Enw ein trydydd prentis sy’n cael ei rhoi yn y sbotolau fel rhan o gyfres pobl #Rheilffordd200 Cymru a'r Gororau yw Shauna. Mae Shauna wedi cyrraedd rhestr fer Prentis y Flwyddyn Gweithwyr Proffesiynol Ifanc y Rheilffyrdd 2025.

Dechreuais weithio i Trafnidiaeth Cymru ym mis Medi 2023. Cyn hynny, bûm yn gweithio am ddwy flynedd i Transport Investigations Limited fel Swyddog Refeniw tra roeddwn yn astudio yn y brifysgol. Ar ôl graddio, roeddwn yn awyddus iawn i ddod o hyd i swydd lawn amser gyda Trafnidiaeth Cymru. Dim ond mis ar ôl graddio, roeddwn yn ddigon ffodus i gael cynnig cynllun prentisiaeth yng Nghanolfan Reoli Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd.

Rwy'n hynod ddiolchgar ac yn ffodus iawn o'r cyfle hwn, yr wybodaeth, y sgiliau trosglwyddadwy, y rhwydweithio a'r cyfleoedd gwirfoddol a gefais yn sgil y brentisiaeth. Nid yn unig y llwyddais i orffen fy mhrentisiaeth flwyddyn yn gynnar, ond cefais gynnig swydd yng Nghymru yn ystafell Reoli Traws-ffiniau fel Rheolwr Gwybodaeth Cwsmeriaid. Mae un o’r prosiectau yr wyf wedi bod yn ymwneud ag ef, sef creu canllaw i deithwyr a staff gyfeirio ato os nad yw'r lifftiau yn gweithio mewn gorsafoedd gan gynnig llwybr amgen, yn creu cryn falchder i mi. Mae’n llawlyfr sy’n helpu pobl i deithio mewn modd mwy cynhwysol a haws. Mae hi'n fraint gallu helpu cwsmeriaid sy'n agored i niwed, a chwsmeriaid sydd â nam ar eu symudedd i fyw eu bywydau o ddydd i ddydd heb fawr o anhawster.

Cefais fy nenu i weithio yn y sector rheilffyrdd gan fod cymaint o adrannau a llwybrau dilyniant amrywiol yn ogystal â'r ffaith imi gael profiad o’r sector yn sgil fy swydd gyntaf fel swyddog refeniw. Roeddwn yn gweithio gyda staff TrC a chwmnïau trydydd parti a roddodd fewnwelediad i mi sut mae cwmni trên yn rhedeg. Er bod rhywfaint o wrthdaro yn codi o bryd i'w gilydd, mwynheais weithio gyda staff a helpu cwsmeriaid gymaint ag y gallwn.

Ar yr un pryd, roeddwn hefyd yn astudio cwrs Iechyd a Lles Cymunedol ym Mhrifysgol De Cymru. Yn flaenorol, roeddwn yn gwneud gwaith gwirfoddol, ym maes lletygarwch a gofalu.  Yn ystod fy mlwyddyn olaf yn y brifysgol, dechreuais blethu fy ngwaith fel Arolygydd refeniw gyda’m astudiaethau. Cefais ganmoliaeth uchel gan fy nhiwtoriaid a darlithwyr am y darn hwn o waith. Yn hytrach na chael pas yn unig am rai rhannau o'm gradd - roeddwn yn fwy na hapus gyda phas yn y flwyddyn gyntaf a'r ail - ond cefais bas dosbarth cyntaf!  Doeddwn i ddim hyd yn oed yn meddwl y byddai hyn wedi bod yn bosibl yn ystod blwyddyn fwyaf heriol y cwrs - y flwyddyn olaf!

Rwy'n credu y digwyddodd hynny gan fy mod mor angerddol am y pwnc ac yn mwynhau fy ngwaith.  Felly, y cam nesaf i mi oedd dod o hyd i brentisiaeth a chynllun i raddedigion yn TrC. Y peth olaf oeddwn i eisiau ei wneud ar y pryd oedd parhau i astudio.  Roedd gennyf eisoes TGAU, Safon Uwch, Safon Sylfaen a Gradd Anrhydedd. Fe lwyddais i gyflawni popeth a nodais yn ystod fy ngyrfa academaidd a'r peth olaf roeddwn i'n meddwl y byddwn i wedi'i wneud oedd dechrau eto ac ymgymryd â phrentisiaeth sy'n gofyn i chi astudio ar gyfer NVQ ac yn amlwg dysgu rôl y swydd, heb sôn am y gostyngiad mewn cyflog o'm swydd flaenorol fel arweinydd tîm.

Ond wrth edrych yn ôl, dyma un o'r penderfyniadau gorau i mi ei wneud erioed.  Fyddwn ni ddim yn dymuno newid unrhyw beth. Nid yn unig rwyf i wedi llwyddo i gael prentisiaeth ym maes rheoli - cyfle sydd wedi dysgu llawer i mi am y sector rheilffyrdd a rhoi cyfle i mi ennill profiadau gwerth chweil, rwyf wedi llwyddo i gwblhau'r brentisiaeth flwyddyn yn gynnar hefyd. Credaf mai dyma esiampl o fywyd go iawn - “Un cam yn ôl er mwyn gallu symud dau gam ymlaen”.

