Adnodd newydd pwysig yn dangos bywyd ar reilffyrdd Cymru yn gynnar yn yr 20fed Ganrif

Wrth i Gymru ddathlu ‘Rheilffordd 200’ - 200 mlynedd ers geni'r rheilffordd fodern - mae adnodd newydd pwysig wedi’i gyhoeddi sy’n dangos realiti gweithio ar reilffyrdd Cymru tua chan mlynedd yn ôl a pha mor llwm oedd y sefyllfa’n gallu bod.  Gan gwmpasu o Flaenau Ffestiniog, Pwllheli a Wrecsam i Aberdaugleddau, Abertawe a Mynwy, gall pobl archwilio pwy oedd yn gweithio ar y rheilffyrdd yng Nghymru a'r math o waith yr oeddent yn ei wneud - a beth ddigwyddodd iddynt yn y gwaith.

Mae'r cofnodion yn adrodd hanes pobl fel George Johnson, peilotwr (gyrrwr injan), ar Reilffordd y Barri, a gollodd ran isaf ei goes dde yn Coity ar 20 Tachwedd 1911.  Digwyddodd gan i'w droed gael ei dal mewn rheiliau a chael ei gwasgu gan y trên.  Pan ddychwelodd Johnson i'r gwaith dros flwyddyn yn ddiweddarach, cafodd ei ail-gyflogi gan Reilffordd y Barri fel signalwr - er mai dim ond talu am hanner isaf y goes artiffisial a wnaeth y Cwmni.

Deillia'r adnodd newydd o'r prosiect Railway Work, Life & Death, sy'n trafod y damweiniau a gafodd gweithwyr ar reilffyrdd ym Mhrydain ac Iwerddon cyn 1939.  Bu sylfaenwyr y prosiect yn gweithio gyda'r Archifau Cenedlaethol i sicrhau bod y cofnodion, gan gynnwys 31,000 yn ymwneud yn benodol â gweithwyr rheilffyrdd yng Nghymru, ar gael yn rhwydd i bawb.

Ymysg y miloedd o gofnodion mae hanes Edith Harris.  Roedd hi yn gweithio ar Reilffordd Rhymni yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn glanhau’r cerbydau.  Ar 28 Medi 1915, baglodd wrth groesi llinellau rheilffordd a chwympo, gan gleisio ei brest a methu â gweithio am bedwar diwrnod. Yn anffodus, cafodd William Cook, Rheolwr Trên ar Reilffordd Dyffryn Taf, 14 o ddamweiniau rhwng 1900 a 1919 - bron i un y flwyddyn!

Er nad oedd y rhan fwyaf o'r damweiniau a gofnodwyd yn ddifrifol, maent yn tynnu sylw at beryglon gwaith rheilffordd yn ystod y cyfnod hwnnw.  Mae rhai o'r cofnodion yn anarferol - fel Payne, porthor gyda Great Western Railway.  Brathodd menyw feddw ei fawd yng Nghasnewydd ar 4 Chwefror 1914!

Mae'r cofnodion ar gyfer Cymru bellach wedi'u cyhoeddi gan Brifysgol Portsmouth a'r Archifau Cenedlaethol, ynghyd â Trafnidiaeth Cymru (TrC).  Gellir dod o hyd iddynt ar-lein ar wefan prosiect Railway Work, Life & Death.

Dywedodd Dr Louise Moon, Arweinydd Technegol Treftadaeth, Etifeddiaeth ac Effaith Gynaliadwy TrC: “Rydym wrth ein boddau yn gallu cefnogi'r prosiect gwych a hygyrch hwn er mwyn gallu adrodd mwy o straeon am dreftadaeth rheilffyrdd Cymru a'r bobl sy’n rhan o’r straeon hyn.  Mae gweithio mewn partneriaeth a chyda gwahanol sectorau yn rhan hanfodol o ddatblygiad ein rhaglen dreftadaeth wrth i ni weithio i ddod â diwydiant, y byd academaidd a chymunedau ynghyd.”

Sied Nwyddau Rheilffordd Llanelli oedd lleoliad y lansiad ar 23 Mehefin, ac roedd yn arbennig o briodol oherwydd ymhlith y digwyddiadau a gofnodwyd yn y cofnodion ar gyfer Llanelli oedd dwy ddamwain a ddigwyddodd i ‘caller off‘ (gweithiwr nwyddau) gyda Great Western Railway.  Francis Creed oedd y dioddefwr a digwyddodd y ddamwain, yn ôl pob tebyg, yn y sied nwyddau. Yn gyntaf fe darodd ei ben ar foncyff; yn ail, llosgodd ei fys wrth lwytho nwyddau.

Dywedodd Dr Mike Esbester, Uwch Ddarlithydd mewn Hanes yn Ysgol Astudiaethau Ardal, Cymdeithaseg, Hanes, Gwleidyddiaeth a Llenyddiaeth ym Mhrifysgol Portsmouth, yn ogystal â chyd-arweinydd prosiect Railway Work, Life & Death: “Mae'r cofnodion hyn yn adnodd gwych, sy'n datgelu rhan o hanes Cymru sydd wedi'i hanwybyddu - nid yn unig y gwaith yr oedd pobl yn ei wneud ar reilffyrdd Cymru, ond y costau o ran traul yr oedd y gwaith hwnnw yn ei chael ar bobl - gweithwyr, eu teuluoedd a chymunedau ehangach.   Mae'n bwysig iawn cynnwys y cofnodion hyn fel rhan o ddathliadau ‘Rheilffordd 200’ - gallwn ddysgu cymaint am fywyd pob dydd bobl gyffredin, ar y rheilffyrdd a thu hwnt.  Mae wedi bod yn bosib diolch i'r gwirfoddolwyr gwych yn Yr Archifau Cenedlaethol, sydd wedi trawsgrifio'r cofnodion hyn dros y saith mlynedd diwethaf.”

Mae'r prosiect Railway Work, Life & Death yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Portsmouth, yr Amgueddfa Reilffordd Genedlaethol a Chanolfan Cofnodion Modern Prifysgol Warwick, a chydag yr Archifau Cenedlaethol o'r DU ac Undeb yr RMT.

Nod y prosiect yw gwella ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o weithwyr rheilffyrdd Prydain ac Iwerddon a’r damweiniau a gawsant, o'r 19eg ganrif hyd 1939.  Mae sicrhau bod yr wybodaeth hanesyddol hon ar gael i bawb yn rhan bwysig o waith y prosiect.  Mae achosion Cymru i'w gweld yng nghronfa ddata'r prosiect Railway Work, Life & Death, sydd ar gael yn rhad ac am ddim ar wefan y prosiect.