Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru
Lansiwyd Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru ym mis Mawrth 2025.
Mae’r arolwg yn casglu data bob blwyddyn ar agweddau a thueddiadau teithio hapsampl o unigolion sy’n byw yng Nghymru. Bydd yr arolwg yn cynrychioli ac yn hygyrch i bobl Cymru a gellir ei gwblhau yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
Bydd y data a gesglir yn galluogi inni dracio datblygiadau o ran cwrdd â’r targedau a osodwyd yn Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru a Cymru Sero Net Cyllideb Garbon 2. Bydd yn llywio penderfyniadau ac yn gwella sylfaen dystiolaeth drafnidiaeth yng Nghymru, gan ganiatáu inni ddeall anghenion ein defnyddwyr yn well.
Canolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol (NatCen) sy’n gweithredu’r arolwg ar ran Trafnidiaeth Cymru.
Bwriadwn gyhoeddi data rhagarweiniol o 6 mis cychwynnol yr arolwg ym mis Mawrth 2026. Caiff data blynyddol o flwyddyn lawn gyntaf yr arolwg ei gyhoeddi yn Hydref 2026.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ynghylch yr arolwg ar ein gwefan. Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â arolwgteithio@trc.cymru.