Mae fy swydd yn cynnwys mewnbynnu'r wybodaeth ddiweddaraf ar y sgriniau gwybodaeth i gwsmeriaid mewn gorsafoedd a lleoliadau amrywiol. Rwy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i gwsmeriaid fel y galla nhw wneud trefniadau eraill a chynllunio ymlaen llaw ar gyfer eu teithiau er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar eu diwrnod. Mae'r wybodaeth hon yn helpu i gynnal y CIS ac yn bwydo ein apiau a'n gwefannau hefyd. Mae’n cynnwys gwybodaeth am drenau sydd wedi’u canslo, unrhyw oedi, nifer y cerbydau trên a pha gyfleusterau arlwyo sydd ar gael. Os oes unrhyw nam ar galedwedd neu feddalwedd, lifftiau, pwyntiau cymorth neu offer CIS, rwy'n cysylltu â'r cynhalwyr. Rydym yn ateb unrhyw gais a wneir o bwyntiau cymorth ein gorsafoedd ynghylch teithiau, parhau a thaith ar hyd y ffordd, manylion am orsafoedd a chyfleusterau lleol. Rwyf hefyd yn monitro a lawrlwytho gwybodaeth o systemau teledu cylch cyfyng ein gorsafoedd a’n trenau. Weithiau, mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn ceisio dod o hyd i bobl neu maent yn chwilio am bobl sydd ar goll.  Rwy’n eu helpu i wneud hyn a chydag achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol.  Rwyf hefyd yn cynorthwyo Tîm Cyfreithiol TrC i ddarparu lluniau yn sgil damweiniau, digwyddiadau, ymchwiliadau a hawliadau. Mae pob agwedd ar ein gwaith yn hanfodol ac yn chwarae rhan enfawr o ran cadw ein cwsmeriaid a'n staff yn ddiogel.

Rwyf bob amser yn awyddus i ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant, gwaith gwirfoddol neu i weithio ar brosiectau newydd. Dyma rai enghreifftiau o'r gwaith yr wyf wedi bod yn ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf; gweithdai, helpu mewn digwyddiadau arbennig, cwrs rheoli cyswllt hunanladdol, hyfforddiant TRUST, cwrs gwerthfawrogi cyfathrebu diogelwch, gweithio gyda'r tîm  cynllunio trenau, dysgu am lwybrau trenau, ymweld â depos, mynychu cyrsiau gwerthfawrogi tyniant newydd a chyrsiau sgiliau hanfodol. Hefyd, yn fy amser sbâr, fi yw Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata sefydliad Gweithwyr Proffesiynol Rheilffyrdd Ifanc (YRP).  Rwy’n trefnu cyfarfodydd rheolaidd, digwyddiadau ynghylch y rheilffyrdd a digwyddiadau cymdeithasol ac yn codi arian ar gyfer nifer o elusennau lleol a rheilffyrdd.

Rwy'n credu bod prentisiaethau'n bwysig oherwydd eu bod yn rhoi profiad ymarferol sy'n helpu i ddatblygu gwybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol. Mae'n opsiwn da i'r rhai nad ydyn nhw am astudio addysg uwch neu yn ansicr ynghylch y cam nesaf. Mae'n rhoi cyfle i chi ennill cyflog wrth ddysgu ac chael profiad o fywyd gwaith. Mae prentisiaethau'n pontio'r bwlch rhwng addysg a chyflogaeth sy'n ei gwneud hi'n haws i weithwyr proffesiynol ifanc ddod o hyd i swydd. Mae'n rhoi cyfle i ddatblygu gyrfa ac yn creu gweithwyr cymwys ar gyfer y diwydiannau sy'n eu cyflogi.

Yn bersonol, rwy'n credu y byddwn wedi cael anhawster dod o hyd i fy swydd bresennol oni bai am y brentisiaeth, gan fod Rheoli yn gofyn am weithwyr proffesiynol tra medrus.  Er bod gennyf lefel uchel o addysg a chefndir yn y sector rheilffyrdd, mae'n fath gwahanol o wybodaeth o'i chymharu â'm swyddi blaenorol. Mae’r brentisiaeth hon wedi rhoi mewnwelediad i mi a'r profiad i weithio mewn canolfan reoli.  Rwy’n hynod ddiolchgar am y cyfleoedd hyn.

Er bod y sector rheilffyrdd wedi gwneud camau breision dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf o ran cynhwysiant, byddwn wrth fy modd pe bai dyfodol y rheilffordd a thrafnidiaeth gyhoeddus yn haws ac yn fwy hygyrch i bawb.  Rwy’n dymuno gweld bod y mynediad sydd gan bobl sy'n cael anhawster pob dydd i gael at adnoddau a chyfleoedd ac yn cael eu heithrio oherwydd anableddau corfforol neu ddeallusol yn cael eu lleihau. Dyna pam fod mor fy mhrosiect personol i yn golygu cymaint i mi.  Rwy’n gallu ymgorffori yr hyn a ddysgais yn sgil fy ngradd a'm hastudiaethau i wneud y rheilffordd yr opsiwn teithio hawsaf a mwyaf diogel i bobl.  Rwy'n bwriadu helpu a chefnogi nifer o brosiectau yn y busnes yn y dyfodol ac yn edrych ymlaen yn fawr at hynny.