
"Llwydlo, mae'n debyg, yw'r dref harddaf yn Lloegr gyda thai Sioraidd ar allt uwchlaw afon Teme" - John Betjeman, 1943
Mae Llwydlo, sydd wedi’i lleoli ar gyrion Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Swydd Amwythig, yn Dref Farchnad sy’n enwog am ei diwylliant a’i bwyd. Fel cymuned fywiog, mae gan Lwydlo nifer o ddigwyddiadau a gwyliau’n cael eu cynnal yma drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys ein Gŵyl Fwyd enwog, Ffair Fai Flynyddol a Gŵyl Ymylol Llwydlo i enwi dim ond rhai.
Mae naws Canoloesol, Tuduraidd a Sioraidd yn perthyn i’r dref farchnad fach hon, sydd ag ychydig o dan 500 o adeiladau rhestredig. Ar hyd y strydoedd coblog mae amrywiaeth o siopau, bwytai blasus, ffefrynnau’r stryd fawr, a marchnad awyr agored wobredig.

Pethau y mae'n rhaid eu gweld
-
Castell Llwydlo - Cyfle i gerdded o amgylch tir y castell ac i archwilio'r ardaloedd lle’r oedd brenhinoedd, breninesau, tywysogesau, barnwyr ac uchelwyr yn arfer byw - cipolwg ar fywyd y gymdeithas ganoloesol a Thuduraidd.
-
Marchnad Llwydlo - Bwyd a diod lleol, crefftau crefftwyr, ategolion i'r cartref, eitemau fintej a llestri gwydr. Cyfle i fwynhau marchnadoedd bob dydd Llun, dydd Mercher, dydd Gwener a dydd Sadwrn, yn ogystal â marchnadoedd arbennig ar ddyddiau Iau a Sul penodol drwy gydol y flwyddyn.
-
Bragdy Llwydlo - Mewn hen sied reilffordd Fictoraidd wedi’i hadfer, mae’r bragdy wedi’i leoli 50m yn unig o orsaf Llwydlo. Gall teithwyr rheilffordd gael gostyngiad o 20% ar Brewery Tours, darganfyddwch fwy trwy ludlowbrewery.co.uk/byrail.
-
Ystafelloedd Ymgynnull Llwydlo - Lleoliad celfyddydol a chymunedol gyda rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau - gan gynnwys ffilmiau, theatrau, cerddoriaeth, sgyrsiau a chomedi.
-
Amgueddfa Llwydlo yn y Buttercross - Gadewch i dreftadaeth hanesyddol Llwydlo ddod yn fyw o flaen eich llygaid. Dewch i fwynhau detholiad gwych o arddangosfeydd a fydd yn eich tywys chi drwy hanes cyfoethog Llwydlo.
-
Siop fferm Llwydlo - Amgylchedd siopa unigryw lle daw ffermio, brwdfrydedd dros fwyd arbennig, a manwerthu at ei gilydd i greu profiad heb ei ail.
Penwythnos yn Llwydlo
Siopa - Mae Llwydlo yn falch o’i detholiad unigryw a gwych o siopau annibynnol. Mae casgliad o siopau hen bethau, siopau bwtîc hyfryd, siopau nwyddau deniadol i’r cartref, yn ogystal â siopau bwyd diguro ar gael. Mae’n anodd peidio â chael eich denu gan siopau annibynnol, hudolus Llwydlo.
Ymestyn eich coesau - Mwynhewch olygfeydd hyfryd o Lwydlo gydag amrywiaeth o deithiau cerdded. Boed yn ymweliad â Whitcliffe ar hyd llwybr Breadwalk, neu’n daith gerdded drwy erddi Castell Llwydlo, Millenium Green neu ar hyd llwybrau Magnalonga (Taith gerdded bwyd a diod o tua 8 milltir drwy gefn gwlad Llwydlo), mae gan Lwydlo deithiau gerdded ar gyfer pobl o bob gallu. Cerdded o gwmpas Llwydlo a’r cyffiniau
Gweld beth sydd gan Lwydlo i'w gynnig - mae Llwydlo yn enwog am gael calendr sy’n llawn dop o ddigwyddiadau. Dewch i weld beth sydd ymlaen ac i ymuno â ni ar gyfer ein digwyddiadau bwyd poblogaidd, cyngherddau yn y Castell, Rasys Llwydlo neu ddigwyddiadau celfyddydol a diwylliannol.
Blas ar Lwydlo - Ar ôl cael ei ddisgrifio fel y lle delfrydol i bobl sy’n caru bwyd, ni fuasai unrhyw ymweliad â Llwydlo yn gyflawn heb i chi fynd ar daith ddanteithiol drwy’r strydoedd canoloesol. Mwynhewch ddanteithion o’r Marchnadoedd Bwyd a Chrefft a Chynnyrch Lleol ar wahanol ddyddiau Iau a Sul, boed yn ddanteithion melys gan siopau bara lleol, neu’n brydau lleol blasus mewn bwytai a chaffis unigryw sydd i’w cael o gwmpas pob cornel.

Dolenni
Ewch i wefan Visit Shropshire i gael rhagor o wybodaeth.

-
Y pum peth gwych gorau i'w gwneud yn y Rhyl Dewch i ddarganfod The top five brill things to do in Rhyl
-
Y llefydd gorau i fynd yn Llanelli - y tri phrif atyniad Dewch i ddarganfod The best places to go in Llanelli - top three attractions
-
Eglwys Newydd Dewch i ddarganfod Visiting Whitchurch
-