Ymgysylltu â rhanddeiliaid
Bydd egwyddorion a gweithgareddau da wrth ymgysylltu â rhanddeiliaid yn sicrhau ein bod ni’n cyflawni ein hymrwymiad i gyfleu nodau ac amcanion allweddol yr arolwg yn effeithiol a sut rydym ni’n dylunio ac yn cyflawni pob agwedd ar yr arolwg a’r data a fydd yn cael ei gasglu yn y pen draw. Bydd y gwaith ymgysylltu hwn yn galluogi rhanddeiliaid i roi adborth amhrisiadwy i ni ar agweddau allweddol ar yr arolwg drwy’r broses ddatblygu, cyhoeddi data a gwneud gwelliannau parhaus ar gyfer tonnau arolwg yn y dyfodol. Gallwn ni hefyd nodi’r ffyrdd gorau o gyfathrebu â rhanddeiliaid a chynnig ffyrdd syml o’u cynnwys.
Drwy gynnwys rhanddeiliaid mewn agweddau allweddol ar ddatblygu a chyflawni’r arolwg gellir sicrhau bod y data sy’n cael ei gyhoeddi yn diwallu anghenion ac yn cael ei ddefnyddio gan ystod mor eang â phosibl o randdeiliaid.
Ar sail yr egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, rydym ni wedi nodi cyfres o nodau allweddol ar gyfer y gweithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid er mwyn sicrhau’r gwerth gorau posibl i ddefnyddwyr.
- Nodi, ymgysylltu a deall anghenion rhanddeiliaid sydd â diddordeb.
- Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r arolwg gyda chynulleidfa mor eang â phosibl.
- Gwella’r data sy’n cael ei gasglu drwy ymgynghori â rhanddeiliaid i sicrhau ei fod yn diwallu eu hanghenion ehangach.
- Cydweithio â rhanddeiliaid i gyflawni eu hanghenion a nodi lle mae modd diwallu eu hanghenion a lle nad oes modd eu diwallu.
- Ymgysylltu â defnyddwyr i ddeall blaenoriaethau adrodd a’r ffordd orau o gyflwyno data a dadansoddiadau; a
- Rheoli a thargedu cyfathrebu amserol â rhanddeiliaid yn effeithiol gan ddefnyddio’r sianeli cyfathrebu mwyaf priodol ar gyfer pob grŵp rhanddeiliaid.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, sylwadau neu awgrymiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy arolwgteithio@trc.cymru.