Class 230 train at a platform / fflecsi bus on a road

Mwy o gyfleoedd i bawb yn y gogledd gyda’r Metro

Rydyn ni’n dymuno gwneud teithio ar draws gogledd Cymru yn haws ac yn gyflymach p’un ac ydyw ar drên, bws, beic neu ar droed. Bydd hyn yn helpu i greu mwy o gyfleoedd ar gyfer ein cymunedau, cefnogi buddsoddiad mewnol yn yr ardal a meithrin cysylltiadau gwell â gogledd-ddwyrain Lloegr ac ar draws y DU.

Mae rhannau amrywiol gogledd Cymru wedi llywio teithio yn y rhanbarth gan fod ganddynt oll nodweddion, tueddiadau teithio, darpariaeth o wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, teithio llesol a seilwaith gwahanol, yn ogystal â daearyddiaeth unigryw a chymysgedd o ardaloedd trefol a gwledig, gan gynnwys ardaloedd hynod o fynyddig yn enwedig o fewn Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae’r boblogaeth ar ei mwyaf mewn ardaloedd yn y gogledd-ddwyrain a’r gogledd arfordirol a nodwyd bod y rhan fwyaf o’r teithiau mewn car a wneir yn y rhanbarth yn deithiau byr, o fewn yr un ardal neu rhwng ardaloedd cyfagos.

Rydyn ni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid ehangach i ymchwilio a nodi problemau a chyfleoedd er mwyn gwella trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol gan hybu teithio mewn ffyrdd gwahanol a chynaliadwy.

 

  • Beth ydy Metro Gogledd Cymru’n golygu i chi?

    • Trafnidiaeth integredig

    • Byddwn yn parhau â datblygiadau o ran integreiddio bysiau, trenau a theithio llesol er mwyn dod â chysylltiadau gwell a hwyluso teithio. Mae’r gwelliannau’n cynnwys cyfleusterau parcio beiciau gwell yn y gorsafoedd trên a bws, trafnidiaeth gyhoeddus sy’n ymateb i’r galw, a thocynnau integredig a ellir eu defnyddio ar draws gwasanaethau bws a thrên.

    • Rheilffordd

    • Ym mis Mai 2019, gwnaethom lansio ein gwasanaeth newydd rhwng Lerpwl a Wrecsam drwy’r Halton Curve, gan wella cysylltiadau rhwng Lerpwl a gogledd Cymru.
       

    • Rydyn ni’n buddsoddi £800 miliwn mewn trenau cyflymach, gwyrddach ar gyfer gwasanaethau trên Cymru a’r Gororau.
       

    • Ym mis Ionawr 2023, lansiwyd ein fflyd dosbarth 197, sef ein trenau newydd sbon cyntaf ar y rhwydwaith, yng ngorsaf drenau Llandudno.
       

    • Ym mis Ebrill 2023, gwnaeth y trenau cyntaf o’n fflyd dosbarth 230, sef trenau hybrid cyntaf Cymru, ddechrau gweithredu ar Lein y Gororau rhwng Wrecsam a Bidston. Ar hyn o bryd, rydyn ni wrthi’n profi uwchraddiadau i’r fflyd i sicrhau gwelliant mewn dibynadwyedd a pherfformiad.
       

    • Ym mis Rhagfyr 2023, gwnaethom gyflwyno amserlen newydd ar gyfer Lein y Gororau rhwng Wrecsam a Bidston. Mae’n cynnwys 8 trên y dydd ychwanegol - 4 trên i bob cyfeiriad. Mae hyn wedi helpu i wella gwasanaethau ar y llinell hon yn sylweddol.
       

    • Fel rhan o’n Rhaglen Gwella Gorsafoedd, rydyn ni wedi cyflawni gwelliannau sylweddol yn y gorsafoedd gan gynnwys Caer, y Fflint a Dwyrain Runcorn yn 2024.

    • Bws

    • Rydyn ni’n dymuno gweld mwy o bobl yn teithio ar fws ac iddo fod yn opsiwn ddeniadol.
       

    • Rydyn ni wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a gweithredwyr bws preifat i ddylunio rhwydwaith cydlynus o lwybrau ar draws gogledd Cymru.
       

    • Rydyn ni hefyd wedi bod wrthi’n datblygu ein tocynnau integredig er mwyn hwyluso teithio yng Nghymru a’i gwneud hi’n llai cymhleth.

    • Rydyn ni'n gweithio ar gynlluniau i wella gorsafoedd, gan ei gwneud hi’n haws newid rhwng y rheilffordd a’r gwasanaeth bws yn Wrecsam Cyffredinol, a rhwng gwasanaethau Arfordir Gogledd Cymru a Rheilffordd Borderlands yn Shotton.
       

    • Rydym wedi gweithio gyda Chyngor Sir Gwynedd i wella hen wasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa. Mae Sherpa’r Wyddfa newydd bellach yn gweithredu yn yr ardal, gan ddod â thwristiaid a phobl leol i’r Parc Cenedlaethol. Mae’n cefnogi’r economi leol ac yn helpu i leddfu tagfeydd ar y ffyrdd drwy annog ymwelwyr i adael eu ceir gartref neu y tu allan i’r Parc Cenedlaethol.
       

    • Rydyn ni’n cyflwyno trafnidiaeth fwy hyblyg sy’n ymateb i’r galw gyda gwasanaethau bws fflecsi yn cael eu cyflwyno yng Nghonwy, Gwynedd, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.
       

