Bangor, yng Ngwynedd, gogledd orllewin Cymru, yw dinas hynaf y wlad. Gyda nifer o weithgareddau addas i’r teulu a phrofiadau i’w harchwilio, mae Bangor yn lle gwych i ymweld ag ef. Mae’n hawdd ei gyrraedd ar y trên ac mae ganddo’r golygfeydd mwyaf syfrdanol diolch i’w safle yn edrych dros y Fenai.
1. Darganfod Mannau Gwyllt Parc Cenedlaethol Eryri
Mae Bangor yn ganolfan wych ar gyfer archwilio Parc Cenedlaethol Eryri, sy’n enwog o amgylch y byd. Mae'r parc, sy'n ymestyn dros 823 milltir sgwâr (2,130 km2), yn cynnig cynefinoedd amrywiol, cyfleoedd i weld fflora a ffawna prin, ac mae'n gartref i holl fynyddoedd uchaf Cymru. Mae'r prif gadwynau yn y parc yn cynnwys criw'r Wyddfa ei hun, y Carneddau, y Glyderau, Moel Hebog a’i gymdeithion, a mynyddoedd y Moelwynion.
Mae'r Wyddfa fawr, gyda'i chopa yn 3560 troedfedd, neu 1085 metr, yn herio dringwyr a cherddwyr o bedwar ban byd. Mae sawl llwybr i’r copa, rhai’n galetach na’i gilydd, ond ar gyfer taith mwy hamddenol, mae Rheilffordd Eryri yn mynd â chi i’r brig heb i chi orfod ymdrechu i gerdded.
O fewn y parc mae nifer o bentrefi hynaws gan gynnwys Beddgelert luniaidd, ac mae Rheilffordd Treftadaeth Porthmadog yn dilyn llwybr troellog hudolus heibio i lynnoedd, dyffrynnoedd serth a choedwigoedd trwchus, rhwng y pentrefi.
- Mwynhewch ddiwrnod allan anhygoel am ddim
- Mynediad i bawb
- Gwefan Eryri
2. Ewch yn ôl mewn amser yng Nghastell Penrhyn
Mae Castell Penrhyn yn gastell ffantasi o'r 19eg ganrif. Mae'r castell neo-Normanaidd hwn wedi'i leoli rhwng Eryri ac Afon Menai. Mae pensaernïaeth gywrain a hudolus y castell yn creu argraff ddofn o’i weld. Gallwch weld hanes y castell yn ei ystafelloedd helaeth, ei geginau Fictoraidd, a’i risiau neo-Normanaidd. Ar wahan i’r dodrefn ysblennydd a’r gosodiadau mewnol godidog sydd wedi goroesi, mae’r castell yn gartref i un o gasgliadau celf mwyaf Cymru. Mae tiroedd helaeth y castell yn cynnig golygfa drawiadol o esthetig o Arfordir Gogledd Cymru.
- Taith fer ar y trên o Fangor
- Prisiau o £6.50
- Gwefan Castell Penrhyn
3. Ewch am dro ar hyd Pier Bangor
Mae Pier y Garth, sy’n adeilad rhestredig Gradd ll, yn cynnig golygfa syfrdanol o hardd o’r Fenai o Borthaethwy i Landudno ynghyd â’r hyfryd Ynys Môn. Gallwch brofi hanes lliwgar yr hyn a ystyrir fel y pier Fictoraidd gorau sydd wedi goroesi yng Nghymru, a mwynhau cefndir prydferth Eryri. Mae'r pier yn berffaith ar gyfer cerdded, eistedd ac ymlacio wrth fwynhau golygfa fendigedig.
- Archwiliwch yr hanes lliwgar
- Golygfeydd godidog
- Gwefan Pier Bangor
4. Mwynhewch y gerddoriaeth yng Nghadeirlan Bangor
Mae Eglwys Gadeiriol Bangor yn gadeirlan o'r 6ed ganrif gyda thu mewn a phensaernïaeth syfrdanol. Mae'n un o brif ganolbwyntiau'r ddinas. Mae ganddi hanes unigryw ac mae'n rhoi cipolwg gwych ar yr ardal a'i gorffennol. Mae'r eglwys gadeiriol yn adnabyddus am ei cherddoriaeth wych a'i datganiadau ar yr organ.
