdd:

  • Ar ein ap neu gynllunydd teithiau
  • Wrth beiriannau tocynnau
  • Gan reolwr y trên
  • O swyddfeydd tocynnau
  • Dros y ffôn

 

Teithio gyda phlant ifanc, pramiau a chadeiriau gwthio

Rydyn ni’n gwybod ei bod hi weithiau’n gallu bod yn anodd teithio gyda phlant ifanc a phram, cadair wthio neu fygi. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud eich siwrnai gyda ni mor hawdd â phosibl.

 

Yn yr orsaf

Ceir bariau tocynnau awtomatig mewn rhai o’n gorsafoedd. Mae gan y rhain gatiau lletach ar gyfer cadeiriau gwthio a byddwn yn gadael y rhain ar agor pan nad oes staff wrth y rhwystrau.

Cofiwch wneud yn siŵr bod brêc eich pram neu’ch cadair wthio arnodd pan fyddwch yn aros ar y platfform. Cadwch lygad barcud ar blant ifanc bob amser er mwyn helpu i’w cadw’n ddiogel.

Bydd angen i chi, neu rywun sy’n teithio gyda chi, gario eich pram neu’ch cadair wthio ar y trên.

Mae rhagor o wybodaeth am hygyrchedd yn ein gorsafoedd ar gael yma.

 

Ar y tren

Byddwn yn gwneud ein gorau glas i’ch helpu i gael sedd os oes gennych chi blant ifanc, pram neu gadair wthio.

Os gallwch chi, plygwch eich pram a’i storio yn y rac bagiau, oherwydd gall rhai o’n gwasanaethau fod yn brysur. Fel arfer, mae’n well gwneud hyn cyn mynd ar y trên os gallwch chi.

Efallai na fyddwch bob amser yn gallu rhoi eich pram neu’ch cadair wthio wrth eich ymyl yn ddiogel ar y trên. Os oes gennych fabi bach, efallai yr hoffech ddod â chariwr neu sling.

Mae cyfleusterau newid babanod ar bob un o’n trenau.

 

Plant yn teithio ar eu pennau eu hunain

Byddai bob amser yn well gennym i blant a phobl ifanc fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol wrth deithio ar y rheilffordd. Dylai plant deithio gydag oedolyn cyfrifol nes eu bod yn ddigon aeddfed i gadw eu hunain yn ddiogel. Gall y rheilffordd fod yn lle peryglus. Gallwch eu helpu i baratoi. Siaradwch â nhw cyn eu siwrnai am sut i gadw’n ddiogel ar y rheilffordd ac wrth ei hymyl, a beth i’w wneud mewn argyfwng.

Byddwn yn cysylltu â’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig os oes gennym bryderon am ddiogelwch plentyn sy’n teithio ar ei ben ei hun ar ein rhwydwaith.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.

 

Cwestiynau cyffredin

Ydy plant yn teithio am ddim ar drenau yng Nghymru?

Ydy. Mae plant dan 5 oed yn teithio am ddim ar bob trên yn y DU. Ar wasanaethau TrC, mae ein tocyn Teulu yn caniatáu i hyd at ddau blentyn dan 16 oed deithio am ddim gyda phob oedolyn sy’n talu am docyn, ar unrhyw adeg.

Sut ydw i’n prynu tocyn Teulu?

Prynwch nhw’n gyflym ac yn hawdd ar ein ap neu ein gwefan. Gallwch hefyd eu prynu mewn peiriannau tocynnau, swyddfeydd tocynnau, ar y trên neu dros y ffôn.

Beth yw’r awgrymiadau gorau ar gyfer teithio gyda phlant ar drenau?

Mae teithio y tu allan i oriau prysur, plygu cadeiriau gwthio cyn mynd ar y trên, pacio byrbrydau a defnyddio Wi-Fi ar y trên i’w diddanu yn gwneud teithio ar drenau i deuluoedd yn ddidrafferth ac yn bleserus.