    • Rydyn ni’n cyflwyno teithiau tapio ar y dechrau a’r diwedd wedi'u capio gan ddefnyddio cardiau banc digyswllt ar draws 25 o weithredwyr bysiau yng Ngogledd Cymru. Ar ben hynny, rydyn ni wedi gweithio gyda’r awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau i gyflwyno teithiau tapio ar y dechrau a’r diwedd ar y tocyn 1bws sy’n cefnogi teithiau wedi’u capio ar bob gwasanaeth bws yng Ngogledd Cymru am £7.00.

    • Teithio llesol

    • Rydyn ni wedi bod yn cydweithio ac yn cefnogi Awdurdodau Lleol yn y blynyddoedd diwethaf i hwyluso cerdded, olwynio a seiclo rhwng ein canolbwyntiau teithio allweddol.
       

    • Bydd llwybrau cerdded, olwynio a seiclo mwy diogel a deniadol yn hwyluso teithio o amgylch ein trefi, dinasoedd a phentrefi.
       

    • Rydyn ni hefyd yn ymchwilio ffyrdd o wella gorsafoedd trenau er mwyn hwyluso’r gallu i cerdded, olwynio a seiclo rhyngddynt.

  • Beth sydd i ddod?

    • Mae ein huchelgais gwerth miliynau o bunnoedd yn ymchwilio ffyrdd o drawsnewid gwasanaethau trên, bws a theithio llesol ar draws y rhanbarth.

    • Rheilffordd

    • Rydyn ni’n ymchwilio ffyrdd o ddatrys problemau o ran capasiti yng Nghaer a Padeswood er mwyn galluogi gwelliannau i Brif Linell Reilffordd y Gogledd a Lein y Gororau yn y dyfodol.
       

    • Byddwn yn parhau i weithio â Network Rail i nodi a rhoi newidiadau i seilwaith angenrheidiol ar waith er mwyn cefnogi’r gwelliannau hyn.
       

    • Mae uchelgeisiau allweddol yn cynnwys gwella amlder ar Brif Linell Reilffordd y Gogledd a Lein y Gororau, gyda’r bwriad hefyd o ehangu’r llwybr rhwng Wrecsam a Bidston i Lerpwl.

    • Bws

    • Bydd gwelliannau sylweddol i’r gwasanaeth bws yn y blynyddoedd i ddod.
       

    • Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â’r llywodraeth leol a gweithredwyr bws preifat i gyflawni rhwydwaith cydlynus o lwybrau ledled Cymru.
       

    • Rydyn ni’n gweithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru a’r llywodraeth leol i wella’r cerbydau a ddefnyddir er mwyn gwella profiad y cwsmer ac ansawdd aer.
       

    • Ymhellach yn y dyfodol, bwriedir cyflwyno cerbydau trydan ar ragor o lwybrau er mwyn cwblhau’r gwaith decarboneiddio gwasanaethau TrawsCymru yng ngogledd Cymru.
       

    • Byddwn ni hefyd yn parhau i weithio â llywodraeth leol i wella prif lwybrau bws gan gyflawni siwrneiau cyflymach a mwy dibynadwy, sy’n cysylltu â gwasanaethau trên a theithio llesol.

    • Trafnidiaeth Integredig

    • Byddwn yn parhau i gyflawni gwaith ar hyd gwasanaethau bws, trên, a theithio llesol, er mwyn gwneud datblygiadau o ran integreiddio siwrneiau. Mae ein huchelgeisiau’n cynnwys cyfleusterau parcio beiciau gwell yn y gorsafoedd trên a bws, trafnidiaeth gyhoeddus sy’n ymateb i’r galw, a thocynnau integredig a ellir eu defnyddio ar draws gwasanaethau bws a thrên.

 

Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru

Fe wnaeth Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru argymell ffyrdd o wella trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys ar Ynys Môn, yng Ngwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Fe’i cefnogwyd gan Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru.

Ystyriodd y Comisiwn sut y gellid newid i drafnidiaeth fwy cynaliadwy, a hynny ar gyfer pobl a nwyddau, yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir. Edrychwyd ar anghenion ardaloedd trefol a gwledig a phenderfynwyd ystyried gwahanol ddulliau o deithio, gan gynnwys defnyddio trenau, bysiau, cerdded a beicio.

Roedd yr awgrymiadau yn cynnwys ffyrdd amgen ac ymarferol o deithio yn lle teithiau preifat yn y car yn ogystal â system drafnidiaeth sy’n gwella bywydau pawb yng Ngogledd Cymru, yn ogystal â chefnogi’r ymdrech i gyrraedd sero net.

Bwrwch olwg ar yr adroddiad terfynol yma.

Lee Robinson Profile

Lee Robinson

“Dros y blynyddoedd nesaf, bydd Trafnidiaeth Cymru yn gwella ac yn ehangu’r rhwydwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru wrth i ni gydweithio â phartneriaid i wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o greu rhwydwaith trafnidiaeth integredig ar gyfer Cymru gyfan. Bydd ein cynlluniau ar gyfer Gogledd Cymru yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o sicrhau bod y rhwydwaith yn diwallu anghenion lleol a rhanbarthol.”

Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Rhanbarthol ac Integreiddio TrC