Tregŵyr yn troi'n wyrdd
Mae bioamrywiaeth yn derbyn hwb yng ngorsaf drenau Tregŵyr diolch i brosiect cymunedol a ariennir gan Trafnidiaeth Cymru (TrC).
Dyma oedd yr orsaf gyntaf i gael ei mabwysiadu yng Nghymru pan lansiwyd y cynllun ‘mabwysiadu gorsaf’ yn 2004.
Heddiw, caiff mwy na 80 o orsafoedd ar draws rwydwaith TrC eu gofalu amdanynt gan gymunedau lleol sy’n gofalu am bethau gwyrdd megis cynwysyddion ar gyfer planhigion a gwelyau blodau. Yn ogystal â gwella awyrgylch yr orsaf a chynorthwyo byd natur, mae’r cynllun hefyd yn rhoi’r cyfle i wirfoddolwyr ddysgu sgiliau newydd, cymdeithasu a gwneud gwahaniaeth i’w cymunedau.
Wedi’u cludo gan dîm Rheilffordd Gymunedol TrC, gosodwyd tri chynhwysydd newydd ar Blatfform 1 y mis hwn.
Dywedodd y Rheolwr Rheilffordd Gymunedol, Geraint Morgan: “Yn ogystal â gwneud i’r orsaf edrych yn ddymunol i gwsmeriaid a staff, mae’n bwysig ein bod yn cefnogi bioamrywiaeth yn ein gorsafoedd.
“Mae’r planhigion i gyd yn dda ar gyfer peillio ac yn gallu delio â sychder ac rydyn ni’n ddiolchgar i’n gwirfoddolwyr am eu cefnogaeth. Mae Tregŵyr yn borth i Gŵyr gyda llwybrau seiclo newydd wrthi’n cael eu datblygu gan y cyngor lleol a bydd y rhain yn gwella’r amgylchedd.”

Rhoddwyd y cynwysyddion ar gyfer planhigion gan Norman Industries, sy’n fusnes yn Hwlffordd sy’n cynorthwyo pobl ag anghenion dysgu er mwyn eu helpu i ddatblygu sgiliau ar gyfer cyflogadwyedd pellach. I gefnogi busnesau lleol ymhellach, defnyddiwyd compost gan gyflenwr ym Mhontarddulais.
Mae’r mabwysiadwr gorsaf a’r Cynghorydd cymunedol lleol, Ros Holt, wedi bod yn gofalu am orsaf drenau Tregŵyr dros y 15 mlynedd diwethaf.
Dywedodd hi: “Mae tua phedwar ohonom yn y grŵp ac rydyn ni’n dod ‘ma mor aml ag sy’n bosibl i ofalu am y planhigion a’r llwyni.
“Bydd y cynwysyddion ar gyfer planhigion newydd yn ein helpu ni’n fawr oherwydd fel hyn, ni fydd yn rhaid inni blygu cymaint i ofalu am y blodau.
“Mae’n bwysig gan mai dyma yw’r argraff gyntaf o Dre-gŵyr yn enwedig gan mai blwyddyn Rheilffordd 200 ydy hi a’n gorsaf ni oedd y gyntaf yng Nghymru i gael ei mabwysiadu.”