Deall trafnidiaeth yng Nghymru

Mae ein Huned Dadansoddi Geo-ofodol a Thrafnidiaeth Strategol yn adeiladu sylfaen dystiolaeth gref sy’n ein galluogi i gynnal gwerthusiadau effeithiol o gynigion ar gyfer prosiectau trafnidiaeth.

Mae gwaith y tîm yn sail i’r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer prosiectau a fydd o fudd i bobl Cymru, boed hynny’n llwybrau teithio lleol neu’n wasanaethau trafnidiaeth pellter hir a thrawsffiniol.

 

Dadansoddi data trafnidiaeth

Rydyn ni’n helpu rheolwyr ein prosiectau, Llywodraeth Cymru a chynghorau lleol, i ddylunio a gweithredu ffyrdd o asesu’r angen am brosiectau trafnidiaeth gyda data. Mae hyn yn ein helpu i fodelu beth sy’n debygol o fod yn brif effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd.

 

Data geo-ofodol

Rydyn ni’n ehangu mynediad at ddata trafnidiaeth allweddol drwy adeiladu system gwybodaeth geo-ofodol (data sy’n cael ei ddangos mewn map neu leoliad daearyddol) a fydd yn ein galluogi i storio, delweddu a dadansoddi amrywiaeth eang o ddata geo-ofodol. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall anghenion trafnidiaeth rhanbarthau daearyddol penodol ledled Cymru yn well.

Image of geospatial data

 

Modelu trafnidiaeth 

Rydyn ni’n cynnal a diweddaru Modelau Trafnidiaeth Rhanbarthol Cymru. Mae’r rhain yn astudiaethau o’r teithiau rydyn ni i gyd yn eu gwneud drwy wahanol ddulliau trafnidiaeth, gan gynnwys ceir, rheilffyrdd a bysiau yn ogystal â cherdded ac ar olwynion, a seiclo. Maen nhw’n helpu llunwyr polisïau i gael gwell dealltwriaeth o sut mae trafnidiaeth yn gweithio yng Nghymru.

 

Monitro a gwerthuso

Rydyn ni’n nodi dulliau i TrC a Llywodraeth Cymru werthuso llwyddiant cynlluniau trafnidiaeth presennol fel Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth, yn ogystal â chynlluniau lleol a rhanbarthol. Mae hyn yn helpu i ganfod ffyrdd o wella cynllunio trafnidiaeth yn y dyfodol.

 

Arolwg Teithio Cenedlaethol

Rydyn ni’n datblygu Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru i gasglu data o ansawdd uchel ar sut rydyn ni i gyd yn defnyddio trafnidiaeth yng Nghymru. Bydd hyn yn helpu llunwyr polisïau i werthuso effeithiau strategaethau, cynlluniau ac ymyriadau trafnidiaeth i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth cynaliadwy sy’n diwallu anghenion pobl.

 

Archwilio ffynonellau data newydd

Mae’r tîm yn gweithio gyda chydweithwyr i ddeall sut gall gwybodaeth strategol ehangach a data dadansoddi gyflymu’r gwaith dadansoddi a gwneud penderfyniadau ynghylch cynigion trafnidiaeth. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod y prosiectau sy’n cael eu datblygu gennym yn rhai buddiol a chost-effeithiol.