Gyda gwyliau’n nes at adref yn fwy ffasiynol, rydym yn ffodus bod cymaint o opsiynau gwych ar gyfer gwyliau ar garreg ein drws, a chyda rhwydweithiau ffyrdd a rheilffyrdd helaeth, allai hi ddim bod yn haws cyrraedd yno. P’un ai ydych chi’n chwilio am ddiwrnodau allan gyda’r plant, wythnos ar lan y môr neu ychydig o ddiwylliant, mae gan y DU rywbeth i’w gynnig i bawb.
1. Llundain
Mae Llundain, fel prifddinas Lloegr a'r DU, yn ddinas o wrthgyferbyniadau. Mae nendyrau tra modern o wydr a dur ochr yn ochr ag adeiladau hanner-pren canoloesol, tra bod boho chic cŵl Covent Garden nid nepell o’r Llysoedd Barn Brenhinol. Mae dros 20 miliwn o bobl yn ymweld â hi bob blwyddyn, ac mae Llundain ymhlith y tair dinas orau ledled y byd o ran niferoedd twristiaid, a hi yw'r un yr ymwelir â hi fwyaf yn y DU.
Y stop cyntaf ar aml i amserlen deithio yw Palas Buckingham, cartref y Frenhines yn Llundain. Mae'r palas wedi bod yn cael ei ddefnyddio'n barhaus ers 1837 ac mae ar agor i'r cyhoedd am ran o'r flwyddyn. Ewch ar daith o amgylch y stafelloedd, gan gynnwys ysblander Ystafell yr Orsedd, y Ddawnsfa fawreddog, a'r Oriel Luniau, a gweld seremoni enwog Newid y Gwarchodlu. Mae'r palas hefyd yn gartref i gasgliad mawr o gelf, dodrefn ac arteffactau hynod ddiddorol eraill.
Os ydych chi’n treulio’r noson yn Llundain, beth am ymweld â theatrau’r West End? Maent ymhlith y rhai mwyaf mawreddog yn y byd, ac ynddynt fe welwch rai o'r enwau mwyaf ym myd y sioeau fel perfformwyr a chynhyrchwyr. O sioeau cerdd poblogaidd i glasuron Shakespeare, mae rhywbeth at ddant pawb.
I'r rhai sy'n hoff o'r awyr agored, mae gan Lundain ddigon o barciau a mannau gwyrdd i'w harchwilio. Mae’r enwog Hyde Park yn lle heddychlon i fynd am dro neu am bicnic, ac mae gan Regent’s Park gerllaw theatr awyr agored, llyn cychod, a sawl gardd, sy’n golygu ei fod yn ffordd berffaith o dreulio ychydig oriau.
Os mai therapi siopa sy’n apelio, mae Llundain yn cynnig rhai o'r profiadau siopa gorau yn y byd. P'un ai ydych chi'n chwilio am siopau adrannol uchel ael fel Harrods a Selfridges neu siopau annibynnol hynod, fe ddowch o hyd i’r hyn rydych chi'n chwilio amdano. Ac wrth gwrs, ni fyddai unrhyw ymweliad â'r brifddinas yn gyflawn heb fwynhau bwyd enwog y ddinas - o bysgod a sglodion traddodiadol i dafarndai arlwyo modern a chordon bleu, pa ffordd well o ymlacio?
- Hanes, diwylliant a siopa
- Atyniadau di-ri am ddim
- Gwefan Visit London
2. Ardal y Llynnoedd
Am gyrchfan wyliau olygfaol, peidiwch ag edrych ymhellach nag Ardal y Llynnoedd. Mae'r ardal syfrdanol hon yn gartref i fryniau tonnog gwyllt, llynnoedd tawel, a phentrefi hardd.
Llyn Windermere yw'r llyn mwyaf yn Lloegr ac yn bendant mae'n werth ymweld ag ef. Mae digon i’w wneud yma – pysgota o’r glannau, hwylio ar draws ei dyfroedd llonydd neu fynd am dro o amgylch y glannau hardd, gan aros am damaid i’w fwyta yn un o’r pentrefi prydferth sydd ar lan y dŵr, fel Bowness-on-Windermere neu Ambleside hynaws.
