Canllaw: Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru
Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru
Canllaw
Diben
Prif amcan Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru yw rhoi data dibynadwy a chadarn i Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru i’w galluogi i gadw cofnod o’n cynnydd tuag at ein targedau a’n hymrwymiadau yn y sector trafnidiaeth.
Bydd y data’n cyfrannu at benderfyniadau ac yn gwella’r sylfaen dystiolaeth ar drafnidiaeth yng Nghymru er mwyn i ni allu deall anghenion ein defnyddwyr yn well.
Cynnwys
Bydd yr arolwg yn casglu data ar agweddau ac ymddygiad teithio gan bobl sy’n byw yng Nghymru. Bydd yr wybodaeth yn ein galluogi ni i gyhoeddi data ar gyfran y dull trafnidiaeth, cyfartaledd a deithiwyd y pen, a theithiau aml-ddull, yn ogystal â barn defnyddwyr, a’r rhai sydd ddim yn defnyddio’r gwasanaeth, ar y gwahanol ddulliau.
Dulliau Teithio
- Cerdded a theithio ar olwynion
- Beicio
- Cludiant cymunedol
- Bws
- Trên
- Tacsi
- Car
- Cwch
- Awyren
Bydd y cwestiynau’n canolbwyntio ar y canlynol
- Hygyrchedd
- Fforddiadwyedd
- Annog defnydd/mwy o ddefnydd
- Pa mor aml ydych chi’n defnyddio trenau
- Iaith a ddefnyddir/dewis iaith
- Rhesymau dros y defnydd/diffyg defnydd
- Diogelwch
- Bodlonrwydd
- Tocynnau
- Sŵn trafnidiaeth
- Croeso
Demograffeg
- Yr holl nodweddion gwarchodedig
- Gallu yn y Gymraeg
- Trwydded yrru ddilys
- Perchnogaeth cerbydau/Mynediad at gerbydau
- Math o danwydd y cerbyd
- Gallu beicio
- Perchnogaeth beic, a math o feic
- Gweithgarwch economaidd
- Gweithio o bell
Am bob taith yn ystod y ddau ddiwrnod diwethaf
- Man cychwyn a man gorffen y daith
- Pwrpas y daith
- Amser gadael
- Pellter a deithiwyd
- Dull (iau)
- Tocynnau
- Nifer y bobl oedd yn teithio (car yn unig)
- Gyrrwr neu deithiwr (car yn unig)
- Math o danwydd y cerbyd (car yn unig)
- Math o feic (beic yn unig)
Allbynnau
Byddwn ni’n casglu data yn barhaus yn ystod pob blwyddyn arolwg er mwyn cadw cofnod o batrymau teithio tymhorol. Bydd grŵp newydd o ymatebwyr yn cael eu gwahodd i gymryd rhan bob wythnos. Bydd y canlyniadau cenedlaethol a rhanbarthol yn cael eu cyhoeddi gan Trafnidiaeth Cymru bob blwyddyn.
Y Canlyniadau Cyntaf
Rydym ni’n disgwyl y bydd y data cenedlaethol rhagarweiniol ar y chwe mis cyntaf yn barod erbyn Mawrth 2026.
Rydym ni’n disgwyl y bydd y data rhanbarthol terfynol ar y deuddeg mis cyntaf yn barod erbyn Hydref 2026.
Bydd data cenedlaethol a rhanbarthol yn cael eu cyhoeddi bob mis Hydref yn dilyn blwyddyn yr arolwg.
Ein nod yw adrodd ar lefel awdurdodau lleol drwy gyfuno gwerth blynyddoedd o ddata. Mis Hydref 2027 yw’r dyddiad cynharaf y gallwn ni ddisgwyl i ddata fel hyn fod ar gael.
Rydym ni wrthi’n ceisio cael bathodyn Ystadegau Swyddogol Achrededig gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ar gyfer y data a'r cyhoeddiadau a ddaw yn sgil Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru.
Cyfranogiad
Bydd oddeutu 15,000 o aelwydydd yn cael eu dewis ar hap i gymryd rhan bob blwyddyn. Rydym yn disgwyl oddeutu 5,000 o ymatebion. Nid yw aelwydydd sydd heb eu dewis yn cael cymryd rhan.
Mae’r arolwg wedi ei ddylunio i gynrychioli’r boblogaeth 16 oed a hŷn sy’n byw mewn aelwydydd preifat yng Nghymru.
Gallwch lenwi Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru yn Gymraeg neu yn Saesneg. Gallwch ei lenwi ar lein, wyneb yn wyneb neu ar y ffôn.
Mae’r arolwg ar-lein yn cydymffurfio’n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2 - safon Lefel AA. Rydym ni wrthi’n gwneud addasiadau er mwyn sicrhau bod y fersiwn ar lein yn cydymffurfio’n llawn.
Rhagor o wybodaeth
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sgript yr arolwg, ar gael ar wefan Trafnidiaeth Cymru.
Cysylltwch â arolwgteithio@trc.cymru os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu adborth.