
Rydyn ni’n cynnig Cynllun Teithio â Chŵn Cymorth mewn partneriaeth ag Assistance Dogs (UK).
Nod y cynllun yw codi ymwybyddiaeth o anghenion perchenogion cŵn cymorth ymhlith staff rheilffyrdd a chwsmeriaid.
Mae cŵn cymorth yn cael hyfforddiant dwys i’w paratoi i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Maen nhw’n cael eu hyfforddi i eistedd wrth draed eu perchennog ac mae angen lle arnyn nhw i eistedd neu i orwedd yn ystod eu taith.
Mae Assistance Dogs (UK) yn cynrychioli wyth elusen gofrestredig: Guide Dogs, Canine Partners, Dog A.I.D, The Seeing Dogs Alliance, Hearing Dogs for Deaf People, Medical Detection Dogs, Support Dogs a Dogs for Good.
Sut mae’n gweithio
Mae’r cynllun yn helpu cŵn cymorth a’u perchenogion i deithio’n gyfforddus ac yn ddiogel ar ein trenau drwy roi ‘ardal bwrpasol’ i’r ci.
Fe gewch chi gerdyn ‘Ci Cymorth Dan y Sedd’ personol sy’n weladwy iawn. Gallwch ailddefnyddio'r cerdyn yma. Mae’n ffitio yn y peth cadw seddi safonol ar ben y sedd wrth ymyl yr un rydych chi’n eistedd ynddi. Mae hyn yn rhoi gwybod i gwsmeriaid fod angen cadw’r sedd, a’r ardal oddi tani, yn wag ar gyfer eich ci.
Os oes angen help arnoch i fynd ar y trên ac oddi arno, neu i ddod o hyd i’ch sedd, gofynnwch i’r archwiliwr tocynnau neu i un o’n staff yn yr orsaf am gymorth.
Gwneud cais am eich cerdyn
Anfonwch e-bost atom gan roi eich enw a’ch cyfeiriad: community@tfwrail.wales
Byddwn ni’n postio’r cerdyn atoch cyn pen saith diwrnod gwaith. Gallwch ei ddefnyddio ar unrhyw wasanaeth trenau a weithredir gennym.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y cynllun, cysylltwch â’n tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid ar 03333 211 202 neu anfonwch e-bost i community@tfwrail.wales.
Cadw seddi
Ar drenau sy’n cynnig gwasanaeth cadw seddi, gall y tîm Cymorth wrth Deithio hefyd gadw dwy sedd i chi - un i chi a'r llall i’r ci cymorth orwedd o’i blaen.
-
Oeddech chi’n gwybod?Teithiwch yn SaffachGallwch gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pryd i deithio gan ddefnyddio ein Gwiriwr Capasiti.Gwirio capasiti