Profion Peilot Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru

Astudiaeth Beilot 1

Cynhaliwyd astudiaeth beilot ar y we yn unig o Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf rhwng 3 Mai 2024 a 2 Mehefin 2024.

Anfonwyd llythyrau yn gwahodd pobl i gymryd rhan yn yr astudiaeth beilot hon i 7,500 o gyfeiriadau preswyl ar hap ledled Cymru. Cafwyd y cyfeiriadau o gronfa ddata adnodd canfod cyfeiriadau drwy god post y Post Brenhinol.

Nod yr astudiaeth beilot hon oedd profi’r holiadur ar-lein mewn amgylchedd byw, deall y cyfraddau ymateb nodweddiadol ar-lein, profi opsiynau dewis yr ymatebwyr mewn cartrefi, a strwythur y dyddiadur teithio a’r lleoliad yn yr arolwg.

Astudiaeth Beilot 2

Lansiwyd ail astudiaeth beilot o Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru ar 9 Medi 2024 a bydd yn para tan 27 Hydref 2024.

Anfonwyd llythyrau yn gwahodd pobl i gymryd rhan yn yr astudiaeth beilot hon i 900 o gyfeiriadau preswyl ar hap ledled Cymru. Unwaith eto, cafwyd y cyfeiriadau o gronfa ddata adnodd canfod cyfeiriadau drwy god post y Post Brenhinol, ond roedd ardaloedd y cyfeiriadau ar gyfer yr astudiaeth beilot hon yn seiliedig ar leoliadau o fewn pellter teithio rhesymol i’r tîm o weithwyr maes a oedd ar gael i weithio ar yr astudiaeth beilot hon.

Nod yr ail astudiaeth beilot hon yw profi proses yr arolwg o’r dechrau i’r diwedd, gan gynnwys yr holl ddulliau cwblhau dilyniannol arfaethedig - ar-lein, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb.

Mae rhagor o wybodaeth am y ddwy astudiaeth beilot, gan gynnwys eu prif nodau ac amcanion, ar gael yn ‘Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru Cam 1b: adroddiad profion Ansoddol a Meintiol’. Bydd canfyddiadau’r ddwy astudiaeth beilot yn hanfodol er mwyn helpu i lywio dyluniad terfynol Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru a’i brosesau ategol.