- Mwynhewch y bensaernïaeth a'r hanes
- Ymwelwch ag addoldy a ddefnyddiwyd ers y 6ed ganrif
- Gwefan Eglwys Gadeiriol Bangor
5. Hwyl i'r teulu yn Ynys Seiriol
I'r gogledd o Fangor, ym mhen draw'r Fenai mae Ynys Seiriol. Mae’n enwog am ei phalod, ond hefyd am ei mynachlog o'r 12fed ganrif. Wedi derbyn Gwarchodaeth Arbennig oherwydd ei bywyd gwyllt, mae'r ynys yn gartref i amrywiaeth eang o adar y môr a mamaliaid morol. Mae gweilch y penwaig, gwylanod coesddu a gwylogod yn rhannu’r clogwyni â’r palod, ond gallwch hefyd weld adar drycin y graig a hwyaid mwythblu, tra bod morloi llwyd, llamhidyddion a hyd yn oed dolffiniaid i’w gweld yn aml yn chwarae yn y tonnau.
- Ewch ar daith cwch i weld y bywyd gwyllt
- Mwynhewch y golygfeydd godidog
- Antur unwaith-mewn-oes
Mae dinas yr eglwys gadeiriol hynaf yng Nghymru yn gyfeillgar ac yn groesawgar, ac mae ganddi hanes cyfoethog a bywiog. Yn wreiddiol, roedd Bangor wedi’i hamgylchynu â ffens blethwaith neu fangorwaith; roedd hon yn rhoi amddiffyniad i’r eglwys gadeiriol wrth iddi gael ei hadeiladu. Cafodd y dref ei sefydlu fel anheddiad mynachaidd, mae bellach yn ganolbwynt gosmopolitan ffyniannus sy’n denu cerddwyr o bob cwr o’r byd sy’n awyddus i ddringo llethrau serth yr Wyddfa gerllaw. Mae’r cawr hwn o fynydd, yn mesur 3,560 troedfedd i’w gopa. Ceir dewis o lwybrau i’r brig, rhai yn anoddach na'i gilydd, felly mae’n beth doeth gwneud eich gwaith cartref a pharatoi.
Tyfodd Eglwys Gadeiriol Bangor, a gyflwynwyd i Deiniol Sant, Esgob cyntaf Bangor, o’r urdd fynachaidd wreiddiol ac fe’i sefydlwyd yn 1120. Wrth edrych allan dros fwrlwm galon dinas Bangor, mae wedi goroesi cael ei ysbeilio, tanau a mwy, ac mae’n un o’r ychydig safleoedd i bortreadu’r Crist Myfyriol. Fe’i gelwir yn Grist Mostyn, ac mae hwn yn ffigwr cyn y croeshoelio, sy’n darlunio’r Iesu â’i ben yn ei ddwylo, yn eistedd ar garreg. Wedi’i gerfio o ddarn solet o dderw yn y 15fed ganrif ac yn cynrychioli dioddefaint dwys, mae hwn yn gerflun trawiadol sy’n denu ymwelwyr o bob cwr o’r byd.
Ar dir yr Eglwys Gadeiriol, mae Gardd y Beibl yn atyniad unigryw. Mae pob un planhigyn a grybwyllir yn y Beibl i’w cael yma; caiff pob un ohonynt ei feithrin a’i annog yn gariadus i ffynnu - nid yw’n hawdd o ystyried hinsawdd Cymru o’i chymharu ag anialwch sych y Beibl. Mae’n werth ymweld â’r ardd hon, gan fod ynddi awyrgylch heddychlon braf.
Os ydych chi’n hoffi diwylliant, dylech anelu am Y Storiel, sy’n gymysgedd perffaith o amgueddfa, oriel gelf a theatr. Mae’n cynnig rhaglen lawn o ddigwyddiadau, arddangosfeydd a pherfformiadau gydol y flwyddyn, o gomedi i fale a phopeth yn y canol, ceir felly rywbeth at ddant pawb. Gyda dewis o fwytai arbennig, mae pryd o fwyd a sioe yn ddiweddglo bendigedig i’r diwrnod.
-
Cas-gwent Dewch i ddarganfod Visiting Chepstow
-
Caergybi Dewch i ddarganfod Visiting Holyhead
-
Ymweld â Chaerfyrddin Dewch i ddarganfod Visit Carmarthen
-