Os ydych chi'n hoff o hanes, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ymweld â Wal Hadrian, sy'n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Adeiladwyd yr amddiffynfa Rufeinig hynafol hon yn yr ail ganrif OC ac mae bellach yn atyniad poblogaidd i dwristiaid. Gan ymestyn am gyfanswm o 73 milltir, roedd yn nodi pen draw Prydain Rufeinig a chychwyn tiroedd y Caledoniaid anorchfygol yn y gogledd.
- Ymgollwch ym myd natur
- Ewch ar daith cwch ar Windermere
- Gwefan Ardal y Llynnoedd
3. Ynys Wydrin (Glastonbury)
I'r rhai sy'n caru rhywbeth ychydig yn wahanol, mae Ynys Wydrin yn cynnig swyn heddychlon ac adfywiol.
Mae'r dref fechan hon yng Ngwlad yr Haf yn enwog am ei Gŵyl Glastonbury flynyddol - un o wyliau cerdd mwyaf y byd, ond mae ganddi lawer mwy hefyd. Sîn gelfyddydol fywiog, pensaernïaeth ganoloesol wedi’i gynnal a’i gadw gyda chariad, a dewis eang o lety. Dringwch Dŵr Ynys Wydrin eiconig sy'n edrych dros y dref, ac ymwelwch â Ffynnon y Ffiol, ffynnon hardd a chysegredig y dywedir bod ganddi rinweddau iachâd.
- Archwiliwch yr hanes
- Dringwch y Tŵr cyfriniol
- Gwefan Ynys Wydrin
4. Bryste
Mae Bryste yn ddinas gyffrous sy'n adnabyddus am ei sîn gelfyddydau a diwylliant. Yn gartref i nifer o atyniadau, bwytai amlddiwylliannol ac elfen hanesyddol gyfoethog, mae Bryste yn hawdd ei gyrraedd ar y rheilffordd a'r ffordd. Dyluniwyd Pont Grog Clifton drawiadol a hudolus gan Isambard Kingdom Brunel ac mae’n un o’r pontydd crog hiraf yn y byd. Yn ymestyn dros Geunant Avon, mae'r bont yn cynnig golygfeydd godidog o'r ochrau serth a'r afon islaw.
Mae'r SS Great Britain yn atyniad arall y mae'n rhaid ei weld ym Mryste. Lansiwyd y llong hanesyddol hon ym 1843 a hi oedd y stemar haearn gyntaf i groesi Cefnfor yr Iwerydd. Heddiw, llong amgueddfa yw’r SS Great Britain, sy’n rhoi cyfle i ymwelwyr brofi hanes byw.
- Perffaith ar gyfer selogion diwylliant
- Atyniadau di-ri am ddim
- Gwefan Visit Bristol
5. Rhydychen
Mae Rhydychen yn ddinas ogoneddus o hanesyddol ac yn gartref i rai o brifysgolion mwyaf mawreddog y byd. Gyda chymaint o atyniadau yn agos at ei gilydd, mae gweld Rhydychen ar droed yn caniatáu ichi brofi'r awyrgylch digyfnewid yn bersonol.
Mae Castell Rhydychen yn lle gwych i ddechrau eich archwiliad o'r ddinas. Mae'r castell hwn o'r 12fed ganrif wedi'i adnewyddu ac mae bellach yn gartref i garchar, amgueddfa ac oriel gelf.
Mae Prifysgol Rhydychen yn un o'r prifysgolion hynaf yn y byd ac mae'n lle gwych, wedi'i drwytho â chanrifoedd o ddysgu. Gyda champws gwasgarog yn llawn hyfrydwch pensaernïol, cyrtiau bach hudolus, a lawntiau gwyrddlas llyfn, anelwch am amgueddfeydd y Brifysgol, sy'n cynnwys yr Amgueddfa Astudiaethau Natur a'r Ashmolean.
