Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd Cwestiynau Cyffredin
-
Pryd fydd y gyfnewidfa newydd yn agor?
-
Disgwylir y bydd Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn agor yng ngwanwyn 2024. Rydym yn datblygu’r rhaglen waith sydd ei hangen er mwyn adeiladu cyfnewidfa fws, gan gynnwys cyfarpar mewnol. Bydd hefyd angen i ni gynnal treialon i brofi’r cyfleuster yn llawn a datrys unrhyw broblemau cychwynnol.
-
-
Sut ydych chi wedi mynd at i ymgysylltu â’r gweithredwyr bysiau ac ydyn nhw wedi cytuno i ddefnyddio’r gyfnewidfa pan fydd yn weithredol?
-
Rydyn ni wedi bod yn cyfathrebu gyda gweithredwyr bws er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt, yn ogystal â gwrando ar eu hadborth. Rydyn ni hefyd wedi bod yn trafod eu diddordeb mewn rhedeg gwasanaethau o’r gyfnewidfa pan fydd yn agor. Caiff trefniadau gweithredol ar gyfer y gyfnewidfa eu cwblhau maes o law.
-
-
Pa welliannau fydd o gymharu â’r hen orsaf fysiau?
-
Amcan y prosiect yw creu cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus a fydd yn galluogi cwsmeriaid i wneud trosglwyddiadau di-dor rhwng bysiau, trên a theithio llesol gyda systemau gwybodaeth cwsmeriaid cwbl integredig i gefnogi hyn. Mae gwelliannau ychwanegol yn cynnwys:
- Cynnig gwell cysylltiadau i a rhwng gwahanol ddulliau trafnidiaeth, o fewn y ddinas ac ar draws y rhanbarth i weddu i ffordd o fyw pobl yn well.
- Cyfnewidfa fysiau modern, glân a diogel gyda chyfleusterau hanfodol i bawb gan gynnwys unedau manwerthu, toiledau cyhoeddus, a ffynhonnau dŵr yfed i wneud teithio ar fws yn brofiad mwy cyfforddus.
- Bysiau dibynadwy ac amserol i gael pobl lle mae angen iddynt fynd ac annog mwy i ddefnyddio'r gwasanaeth.
- Canolbwynt ar gyfer gwybodaeth am drafnidiaeth a chaiff ei staffio gan staff hawdd mynd atynt - gan ei gwneud yn gyfarwydd, yn hawdd ac yn ddi-dor i bawb ei ddefnyddio.
- Yn hygyrch i bawb ac yn cydymffurfio â’r Ddeddf Cydraddoldeb. Dyluniwyd y gyfnewidfa gan roi ystyriaeth i deithwyr modern er mwyn hwyluso’r profiad o deithio i bawb er gwaethaf gofynion hygyrchedd. Bydd hyn yn cynnwys lloriau botymog, map braille a thoiled mannau newid i ddileu rhwystrau a chynyddu mynediad i bawb.
-
-
Faint fydd hyn yn ei gostio a sut mae’n cael ei ariannu?
-
Mae Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn rhan o adeilad cyfnewidfa ehangach Llywodraeth Cymru a’r sector preifat a ddarperir gan Rightacres Property. Mae gosod Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn brosiect gwerth £11m a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
-
-
Sawl cilfach bysiau fydd yn y gyfnewidfa?
-
Mae lle i 14 o leoedd bysiau yn y gyfnewidfa. Bydd arwyddion a chyfeirbwyntiau ychwanegol o fewn y Sgwâr Canolog, gan sicrhau teithiau di-dor ac effeithlon i deithwyr, ar gyfer bysiau a leolir mewn ardaloedd eraill o ganol y ddinas. Bydd hefyd llysgenhadon hawdd mynd atynt wrth law i ateb unrhyw ymholiadau.
-
-
Sut bydd y gyfnewidfa bysiau newydd yn integreiddio â’r orsaf drenau?
-
Mae'r tîm prosiect sy'n darparu'r gwelliannau i orsafoedd Caerdydd Canolog yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr i ddatblygu'r gyfnewidfa fysiau i sicrhau y bydd y ddau yn integreiddio'n ddi-dor. Bydd hyn yn cynnwys systemau gwybodaeth cwsmeriaid modern, hawdd eu deall a ‘chyfarwyddyd’ clir yn yr orsaf drenau a’r gyfnewidfa. Mae opsiynau i wella cysylltedd yn uniongyrchol yn cael eu harchwilio.
-
-
Sut bydd y gyfnewidfa fysiau newydd yn cysylltu â dulliau eraill o deithio, yn enwedig beicio?
-
Mae’r gyfnewidfa wedi’i lleoli drws nesaf i adrannau newydd o rwydwaith llwybrau beicio mawr Caerdydd, sy’n golygu bod mynediad hawdd. Mae'r gyfnewidfa yn daith gerdded 50m i'r orsaf reilffordd, gan wneud cyfnewidfeydd i deithiau ymlaen yn gyflym ac yn hawdd.
-
-
A ystyriwyd hygyrchedd a chynhwysiant wrth ddylunio’r gyfnewidfa newydd?
-
Bydd Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn cydymffurfio’n llwyr â’r gofynion a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb, gan gynnwys lloriau botymog, map braille a thoiled mannau newid. Bydd hyn yn dileu rhwystrau a chynyddu mynediad i bawb.
-
-
Beth fydd yn digwydd pan fydd digwyddiadau mawr yn cael eu cynnal yng nghanol y ddinas?
-
Ar ddiwrnodau pan fo digwyddiadau yn cael eu cynnal a ffyrdd yn cael eu cau, bydd bysiau yn newid cyfeiriad i safleoedd bysiau ar strydoedd sydd y tu hwnt i berimedr y ffyrdd fydd ar gau. Er na fydd bysiau yn cyrraedd na gadael y gyfnewidfa ar ddiwrnodau pan fo digwyddiadau yn cael eu cynnal, bydd y gyfnewidfa yn aros ar agor er mwyn gallu cael mynedfa i siopau a chyfleusterau eraill unwaith ei bod yn weithredol. Bydd staff ar gael hefyd i helpu cwsmeriaid. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda gweithredwyr bysiau i sicrhau fod cwsmeriaid yn ymwybodol pan fo tarfu, gan gynnwys ar ddiwrnodau pan fo digwyddiadau yn cael eu cynnal.
-
-
Fydd coetsis yn defnyddio’r gyfnewidfa?
-
Dim ond bysiau fydd yn defnyddio’r gyfnewidfa a bydd coetsis yn parhau â threfniadau presennol. Mae TrC yn ymchwilio i opsiynau o ran sut y gellir gwella’r cyfleusterau i goetsys yng Nghaerdydd yn y dyfodol.
-
-
Ar ba adegau fydd staff yn y gyfnewidfa?
-
Bydd staff yn y gyfnewidfa pan yn weithredol a bydd mwy o gymorth i gwsmeriaid yn ystod cyfnodau prysur o’r dydd.
-
-
Pa elfen o’r adeilad y mae Trafnidiaeth Cymru yn gyfrifol amdani?
-
TrC sy’n gyfrifol am yr orsaf fysiau a’r ffedog fysiau (yr ardal y mae’r bysiau’n cyrraedd ac yn gadael ohoni). Bydd gweddill y datblygiad y tu allan i'r ardal hon yn cael ei brydlesu a'i weithredu gan drydydd parti.
-