Mae Church Stretton yn dref farchnad hanesyddol fach yng nghanol Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Swydd Amwythig. Mae’n gorwedd o dan wastadedd ucheldirol llawn grug Cefn Hirfynydd, mewn dyffryn hyfryd. Mae gan y dref ddwy Warchodfa Natur Leol yn union gerllaw canol y dref, sy’n cynnwys tua 200 erw, un ar lawr y dyffryn gyda digonedd o rywogaethau gwlyptir a’r llall yn ardal goediog, a ddisgrifiwyd unwaith fel “y lle mwyaf heddychlon ym Mhrydain”.
Mae hanes hir Church Stretton yn amlwg yn yr adeiladau niferus sy’n dyddio’n ôl i oes y Tuduriaid, gyda phlaciau esboniadol i’w darllen wrth i chi gerdded o gwmpas. Cafodd y prif strydoedd siopa eu datblygu yn oes Edward, ac nid oes siopau cadwyn yn Church Stretton, dim ond llawer o fusnesau annibynnol, lleol sy’n helpu i greu ymweliad hudolus â’n tref hyfryd.
Mae Church Stretton ar brif reilffordd Trafnidiaeth Cymru o Amwythig i Lwydlo. Mae ganddi hefyd gysylltiad bws rheolaidd â’r ddwy dref, yn ogystal â gwasanaeth Bws Gwennol o gwmpas y bryniau ar benwythnosau’r haf.
5 peth i’w weld a’i wneud
- Mwynhewch yr amrywiaeth o siopau annibynnol, arbenigol cyn ymlacio yn un o’r caffis a’r tafarndai niferus, neu difethwch eich hun â byrbryd blasus o’r siop delicatessen artisan.
- I fwynhau’r golygfeydd panoramig ar draws Bryniau Swydd Amwythig, mae llawer o lwybrau cerdded gwych i fyny at Gefn Hirfynydd, neu i’r fryngaer ar ben Caer Caradog ar ochr arall y dyffryn.
- Ar benwythnosau’r haf, gallwch fynd ar daith Bws Gwennol ar draws i Warchodfa Natur Carneddau Teon, gan aros am ginio efallai yn The Bridges ar yr ochr arall i Gefn Hirfynydd.
- Ewch am dro o amgylch tawelwch Rectory Wood a Gwarchodfa Natur Leol Field gerllaw canol y dref, gyda’i dyluniad gwreiddiol wedi’i ddylanwadu gan “Capability” Brown, a gweld a allwch chi sylwi ar rai o’i nodweddion hanesyddol, fel y Tŷ Rhew. Neu, gallwch geisio gweld faint o blanhigion, pryfed ac adar gwlyptir y gallwch eu gweld yng Ngwarchodfa Natur Coppice Leasowes i’r gogledd o’r dref, a Llwybr Pren a Dôl Cudwell i’r de o’r dref.
- Ewch am dro i Ddyffryn Carding Mill i fwynhau ei nant hyfryd a chael cyfle i ddod ar draws rhai o ferlod Cefn Hirfynydd, cyn aros am de a chacen yng nghaffi’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Penwythnos yn Church Stretton
Mae Church Stretton, yn ei leoliad hyfryd, yn cynnig dihangfa wledig, ddelfrydol am ychydig ddyddiau gydag amrywiaeth o ddewisiadau, yn dibynnu ar ba mor weithgar rydych am fod. Gallwch fwynhau archwilio’r amrywiaeth anarferol o siopau a phori o amgylch y Ganolfan Hen Greiriau, cyn rhoi cynnig ar y gwahanol siopau te a choffi. Mae gennym amrywiaeth o fwytai ar gyfer pob chwaeth, o dafarndai, caffis a bwytai. A dim ond hanner milltir i’r gogledd ac i’r de o’r dref y mae pentrefi All Stretton a Little Stretton, y naill a’r llall yn rhoi mynediad i ddyffrynnoedd hardd Cefn Hirffordd a llwybrau i fyny’r bryniau, ac mae ganddynt dafarndai â bwyd gwych.
Gellir cyfuno'r daith o archwilio’r dref, gyda’i nifer o adeiladau hanesyddol a’i heglwys Normanaidd, gyda theithiau cerdded ysgafn o gwmpas un o'r Gwarchodfeydd Natur Lleol sydd gerllaw. Mae Dyffryn Carding Mill, taith gerdded fer o ganol y dref, yn boblogaidd gyda phlant ac oedolion fel ei gilydd, gyda llwybrau cerdded i’r rhaeadr leol, neu i fyny at Gefn Hirffordd. Gall rhieni ymlacio ym Mhafiliwn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, tra bo’r plant yn cael hwyl yn gwneud argaeau neu’n dal penbyliaid yn y nant.
Teithiau cerdded lleol
Dyma ddolen i gyfres o wyth taith gerdded fer yn Church Stretton a’r cyffiniau, y gallwch eu llwytho i lawr a’u hargraffu cyn i chi gyrraedd.
Fideo i godi awydd arnoch
Gwyliwch y fideo byr yma i weld pam mae Church Stretton a’r bryniau cyfagos yn denu cerddwyr, beicwyr a rhedwyr.
Gwybodaeth i ymwelwyr
Ewch i wefan Church Stretton i gael rhagor o wybodaeth cyn ac yn ystod eich arhosiad.
Galwch draw i’r Ganolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr sydd yn y Llyfrgell, ac sy’n cynnwys pob math o wybodaeth ddefnyddiol i ymwelwyr yn yr ardal. Ewch i wefan Ymweld â Church Stretton i weld yr oriau agor.
Ewch i wefan Visit Shropshire i gael rhagor o wybodaeth.
-
Cas-gwent Dewch i ddarganfod Visiting Chepstow
-
Caergybi Dewch i ddarganfod Visiting Holyhead
-
Ymweld â Chaerfyrddin Dewch i ddarganfod Visit Carmarthen
-