O Orsaf i Orsaf

Ym mlwyddyn Rheilffordd 200, gwelwn y llyfr lluniau nodedig ‘Station to Station’ yn cael ei lansio, gyda'r holl ffotograffau wedi'u tynnu gan fyfyrwyr.

Mae Station to Station yn gyfeiriad at gân ac albwm David Bowie o’r un enw o 1967. Mae’r prosiect yn ddogfen ffotograffig unigryw sy’n nodi pum mlynedd o drawsnewidiad y rheilffyrdd yn Ne Cymru, yn ogystal â’r cymunedau sy’n byw ac yn gweithio ar hyd y llinellau hyn. Ers 2020, mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi gweithio gydag arweinwyr cwrs Ffotograffiaeth Ddogfennol Prifysgol De Cymru (PDC) i gefnogi’r prosiect a darparu briffiau i fyfyrwyr. Eleni, canolbwyntiodd y briff ar Reilffordd 200 a’i themâu sy’n nodi dathliad o ddiwylliant a dylanwad y rheilffyrdd.

Dan arweiniad tîm o ffotograffwyr proffesiynol, mae myfyrwyr wedi teithio ar hyd llinellau Rhymni, Treherbert a Merthyr Tudful i chwilio am eiliadau sy'n adrodd straeon am y clytwaith cyfoethog o fywyd cyfoes yng nghymoedd De Cymru yn ystod cyfnod o weddnewidiad.

Mae trafnidiaeth wedi chwarae rhan hanfodol wrth lunio hanes amrywiol Cymru, gan gysylltu pobl â lleoedd, wrth i nodweddion ffisegol a'r cymunedau o'u cwmpas ffurfio conglfeini ein seilwaith diwylliannol. Mae'r rheilffyrdd wedi ysbrydoli artistiaid dirifedi, o gerddorion i awduron a ffotograffwyr, ac mae pob un ohonynt wedi archwilio cyfraniad parhaus y rheilffyrdd at ein tirwedd ddiwylliannol.

Cefnogwyd y llyfr lluniau hefyd gan Gyngor Rhondda Cynon Taf a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a'u Tîm Datblygu Celfyddydau sydd wedi'u lleoli yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon.

Os hoffech chi gael gwybod mwy am y prosiect neu gymryd rhan yn y dyfodol, cysylltwch â David Barnes, Uwch Ddarlithydd mewn Ffotograffiaeth/Ffotograffiaeth Ddogfennol, PDC