Portmeirion

Teithio I Bortmeirion ar drên.

Cafodd y campwaith hwn yng Ngogledd Cymru ei ddylunio a’i adeiladu gan Syr Clough Williams-Ellis yn y 1900au, yn seiliedig ar bentref pysgota di-enw ar Rifiera’r Eidal, ac mae Portmeirion yn aml yn cael ei ddisgrifio fel lle rhamantaidd gydag awyrgylch hyfryd Môr y Canoldir. Gadewch ein trên ym Minffordd i fwynhau’r gwrychoedd, y ffynhonnau a’r nodweddion dŵr, a’r waliau pastel bob ochr i’r llwybrau gyda’r llonyddwch heddychlon i’w gael drwy’r pentref.

 

Pori heb borwr

Dewch i ni fynd yn ôl i amser go iawn a mwynhau pori heb borwr. Gall ein trenau fynd â chi i rai o gyrchfannau siopa gorau’r DU, felly gallwch chi fwynhau rhywfaint o therapi siopio heb unrhyw ddiffygion technegol.

 

Pethau i'w gweld

  • Y Piazza Canolog - roedd Syr Clough Williams-Ellis, sef pensaer Portmeirion, yn amgylcheddwr brwd ac roedd eisiau creu pentref preifat prydferth, a dyma’n union yw'r Piazza Canolog. Gyda’r tai sydd wedi’u hysbrydoli gan y Riviera a gardd addurnol, mae’n lle gwych i dynnu lluniau godidog neu i ymlacio a gwerthfawrogi beth sydd o’ch cwmpas
  • Gwesty Portmeirion - agorwyd yn 1926 ac mae ganddo olygfeydd gwych o Aber Afon Dwyryd. Hefyd mae bwyty bwyd cain, bar, teras a llawer o lolfeydd sydd wedi’u haddurno yn steil Syr Clough Williams-Ellis.
  • Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri - Beth am deithio ar y trên stêm i ganol Eryri. Neu ewch ar daith fer sy’n llawn golygfeydd i Borthmadog a pharhau i’r gogledd i Gaernarfon ar Reilffordd Eryri.

 

Penwythnos ym Mhortmeirion

Gallwch aros yng Nghastell Deudraeth sydd ar gyrion y pentref yn ystad Portmeirion. Yn wreiddiol, roedd y plasty’n gartref i Aelod Seneddol Fictoraidd. Ers hynny, mae wedi’i adnewyddu a’i droi’n westy sy’n llawn steil. Yna, ewch am dro i’r pentref i geisio dod o hyd i’r holl ardaloedd lle cafodd y gyfres deledu ‘The Prisoner’ ei ffilmio ac i werthfawrogi’r saernïaeth anhygoel.

Cofiwch brynu Crochenwaith Portmeirion yn ystod eich ymweliad hefyd. Roedd Susan, merch Williams-Ellis yn gwerthu ei gwaith serameg ym Mhortmeirion pan gymerodd yr awenau mewn crochendy yn Stoke-on-Trent a’i enwi ar ôl y pentref. Os byddwch yn ymweld â Phortmeirion ym mis Rhagfyr, cewch fwynhau eu Gŵyl Fwyd a Chrefftau a dathlu cynnyrch a busnesau Cymreig. Hefyd, cewch fwynhau cerddoriaeth fyw, arddangosfeydd coginio, gweithdai a Groto Nadolig Hudol sy’n rhoi adloniant Nadoligaidd.