Submitted by content-admin on

Gwybodaeth bwysig os ydych chi'n defnyddio coets i fynd i'r gêm

Mae pawb yn y byd yn gwybod cymaint rydyn ni y Cymry yn caru rygbi, mae'n rhan fawr o'n diwylliant cenedlaethol.  Mae ein gwasanaethau’n debygol o fod yn hynod o brysur ar ddiwrnodau gêm, a disgwylir y bydd miloedd yn teithio i Gaerdydd i wylio Cymru’n chwarae.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda gweithredwyr coetsys i ddarparu mwy o le ar rai llwybrau.  Mae hyn er mwyn i ni allu cael ein holl gwsmeriaid yn ôl ac ymlaen o’r gêm yn ddiogel.

Os ydych chi'n teithio gyda ni ar goets ar ddiwrnod gêm, mae yna ychydig o gamau rydyn ni'n gofyn i chi eu dilyn fel bod eich taith ar y goets yn un gyffyrddus a hwylus.

Eich tocyn coets

Mae eich tocyn yn rhoi gwybod i'r gweithredwr coets ein bod wedi trefnu cludiant i'r gêm i chi.   Sicrhewch ei fod wrth law bob amser i'w archwilio.  Dylech hefyd fod â phrawf adnabod.  Mae’n bosib y bydd disgwyl i chi ddangos hwn hefyd.

Ni fydd eich tocyn yn ddilys os na fydd modd ei ddarllen, mae wedi'i ddifrodi neu mae ar goll – felly cadwch ef yn ddiogel.  Dyw hi ddim yn bosib ei drosglwyddo ychwaith. 

 

Dan 16 oed?

Os ydych o dan 16 oed, rhaid i chi fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol, 18 oed neu hŷn.  Rydyn ni'n deall y gall hyn fod yn rhwystredig, ond mae'n bolisi gan y gweithredwr coets ac ni allwn drefnu tocyn i chi ar y goets fel arall. 

Gall un oedolyn cyfrifol fod gydag uchafswm o dri o dan 16 oed.

Bydd angen caniatâd ysgrifenedig gan rieni arnom i ganiatáu i unrhyw un o dan 16 oed deithio heb gwmni oedolyn.  Mae ein cyfeiriad post i'w weld ar ein gwefan yma.

 

Cyrhaeddwch mewn da bryd  

Byddwch cystal â bod yn eich man codi o leiaf 15 munud cyn yr amser gadael pan fyddwch yn teithio i'r gêm (ac wrth fynd adref). 

Ni all yr goets aros amdanoch os ydych yn hwyr ac ni allwn roi ad-daliad nac ad-dalu costau ychwanegol os byddwch yn hwyr yn cyrraedd.

 

Pan fyddwch chi ar y goets

Yn aml, mae llawer o gyffro pan mae pobl yn teithio i gêm rygbi.  Rydym yn gwybod ei fod yn gyfnod cyffrous ac rydym am i bawb fwynhau eu hunain.  Ar yr un pryd, byddwch yn ymwybodol o'ch cyd-deithwyr pan fyddwch ar y goets a dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y gyrrwr neu'ch llysgennad. 

Os oes angen i chi ddefnyddio'ch ffôn neu ddyfais electronig, gwnewch hynny’n ystyriol.

Mae llawer o bobl yn hoffi yfed alcohol ar ddiwrnod gêm, ond rydym yn gofyn i chi aros nes eich bod yn y gêm cyn yfed alcohol.  Peidiwch ag ysmygu neu yfed alcohol ar y goets – mae hyn yn torri’r gyfraith.

Er mwyn diogelwch pawb ar y goets, rydym yn gofyn i chi beidio â dod ag unrhyw eitemau peirodechnegol, ffagliadau, bomiau mwg nac unrhyw beth sy'n rhyddhau mwg neu nwy ar y goets. 

Gofynnwn i chi ymddwyn yn barchus bob amser.  Ni fyddwn yn goddef unrhyw un yn ymddwyn yn ddifrïol, yn dreisgar neu'n fygythiol tuag at deithiwr arall neu'r gyrrwr.  Mae’n bosibl y byddwn yn riportio unrhyw ddigwyddiad i’r heddlu a byddwn yn gwahardd y tramgwyddwyr oddi ar ein  gwasanaethau coetsys.

A allaf gael ad-daliad os na allaf deithio?

Mae gennych hawl i ad-daliad llawn os na allwch fynd i’r gêm am unrhyw reswm.  Sylwch na fydd eich ad-daliad yn cynnwys cost unrhyw ffi archebu y gallech fod wedi'i thalu.
I hawlio ad-daliad, bydd angen i chi ddychwelyd eich tocyn o leiaf 24 awr cyn dyddiad y gêm.  Gallwch ddefnyddio ffurflen archebu Eventbrite i wneud cais am ad-daliad. 
Fel arfer byddwn yn ad-dalu'ch tocyn os na all eich gwasanaeth coets redeg.  Fodd bynnag, efallai na fyddwn yn gallu rhoi ad-daliad neu iawndal os caiff eich gwasanaeth ei ganslo oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth.  Dyma rai o’r amgylchiadau:

  • Damweiniau yn achosi oedi i'r gwasanaeth
  • Traffig yn achosi oedi
  • Tywydd eithriadol
  • Gohirio amser y gêm(gemau) ar y funud olaf
  • Teithwyr yn achosi problemau gan ein gorfodi i derfynu'r gwasanaeth
  • Cais gan yr heddlu neu'r gwasanaethau diogelwch

Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i'ch taith ar Eventbrite felly cadwch lygad arno.