Arloesi ar gyfer gwell trafnidiaeth

Rydyn ni’n gwybod bod creu symudiad oddi wrth y car i deithio cynaliadwy yn dibynnu ar ddarparu trafnidiaeth ddibynadwy sy’n diwallu anghenion pobl nawr ac yn y dyfodol.

Rydyn ni’n gweithio gydag arbenigwyr trafnidiaeth, darparwyr gwasanaethau a pheirianwyr i ddatblygu atebion arloesol a phwrpasol i’r problemau trafnidiaeth rydyn ni i gyd yn eu hwynebu yng Nghymru.

 

Gweithio gyda Keolis ac Amey i drawsnewid rheilffyrdd Cymru

Rydyn ni wedi gweithio mewn partneriaeth â’r cwmnïau gweithredu a pheirianneg trafnidiaeth Keolis ac Amey i wneud peth o’r gwaith uwchraddio mwyaf sylweddol ar reilffyrdd Cymru ers degawdau.

Gyda’n gilydd, rydyn ni’n sbarduno gwelliannau sylweddol i wneud teithio ar drenau yng Nghymru yn symlach, yn gyflymach ac yn fwy dibynadwy. Maent yn cynnwys trenau mwy newydd a gwell, mwy o gapasiti, amseroedd teithio byrrach a thocynnau integredig rhwng rheilffyrdd a mathau eraill o drafnidiaeth.

Gan weithio gydag Amey Infrastructure, rydyn ni’n parhau i ddarparu’r Metro yn Ne Cymru i wella cysylltedd ar gyfer yr 1.5 miliwn o bobl sy’n byw ac yn gweithio yn Rhanbarth Prifddinas Caerdydd. Bydd yn adeiladu rhwydwaith integredig o fysiau, rheilffyrdd, cerdded a theithio ar olwynion, a beicio, gan wneud teithio cynaliadwy yn haws ar draws De Cymru.

Mae Keolis ac Amey yn dod â phrofiad sylweddol ac arbenigedd byd-eang i’r dasg o drawsnewid ein rheilffyrdd, gweithredu rhwydweithiau trafnidiaeth aml-ddull a chyflawni prosiectau peirianneg a seilwaith trafnidiaeth sylweddol.

 

Darllen mwy

 

Labordy TrC

Mae Labordy TrC yn helpu busnesau newydd creadigol ac uchelgeisiol i ddatblygu atebion a syniadau i wella profiad cwsmeriaid ac effeithlonrwydd ar draws rhwydwaith trafnidiaeth Cymru.

Mae rhaglen sbarduno 12 wythnos y Labordy yn cynnwys gweithdai, mentora a chyfleoedd hyfforddi. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar drawsnewid syniadau arloesol yn atebion ymarferol i rwydwaith trafnidiaeth Cymru sy’n newid yn gyflym. Hyd yma, mae wedi sbarduno 18 o fusnesau newydd i’r diwydiant rheilffyrdd.

Mae hyn nid yn unig yn ein helpu i ddarparu profiad gwell i’n cwsmeriaid o ddydd i ddydd. Mae hefyd yn gyfle gwych i fusnesau newydd arloesol sy’n tyfu i ddatblygu eu syniadau.