Enw ein ail brentis sy’n cael ei rhoi yn y sbotolau fel rhan o gyfres pobl #Rheilffordd200 Cymru a'r Gororau yw Becca. Mae Becca wedi cyrraedd rhestr fer Prentis y Flwyddyn Gweithwyr Proffesiynol Ifanc y Rheilffyrdd 2025.

Becca ydw i, Cydlynydd Mynediad a Chynhwysiant Trafnidiaeth Cymru. Er fy mod wedi bod yn gweithio gyda’r busnes ers ychydig dros flwyddyn bellach, rwy’n dal i deimlo mod i ond wedi megis dechrau gweithio yma!

Rwy’n ymddiddori llawer mewn rhwydweithiau trafnidiaeth, yn enwedig rheilffyrdd ysgafn.  Rwy'n ffan mawr o system drafnidiaeth dan ddaear Llundain - y London Underground!  Cefais fy magu ym Manceinion, ac roeddwn yn aml yn teithio ar y Metrolink ac yn gwirioni modd rhwydd oedd hi i deithio yng nghanol y ddinas.  Yn 6 oed, rhoddodd y gallu i neidio ar y trên ac oddi arno bob ychydig funudau er mwyn teithio o bwynt A i bwynt B i bwynt C rhyw ymdeimlad rhyfeddol o antur i mi.

Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, dechreuais ddefnyddio trenau Virgin (Avanti bellach) yn arbennig y trên Pendolino rhwng Manceinion a Llundain i ymweld â ffrindiau.  Dyma ddechrau ar fod yn annibynnol. Mae fy anabledd yn ei gwneud hi'n anodd i mi fynd yma ac acw, felly mae'r ymdeimlad o ryddid a gefais, ac yn parhau i'w gael, yn sgil teithio ar drên yn amhrisiadwy. Roedd cyfnod pan roedd gwneud popeth bron yn rhwystr ac felly roedd teithio ar y trên yn gwneud i mi deimlo’n ddiogel - roedd yn gwneud i mi deimlo’n hyderus ac yn sicr yn fy hun. Ers hynny, rwyf wedi teithio ar hyd a lled y DU ac yn manteisio i'r eithaf ar fy nhocyn teithio staff mor aml â phosibl.

Pan yn y brifysgol, cefais gyfle i ddatblygu fy niddordeb mewn hygyrchedd a chynhwysiant.  Fe ymunais â phwyllgor y Grŵp Myfyrwyr Anabl a bod yn lais i fyfyrwyr oedd ag ystod o anghenion gwahanol a helpu gyda phroblemau cynhwysiant, pobl a fyddai fel arall, wedi cael eu hynysu.  Roeddwn yn trefnu digwyddiadau galw heibio misol hygyrch lle gallai ein haelodau gymdeithasu a thrafod unrhyw fater ynghylch eu hanabledd.

Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio'n agos gyda'r Panel Hygyrchedd sy’n galluogi mi i barhau i wneud gwaith tebyg iawn i’m rôl wirfoddol flaenorol.  Rwy’n hyderus fy mod yn cael effaith wirioneddol ar gymunedau a phobl ar draws ein rhwydwaith. Pan welaid i’r swydd hon yn cael ei hysbysebu, rôl oedd yn caniatáu i mi weithio ym maes rheilffyrdd ynghyd â rhannu fy nymuniad mynwesol i wella mynediad a chynhwysiant, doedd dim amdani ond ymgeisio! Rwy'n gyfrifol am gydlynu cyfarfodydd misol y panel ac un rhan o fy swydd rwy'n fwynhau’n fawr yw cynorthwyo rheolwyr prosiect ar sut i gyflwyno gwybodaeth i aelodau'r panel mewn ffordd hygyrch.

Mae codi ymwybyddiaeth ynghylch hygyrchedd digidol a fformatau amgen yn bwysig iawn i mi a hoffwn barhau â'r gwaith hwn ar draws y sefydliad i sicrhau bod polisïau a deunyddiau mor gynhwysol â phosibl i bawb, gan gynnwys cydweithwyr a chwsmeriaid niwrowahanol.  Fel rhywun sy'n niwrowahanol, mae gennyf brofiad gwirioneddol o'r rhwystrau sy'n wynebu'r gymuned hon o ran trafnidiaeth gyhoeddus.  Mae hyn yn fy nghymell i herio a chwalu'r rhwystrau hyn fel y gall pawb fwynhau defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a'r ymdeimlad o annibyniaeth a rhyddid a ddaw yn ei sgil.

Mae'n hollbwysig sicrhau bod ein holl drafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch ac y gwneir gwelliannau i'r seilwaith gydag unigolion mewn golwg, er mwyn sicrhau bod pawb yn cael profiad mor ddymunol ac mor annibynnol â phosibl, ond bod cymorth ar gael os oes ei angen wrth gwrs. Rwy'n credu’n gryf mewn cynnig gwasanaeth holistig ac er fy mod yn ymwybodol iawn efallai na all popeth fod yn hygyrch ac yn gynhwysol ar yr un pryd, rwy'n awyddus iawn i dreulio fy ngyrfa yn ceisio gwireddu'r ddelfryd honno!

Mae dod o hyd i swydd o ganlyniad i’r brentisiaeth hon wedi rhoi cyfle heb ei ail i mi o gwrdd â phrentisiaid eraill yn y busnes. Fyddai hynny ddim wedi bod yn bosibl heb y brentisiaeth, gan roi cyfle i mi ddeall y diwydiant rheilffyrdd yn well a sut mae'n gweithio.

Fy hoff ran o’r gwaith yw gweithio gydag aelodau'r panel, yn enwedig pan yn ymweld â safleoedd.  Mae'r wybodaeth a'r arbenigedd sydd ganddynt yn amhrisiadwy ac rwyf wedi dysgu cymaint ganddynt am wahanol anableddau a sut maent yn effeithio ar brofiadau pobl sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Yn ddiweddar, roeddwn ar banel cyfweld yn recriwtio gwirfoddolwyr newydd a chefais brofiad pleserus iawn yn siarad â phobl o bob cefndir oedd ag un nod cyffredin: gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch a chynhwysol. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r rheilffordd wedi datblygu i fod yn llawer mwy hygyrch i fwy a mwy o bobl.  Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld sut y gall y gwaith hwn barhau yn y dyfodol, a sut y gallaf i fod yn rhan ohono hefyd.