Mae Castell Caerdydd yn gastell canoloesol trawiadol. Cafodd y castell, fel y mae heddiw, ei adeiladu gan y Normaniaid yn yr unfed ganrif ar ddeg, ac mae wedi cael ei ail-fodelu a’i ail-greu droeon ers hynny. Mae bellach yn un o’r atyniadau twristiaeth mwyaf poblogaidd yng Nghymru, ac am reswm da.
Hanes
Caer Rufeinig oedd Castell Caerdydd yn wreiddiol a sefydlwyd tua 50 AD. Cafodd y safle ei ddewis oherwydd ei fod yn llecyn uchel o fewn cyrraedd hawdd i’r môr. Cafodd y gaer ei hadeiladu o gerrig ac mae modd gweld rhywfaint o’r adfeilion hyd heddiw. Ar ôl i’r Ymerodraeth Rufeinig ddymchwel, trodd y gaer yn adfail nes i’r Normaniaid ddod o hyd iddi a’i hailfodelu. Mae’r castell wedi bod yn gartref i lawer o bendefigion a theuluoedd bonheddig. Yn ystod yr ail ryfel byd cafodd llochesi rhag bomiau eu hadeiladu yn waliau'r castell a gallai'r llochesi hyn amddiffyn hyd at 2000 o bobl. Roedd y castell yn eiddo i deulu’r Bute ddiwethaf, a’i rhoddodd i ddinas Caerdydd yn y pen draw. Mae’n dal yn atyniad mawr i dwristiaid ac i drigolion lleol fel ei gilydd.
Pensaernïaeth
Mae’r castell ar ben bryn sy’n edrych dros ddinas Caerdydd. Mae wedi’i amgylchynu gan ffos ac mae ganddo nifer o dyrau, gan gynnwys gorthwr, sef y tŵr talaf. Cafodd y gorthwr ei ddefnyddio fel amddiffyniad yn erbyn ymosodwyr yn ystod y canoloesoedd. Ar ben hynny, mae gan y castell gapel, a adeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r capel yn cynnwys ffenestri gwydr lliw ac mae wedi’i addurno â ffigurau cerrig wedi’u cerfio. Mae amgueddfa ar dir y castell hefyd sy’n cynnwys arteffactau o hanes y castell.
Cafodd y strwythur mwnt a beili gwreiddiol ei adeiladu gan y Normaniaid, sy’n golygu mai dyma un o’r cestyll hynaf sy’n dal i sefyll ym Mhrydain heddiw. Cafodd y castell ei ailadeiladu a’i wneud yn fwy wedyn gan lywodraethwyr olynol, gan gynnwys Brenin Edward y cyntaf, a ychwanegodd y tyrau wythonglog godidog sy’n dominyddu’r nenlinell. Mae Castell Caerdydd wedi bod yn dyst i nifer o ddigwyddiadau hanesyddol dros y canrifoedd, gan gynnwys cyfnodau o warchae yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr a’r Ail Ryfel Byd.
Gwybodaeth i Dwristiaid
Mae Castell Caerdydd ar agor i’r cyhoedd drwy gydol y flwyddyn, ac mae’n un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd i dwristiaid yng Nghymru. Os ydych chi’n bwriadu ymweld â Chaerdydd, cofiwch gynnwys ymweliad â’r castell ar eich amserlen. Mae’n gwta 10 munud ar droed o orsaf y ddinas, sydd â gwasanaethau rheolaidd gan Trafnidiaeth Cymru.
Mae tywyswyr llawn gwybodaeth yn helpu i ddod â’r gorffennol yn fyw a gall ymwelwyr ganfod sut beth oedd bywyd i drigolion cyfoethog y castell, a chlywed straeon am warchae, rhyfel a gwrthryfel. Bydd ymwelwyr hefyd yn cael gweld rhai o nodweddion gwreiddiol anhygoel y castell, gan gynnwys y gorthwr Normanaidd, y waliau Rhufeinig a’r fflatiau Fictoraidd moethus.
Cwestiynau Cyffredin Castell Caerdydd
Pam mae Castell Caerdydd yn enwog?
Mae Castell Caerdydd yn enwog am iddo gael ei adeiladu gan y Rhufeiniaid a’i ailfodelu gan y Normaniaid. Fe’i rhoddwyd i’r ddinas yn 1974.
Allwch chi gerdded o amgylch Castell Caerdydd am ddim?
Cewch gerdded o amgylch y sgwâr cyhoeddus a thir y castell yn rhad ac am ddim, ond rhaid cael tocyn i fynd i’r castell ei hun.
Faint yw tocyn i fynd i Gastell Caerdydd?
Oedolyn: £14.50
Plentyn (5-16): £10.00
Pam wnaethon nhw adeiladu Castell Caerdydd?
Cafodd y castell a welwch chi heddiw ei adeiladu gan y Normaniaid yn yr unfed ganrif ar ddeg i’w helpu i orchfygu Cymru. Roedd yn disodli Caer Rufeinig, a oedd hefyd wedi cael ei hadeiladu at ddibenion milwrol.
Castell Godidog Caerdydd
Mae Castell Caerdydd yn gyforiog o hanes diwylliannol cyfoethog ac amrywiol. Cofiwch alw draw pan fyddwch chi yng Nghaerdydd. Mae’n lle gwych i archwilio a dysgu am hanes Cymru. Ac, os ydych chi’n teimlo’n ddewr, gallwch hyd yn oed geisio dod o hyd i’ch ffordd allan o’r ddrysfa. Ond peidiwch â mynd ar goll.