Ar gyfer therapi siopa, Cowley Road yw'r lle i fynd. Mae'r stryd fywiog hon yn gartref i amrywiaeth o fwytai, tafarndai a siopau, popeth o enwau'r stryd fawr i siopau annibynnol. Arhoswch am goffi yn un o'r caffis hynod a gwyliwch y byd yn mynd heibio.
- Delfrydol ar gyfer y rhai sy’n caru hanes
- Llawer o weithgareddau am ddim
- Gwefan Visit Oxford
6. Brighton
Os ydych chi'n chwilio am ddinas hwyliog a chyffrous i ymweld â hi, peidiwch ag edrych ymhellach na Brighton. Mae gan y dref lan môr fywiog hon lawer i'w gynnig – o draethau a pharciau i fwytai a bywyd nos.
Mae un o atyniadau pennaf Brighton, Pier y Palas, sy'n ymestyn 525m i'r Sianel, yn dyddio'n ôl i 1823 ac yn cynnwys reidiau difyrrwch, gemau, bariau a bwytai. Mae ymlacio ar gadair ddec a mwynhau hufen iâ yn bleser ar ddiwrnod poeth o haf. Perl ddiwylliannol arall yw'r Pafiliwn Brenhinol. Adeiladwyd y palas godidog hwn yn y 1800au cynnar ac mae bellach yn Safle Treftadaeth Genedlaethol, ac yn hawdd ei adnabod oherwydd ei gromenni a'i bensaernïaeth Indo-Islamaidd hardd.
Ac yn olaf, peidiwch ag anghofio cael blas o’r bwytai a’r bariau gwych y mae Brighton yn enwog amdanynt.
- Archwiliwch y Lanes
- Atyniadau cyfeillgar i deuluoedd
- Gwefan Visit Brighton
7. Caergrawnt
Tua 60 milltir i'r gogledd o Lundain mae dinas brifysgol hanesyddol Caergrawnt. Wedi'i sefydlu ym 1209, mae'r ganolfan addysg eiconig hon yn un o'r rhai mwyaf mawreddog yn y byd, ond gyda theatrau, atyniadau i deuluoedd a llawer mwy, mae Caergrawnt yn gyrchfan wych ar wahân i'r brifysgol.
Mae Amgueddfa Archaeoleg ac Anthropoleg Prifysgol Caergrawnt yn cynnwys casgliad trawiadol o arteffactau archeolegol ac anthropolegol o bob rhan o'r byd. Mae hefyd yn gartref i Amgueddfa enwog Pitt Rivers, sy'n ymroddedig i astudio anthropoleg. Gyda dwy filiwn o flynyddoedd o hanes dynol wedi’u cartrefu mewn un lle, mae rhywbeth i ddiddori pawb yma. Amgueddfa boblogaidd arall yw'r Fitzwilliam. Mae’n gartref i’r casgliad mwyaf o baentiadau Argraffiadol yn y DU, arddangosfa drawiadol ar rôl menywod mewn celf, a chyfres ar arteffactau crefyddol.
Ar ôl cymaint o hanes, beth am wthio pynt gwaelod fflat ar yr Afon Cam? Mae ymlacio wrth i chi arnofio ar hyd ei dyfroedd crisial bas yn ffordd ddelfrydol o dreulio'r prynhawn.
- Archwiliwch yr eglwys gadeiriol hynod ddiddorol
- Nifer o atyniadau am ddim
- Gwefan Visit Cambridge
8. Caerfaddon
O adfeilion Rhufeinig hynafol i eglwysi cadeiriol Gothig syfrdanol, nid oes prinder o bethau i'w gweld a'u gwneud yng Nghaerfaddon odidog.
Heb os, y Baddonau Rhufeinig yw atyniad twristiaeth mwyaf poblogaidd y ddinas, gan dderbyn mwy na 1.3 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn. Wedi’i adeiladu dros 2000 o flynyddoedd yn ôl, mae’r safle sydd wedi’i gynnal a’i gadw’n dda yn cynnig cipolwg ar fywyd ym Mhrydain Rufeinig. Er na chaniateir ymdrochi bellach, mae gan Gaerfaddon amrywiaeth o sbâu moethus sy'n dal i gynnig y manteision iechyd yr oedd y Rhufeiniaid yn eu mwynhau ar un adeg.
