Rheilffordd 200 ac Wythnos Wyddoniaeth Prydain: Rheoli Amgylcheddol Cymru a'r Gororau
Ar gyfer Wythnos Wyddoniaeth Prydain eleni, mae ein Tîm Amgylcheddol yn Trafnidiaeth Cymru yn rhannu mwy am y gwaith y maent yn ei wneud i gefnogi ein rheilffyrdd, ein gweithrediadau a’r rhwydwaith trafnidiaeth ehangach, a hefyd sut y daethant i'w priod rolau a'u gyrfaoedd.
Mae thema Wythnos Wyddoniaeth Prydain eleni, sef 'Newid ac Addasu' yn arbennig o berthnasol i ni yn Nhîm Amgylcheddol Trafnidiaeth Cymru.
Mae rheilffyrdd bob amser wedi bod yn gatalyddion i newid, o'r peiriannau stêm cyntaf a helpodd i bweru'r Chwyldro Diwydiannol, i drenau trydan a batri modern heddiw - mae'r rheilffordd wedi parhau i addasu er mwyn diwallu anghenion cymdeithas sy’n newid o hyd.
Nid yw newid yn yr hinsawdd bellach yn fygythiad pell i ffwrdd, mae’r newid ar ein gwarthaf ac yn effeithio ar bob un ohonom. Mae gan y diwydiant rheilffyrdd ran arwyddocaol i'w chwarae yn yr her fyd-eang hon, wrth i ni addasu ein gweithrediadau yn TrC. Rydym yn sicrhau ein bod nid yn unig yn cydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol ond hefyd yn creu amgylchedd iachach a gwyrddach sy'n diogelu aer glân ac yn ymgorffori’r arferion cynaliadwy sy'n hanfodol ar gyfer llesiant cenedlaethau'r dyfodol.
Er bod teithio ar y trên yn un o'r ffyrdd mwyaf ecogyfeillgar o symud o gwmpas, gan gynhyrchu allyriadau carbon sylweddol is na dulliau eraill o deithio, mae bob amser mwy i'w wneud yn yr ymdrech i sicrhau gwelliannau amgylcheddol parhaus! Un enghraifft o'r ffordd y mae'r Tîm Cydymffurfiaeth Amgylcheddol wedi croesawu newid yw trwy wirfoddoli i gymryd rhan yn Rhwydwaith Monitro Ansawdd Aer RSSB. Mae nifer o'n gorsafoedd yn rhan o'r rhwydwaith monitro hwn sy'n defnyddio tiwbiau tryledu i fonitro lefelau NO2 yn yr awyr.
Erbyn hyn, rydym yn awyddus i fynd un cam ymhellach ac rydym wrthi'n prynu monitorau ansawdd aer byw ar gyfer y gorsafoedd hyn i'n helpu i nodi'r hyn a allai fod yn cyfrannu'n andwyol at ansawdd aer ac, yn ei dro, er mwyn ein llywio i'r cyfeiriad cywir pan fyddwn yn ystyried pa fesurau lliniaru a rheoli i'w rhoi ar waith er mwyn helpu i fynd i'r afael â hyn.
Fel tîm, mae ein cyfrifoldebau yn cynnwys:
- System Reoli Amgylcheddol TrC: mae hyn yn cynnwys 250+ o safleoedd ledled Cymru a’r Gororau i sicrhau eu bod yn bodloni gofynion Safon Amgylcheddol Lefel 5 y Ddraig Werdd tra hefyd yn hybu gwelliant amgylcheddol parhaus.
- Cydymffurfiaeth reoleiddiol: sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r deddfau, rheoliadau a chanllawiau amgylcheddol diweddaraf sy’n berthnasol i ni, er mwyn sicrhau bod gweithrediadau TrC yn cydymffurfio yng Nghymru a Lloegr yn ogystal â datblygu/diweddaru polisïau a gweithdrefnau amgylcheddol yn ôl yr angen.
- Cynnal archwiliadau amgylcheddol: ymweld â safleoedd TrC i gynnal archwiliadau amgylcheddol rheolaidd i wirio effeithiolrwydd ein polisïau, gweithdrefnau amgylcheddol a'r gwahanol fesurau lliniaru a rheoli sydd gennym ar waith.
