Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru: Opsiynau cyhoeddi data

Submitted by Content Publisher on

Trosolwg

Bydd Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru (WNTS) yn casglu gwybodaeth am agweddau ac ymddygiad teithio yng Nghymru. Fe'i cynlluniwyd i gynrychioli poblogaeth Cymru. Bydd data ar gael ar lefel genedlaethol a rhanbarthol. Mae’r arolwg mewn dwy ran: holiadur modd-benodol sy’n cynnwys cwestiynau am agwedd ar draws ystod o ddulliau trafnidiaeth a dyddiadur teithio deuddydd, yn cofnodi teithiau ymatebwyr dros y ddau ddiwrnod blaenorol.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn llywio polisïau a phenderfyniadau. Bydd yn cael ei ddefnyddio i fonitro cynnydd yn erbyn targedau a amlinellir yn Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 a Sero Net Cymru.

Mae gennym ddiddordeb mewn deall sut i gyfleu ystadegau i ddefnyddwyr yn fwyaf effeithiol, gan ystyried eu hanghenion o ran sut y dylem gyhoeddi ystadegau.

Mae sawl opsiwn cyhoeddi ar gyfer datganiadau pwnc-benodol gyda manylion am eu hyd, fformat a pha mor gyflym y byddent ar gael i ddefnyddwyr.

Gallwch gofnodi eich barn a'ch dewisiadau yn yr holiadur byr hwn.

Math

Hyd

Cynnyrch

Amseroldeb

1. Crynodeb byr

Byr

(Un dudalen)

Rhestr pwyntiau bwled o ffeithiau allweddol a llyfr gwaith yn cynnwys tablau data.

Cyhoeddir yn
gynt

2. Offeryn siart
rhyngweithiol

Byr

(Un dudalen)

Offeryn siart rhyngweithiol a rhestr fer o ystadegau allweddol, ynghyd â llyfr gwaith yn cynnwys tablau data.

Cyhoeddir yn
gynt

3. Erthygl ddata

Canolig

(5-10 tudalen)

Cymysgedd o destun, siartiau a ffeithluniau, ynghyd â llyfr gwaith yn cynnwys tablau data.

Cyhoeddir yn
gynt

4. Bwletin manwl

Hir

(10-15 tudalen)

Adroddiad manwl yn cyfuno ymatebion agweddol ag ymddygiadau teithio, ynghyd â llyfr gwaith yn cynnwys tablau data.

Cyhoeddir yn
ddiweddarach

5. Llyfrau ffeithiau
modd

Hir

(15+ tudalen)

Cyfuniad o sawl cyhoeddiad (posibl) yn un llyfr ffeithiau cynhwysfawr yn ôl pob dull teithio.

Cyhoeddir yn
ddiweddarach

Trwy gydol yr adroddiad hwn, defnyddir data ffug i ddangos sut y gallai'r opsiynau cyflwyno edrych. Data ffug yw'r ffigurau hyn, ac felly ni ddylid eu dyfynnu na'u defnyddio.

 

Opsiwn 1: Crynodeb byr

Trosolwg o'r cyhoeddiad:

Byddai'r cyhoeddiad yn cynnwys llyfr gwaith sy’n cynnwys tablau data lluosog ar gyfer y modd, a chrynodeb un dudalen o'r canfyddiadau allweddol. Cyflwynir y crynodeb ar ffurf pwyntiau bwled.

 

Enghraifft:

Opsiwn 1: Crynodeb byr

 

Opsiwn 2: Offeryn siart rhyngweithiol

Trosolwg o'r cyhoeddiad:

Cyhoeddir offeryn siart rhyngweithiol ochr yn ochr â thablau lluosog mewn llyfr gwaith data. Bydd yr offeryn siart rhyngweithiol wedi’i ddelweddu gan Power BI, a bydd yn galluogi defnyddwyr i ddewis rhwng mesurau, dadansoddiadau demograffig a data ar lefel genedlaethol a rhanbarthol (lle bo ar gael).

Bydd rhestr fer o ffeithiau allweddol hefyd yn cael ei chynnwys, yn debyg i Opsiwn 1.

 

Enghraifft:

Opsiwn 2: Offeryn siart rhyngweithiol

 

Opsiwn 3: Erthygl ddata

Trosolwg o'r cyhoeddiad:

Erthygl ysgrifenedig, pump i ddeg tudalen yn manylu ar ddadansoddiadau allweddol a chymariaethau ar draws gwahanol grwpiau demograffig a dadansoddiadau daearyddol. Bydd siartiau a ffeithluniau'n cael eu hymgorffori ymhlith y testun, gan leihau'r angen i ymchwilio'n drylwyr i'r data. Bydd gweithlyfr yn cael ei gyhoeddi fel ffynhonnell ddata i gefnogi’r erthygl.

 

Enghraifft:

Opsiwn 3: Erthygl ddata

 

Opsiwn 4: Bwletin manwl

Trosolwg o'r cyhoeddiad:

Adroddiad hirach, 10-15 tudalen yn cyfuno ymatebion agwedd (e.e., boddhad, teimlad o groeso) â phatrymau teithio a gofnodwyd o’r dyddiadur teithio deuddydd. Bydd hyn yn adeiladu ar y dadansoddiad ysgrifenedig yn Opsiwn 3, gan archwilio effaith agweddau teithio ar ymddygiadau teithio. Bydd gweithlyfr yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r bwletin.

 

Enghraifft:

Opsiwn 4: Bwletin manwl

 

Opsiwn 5: Llyfrau ffeithiau modd

Trosolwg o'r cyhoeddiad:

Adroddiad hir, modd-benodol, 15+ tudalen yn fwy na thebyg. Bydd y dadansoddiad yn cynnwys yr holl ffeithiau allweddol a dadansoddiadau yn ôl defnydd ac agweddau, gan gynnwys gwahaniaethau rhwng daearyddiaethau, lle bônt ar gael.

Bydd yr adroddiad cynhwysfawr hwn yn cyfuno nifer o adroddiadau llai a bydd yn ffynhonnell allweddol o’r holl wybodaeth sy’n benodol i’r modd. Yn ogystal, bydd sawl tabl data yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â'r llyfr ffeithiau.

 

Enghraifft:

  • Pennod 1: Teithiau beicio y dydd a chyfran modd cyffredinol
  • Pennod 2: Teithiau beicio yn ôl math o feic
  • Pennod 3: Boddhad beicio a theimlad o groeso
  • Pennod 4: Gwahaniaethau yn y defnydd o feiciau yn ôl boddhad a chroeso
  • Pennod 5: Anghydraddoldeb gallu beicio yn ôl oedran, rhyw a gallu