- Archwiliwch y Cilgant Brenhinol
- Ymwelwch â'r Baddonau Rhufeinig enwog
- Gwefan Visit Bath
9. Caerefrog
Sefydlwyd dinas gaerog hanesyddol Efrog gan y Rhufeiniaid ac mae wedi ei leoli lle mae’r afonydd Ouse a Foss yn uno. Cymerodd York Minster, yr eglwys Gothig fwyaf yng Ngogledd Ewrop, sawl canrif i'w chwblhau ac fe'i gorffennwyd o'r diwedd ym 1472. Mae denu ymwelwyr o bob rhan o'r byd, ac mae’r ffenestri lliw trawiadol a'r bensaernïaeth fawreddog yn golygu ei bod yn rhywbeth y mae'n rhaid ei weld ar eich taith i Gaerefrog.
Yn drwch o hanes, dylai’r rhai sy’n ymddiddori yn y Llychlynwyr anelu am Ganolfan Jorvik. Mae'r Shambles yn rhoi gwedd ganoloesol ar fanwerthu modern gyda'r adeiladau pren sy'n gorhongian a'r strydoedd coblog cul. Mae’r hyn a oedd unwaith yn siopau cigyddion a chartrefi gorlawn bellach yn siopau bwtîc crand sy’n gwerthu crefftau a gynhyrchwyd yn lleol a danteithion crefftus wedi’u gwneud â llaw.
- Hwyl i'r teulu cyfan
- Ymwelwch â Chanolfan Llychlynwyr Jorvik boblogaidd
- Gwefan Visit York
10. Lerpwl
Mae Lerpwl yn ddinas sy'n cynnig rhywbeth i bawb - hanes, cerddoriaeth, celf, a bywyd nos bywiog. Mae ganddi hefyd amrywiaeth o lefydd i aros, o foethusrwydd drud i letyau gwely a brecwast cyfforddus.
I lawer o dwristiaid, eu stop cyntaf yw'r Gadeirlan. Wedi'i adeiladu ar ddiwedd y 19eg ganrif, mae'n un o'r eglwysi cadeiriol mwyaf yn y byd, ac mae ei ffenestri lliw yn darlunio rhai enwau rhyfeddol, gan gynnwys Elizabeth Fry, y Frenhines Victoria, a'r bardd Seisnig Christina Rossetti.
Rhaid i The Beatles Story fod yn uchel ar restr unrhyw ymwelydd. Mae’r gysegrfa fyw hon i’r fab four yn adrodd hanes eu cynnydd i fri rhyngwladol trwy brofiad rhyngweithiol, memorabilia, ac wrth gwrs, eu cerddoriaeth eiconig.
I orffen eich arhosiad yn Lerpwl, mae Doc Albert, a oedd unwaith yn iard longau hanesyddol, bellach wedi'i drawsnewid yn ganolfan ddiwylliant. Yn gartref i amgueddfeydd, orielau a theatrau, mae yna fwytai a chaffis hefyd, sy’n golygu mai dyma’r ffordd berffaith o orffen eich diwrnod.
- Ymweld â chartref y Mersey Beat
- Perffaith ar gyfer selogion diwylliant
- Gwefan Visit Liverpool
Mae’r DU yn cynnig cymaint o lefydd hardd i ymweld â nhw, atyniadau hwyliog a thrysorau diwylliannol, fel ein bod yn wir wedi’n difetha o ran dewis. Nid yw treulio gwyliau’n nes at adref yn golygu colli allan ar ddim, ond yn hytrach, mae'n brofiad o’r hyn sydd i’w gael ar garreg ein drws.
-
Oeddech chi’n gwybod?Teithiwch yn SaffachGallwch gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pryd i deithio gan ddefnyddio ein Gwiriwr Capasiti.Gwirio capasiti
-
Cas-gwent Dewch i ddarganfod Visiting Chepstow
-
Caergybi Dewch i ddarganfod Visiting Holyhead
-
Ymweld â Chaerfyrddin Dewch i ddarganfod Visit Carmarthen
-