Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru: Blaenoriaethu pynciau
Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru: Blaenoriaethu pynciau
Ar ôl lansio Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru ar 10 Mawrth 2025, aethom ati i ymgynghori â rhanddeiliaid er mwyn deall yn well pa bynciau y mae ganddyn nhw ddiddordeb ynddynt. Roedd rhanddeiliaid yn gallu dewis hyd at dri phwnc o restr o 12 eitem.
Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i flaenoriaethu pa ddadansoddiad y byddwn yn ei gynnal ac yn ei gyhoeddi gyntaf.
Cawsom 48 o ymatebion. Mae manylion y canlyniadau i’w gweld yn Nhabl 1.
Table 1: Dewisiadau blaenoriaethu pynciau
Pwnc i’w ddadansoddi |
Ymatebion |
---|---|
Cymhellion dros deithio: Amlder defnydd yn ôl dull teithio, pwrpas teithiau, a beth fyddai’n annog mwy o ddefnydd. |
29 (60.4%) |
Defnydd dulliau teithio: Cyfrannau'r dulliau teithio a’r pellter cyfartalog a deithir fesul unigolyn yn ôl dull teithio. |
22 (45.8%) |
Fforddiadwyedd a hygyrchedd: Barn ar fforddiadwyedd a’r gallu i gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus. |
17 (35.4%) |
Siwrneiau teithio llesol: Amlder cerdded, olwynio neu feicio, perchnogaeth beiciau, y pellteroedd cyfartalog a deithir yn ôl dull teithio ac yn ôl math o feic. |
16 (33.3%) |
Siwrneiau aml-ddull: Y prif ddulliau a’r dulliau ychwanegol a ddefnyddir, yn ogystal â’u hamlder a’u pellteroedd. |
12 (25.0%) |
Perchnogaeth a defnydd ceir: Nifer y cerbydau fesul cartref a’u math o danwydd, deiliadaeth ceir, y pellter a deithir yn ôl math o danwydd cerbyd, a’r rhesymau dros eu defnyddio. |
11 (22.9%) |
Siwrneiau ar drafnidiaeth gyhoeddus: Cost gyfartalog fesul cilomedr a deithir, y pellter a deithir, y dulliau a ddefnyddir i gyrraedd y trên neu’r bws, a’r ieithoedd a ddefnyddir. |
10 (20.8%) |
Boddhad â theithiau: Yn ôl dull teithio, ac agweddau sy’n dibynnu ar y dull teithio (er enghraifft, prydlondeb bysiau, neu lwybrau beicio a chysylltiadau). |
8 (16.7%) |
Boddhad yn yr amgylchedd trafnidiaeth: Teimladau o groeso a diogelwch yn ôl dull trafnidiaeth, a phryderon ynghylch sŵn trafnidiaeth. |
8 (16.7%) |
Siwrneiau ar drafnidiaeth gymunedol | 3 (6.3%) |
Arall | 1 (2.1%) |
Teithio yn yr awyr ac ar y môr: Meysydd awyr a phorthladdoedd a ddefnyddir, rhesymau dros deithio, a'r dull teithio a ddefnyddir i gyrraedd y maes awyr neu'r porthladd. |
0 (0.0%) |
Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio ochr yn ochr â’r adborth ar opsiynau cyhoeddi a gawsom yn ystod hydref 2024 i roi sail i’n dull cyhoeddi.
Byddwn yn parhau i estyn allan at grwpiau rhanddeiliaid a defnyddwyr posibl wrth i’r dadansoddiad o Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru ddatblygu.