Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth

Rydyn ni wedi datblygu Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ac rydyn ni’n bwrw ymlaen â hyn. Mae’n nodi’r weledigaeth ar gyfer system drafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy ac effeithlon i Gymru.

Bydd canlyniadau’r Cynllun hwn yn cefnogi Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, fel ei bod yn haws i bobl adael eu ceir gartref a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a theithio ar olwynion, a beicio. Ar hyn o bryd, trafnidiaeth sy’n gyfrifol am 17% o allyriadau carbon Cymru. Bydd lleihau allyriadau a llygredd o drafnidiaeth yn ein helpu i gyflawni ein nod o sero-net erbyn 2050, gan leihau bygythiad y newid yn yr hinsawdd.

Mae’r cynllun yn cyd-fynd yn agos â’r gwaith arall rydyn ni’n ei wneud i gefnogi agenda trafnidiaeth gynaliadwy Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Metro.

 

Darllen mwy