Mae’r Duke yn ôl

Roedd y trenau hyn yn enghraifft berffaith o ddyfeisgarwch Prydeinig a fyddai'n debygol o gael ei alw'n “uwchgylchu” y dyddiau hyn.

A nawr, am y tro cyntaf ers dros 60 mlynedd, mae un o'r trenau a deithiodd hyd a lled lein y Cambrian yn dychwelyd i Aberystwyth.

Yn gyfuniad o ddau fath o locomotif a oedd ar ddiwedd eu hoes, roedd yr injans dosbarth "Dukedog" wedi gwasanaethu ar lein y Cambrian am fwy nag 20 mlynedd. Roedd y trên hwn yn cynnwys boeler o drên dosbarth 'Duke', wedi’i gyfuno ag is-ffrâm injan 'Bulldog'. Roedd y Dukedogs yn brin ar y pryd, gydag injan oedd yn dal i fod yn ddigon ysgafn i redeg yn ddiogel dros Bont Y Bermo, o'i gymharu â'r locomotifau trymach a oedd yn fwy poblogaidd ar y pryd.

Adeiladwyd yr injans Duke a Bulldog yn yr 1890au, a’r trawsnewidiadau wedi digwydd yn y 1930au ar adeg pan oedd disgwyl i drenau newydd gymryd eu lle. Ac yn awr, mae’r unig "Dukedog" sy’n dal i oroesi ac mewn cyflwr da yn cael ei arddangos yn flaenllaw yn amgueddfa newydd sbon Cwm Rheidol, taith fer ar droed o Orsaf Reilffordd Aberystwyth. Cafodd injan Iarll Berkley 9017 ei dynnu'n ôl o wasanaeth ym 1960 ond fe'i cadwyd yn edrych ar ei orau gan Reilffordd Bluebell yn Sussex.

Gyda'r injan ar fenthyg i Reilffordd Cwm Rheidol, mae pobl sy'n byw yn yr ardal ac yn ymweld â hi yn gallu mwynhau gweld locomotif a oedd unwaith yn gonglfaen ar y lein, gan wneud teithiau i Fachynlleth, Pwllheli ac ymhellach i'r dwyrain tuag at y Drenewydd a'r Trallwng.

Dywedodd Llŷr ap Iolo, Rheolwr Gyfarwyddwr Rheilffordd Cwm Rheidol: "Rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi bod y locomotif hwn wedi’i fenthyg i'w arddangos yn gyhoeddus yma yn Aberystwyth. Fel rhan o'r prosiect i adeiladu ein hamgueddfa newydd, gosodwyd trac medrydd safonol i hwyluso'r math hwn o ymweliad: roedd y 'Dukedog' i’w weld fel y dewis perffaith i fod y locomotif mesurydd safonol cyntaf i gael ei arddangos. Rwy'n ddiolchgar iawn i fwrdd Rheilffordd y Bluebell am wneud y benthyciad hwn yn bosibl."

Dywedodd Rheolwr Treftadaeth ac Effaith Cynaliadwy Trafnidiaeth Cymru, Dr Louise Moon, ei bod yn "wych" bod cymaint o injans wedi'u cadw mewn cyflwr mor dda ar draws Cymru. Dywedodd: "Mae cymaint o ddiddordeb ac angerdd am yr oes aur hon o injans stêm ac mae'n wych bod cymaint wedi’u cadw mor dda. Roedd trenau dosbarth Dukedog yn enghraifft wych o ddyfeisgarwch a pheirianneg yn gweithio law yn llaw er mwyn datrys problem ac mae'n werth ymweld ag Aberystwyth i'w weld.”

Yn ogystal â'r Dukedog, mae'r amgueddfa newydd yn cynnwys locomotifau a cherbydau o bob cwr o'r byd, gan ei gwneud yn daith ddiddorol yn ôl mewn amser i dreftadaeth y rheilffordd wrth i ni baratoi i ddathlu Rheilffordd 200 yn 2025.