- Cynlluniau lliniaru: datblygu a gweithredu mesurau amrywiol gyda'r nod o leihau/atal niwed amgylcheddol e.e. strategaethau i leihau sŵn, gwella ansawdd aer a rheoli gwastraff yn fwy effeithiol.
- Olrhain perfformiad amgylcheddol: monitro dangosyddion perfformiad amgylcheddol allweddol gyda'r nod o ddod o hyd i ffyrdd o wella perfformiad amgylcheddol TrC yn barhaus.
- Cyfathrebu mewnol: rydym yn cydweithio ag adrannau amrywiol TrC (depos, gorsafoedd rheilffordd, gorsafoedd bysiau ac ati) er mwyn sicrhau bod ystyriaethau amgylcheddol yn cael eu hintegreiddio i weithgareddau bob dydd yn ogystal â darparu arweiniad i gydweithwyr er mwyn sicrhau eu bod yn deall rheoliadau amgylcheddol perthnasol yn ogystal â'u cyfrifoldebau o dan System Reoli Amgylcheddol TrC.
Mae Tîm Amgylcheddol TrC yn cynnwys Rheolwr Cydymffurfiaeth Amgylcheddol, Cydlynydd Cydymffurfiaeth Amgylcheddol a Chynghorydd Iechyd yr Amgylchedd.

Sophie Duggan - Rheolwr Cydymffurfio Amgylcheddol
"Mae gen i ddiddordeb erioed yn y byd naturiol, yn enwedig y grymoedd sy'n siapio ein planed fel daeargrynfeydd a llosgfynyddoedd. Roedd hyn wedi fy arwain at astudio a chyflawni gradd BSc mewn Daeareg a Daearyddiaeth Ffisegol lle mwynheais y modiwlau ar dir halogedig a rheoli peryglon amgylcheddol. Mae'r llwybr at fy rôl bresennol yn cyd-fynd yn dda â thema eleni, sef 'Newid ac Addasu', oherwydd, er bod gen i radd sy'n canolbwyntio ar yr amgylchedd, ychydig iawn o rolau oedd ar gael ar y pryd ar gyfer myfyrwyr a oedd newydd raddio. Roedd hyn wedi fy arwain at wneud cais am swydd fel Cynghorydd Gwasanaeth Cwsmeriaid ar gontract dros dro 6 mis ar gyfer Trenau Arriva Cymru yn 2014 wrth i mi barhau i chwilio am swyddi yn y sector amgylcheddol. Fe wnes i ychydig o rolau gwahanol i Arriva (ac yna i Trafnidiaeth Cymru) tan yn 2019, pan ddechreuais ymwneud â chynorthwyo gydag archwiliad amgylcheddol allanol lle'r oedd TrC yn gobeithio trosglwyddo o ISO14001 i Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd a bellach, 6 blynedd yn ddiweddarach, fi yw Rheolwr Cydymffurfio Amgylcheddol TrC! Er y gallai hyn fod wedi bod yn llwybr anghonfensiynol, mae'r wybodaeth dw i wedi’i chasglu a'r cysylltiadau a wnes i ar hyd y ffordd yn parhau i fod yn ganolog i'm helpu i gyflawni fy nghyfrifoldebau heddiw.
Hyd yn hyn, y llwyddiant dw i’n fwyaf balch ohono fu dod â holl orsafoedd rheilffordd TrC i mewn i'r System Reoli Amgylcheddol ac ennill achrediad y Ddraig Werdd Lefel 5 ar eu cyfer, sef y tro cyntaf ar gyfer ein gorsafoedd ar y rhwydwaith. Mae hyn yn golygu bod gennym ddarlun mwy cyflawn bellach o effaith amgylcheddol gyffredinol TrC, lle yn flaenorol, dim ond ein depo cynnal a chadw trenau a'n prif swyddfa oedd wedi'u hintegreiddio. Mae gorsafoedd (yn enwedig gan fod gennym bron i 250 ohonynt) yn dod â'u heriau unigryw eu hunain, er enghraifft defnydd ynni, defnydd dŵr a chynhyrchu gwastraff ac mae'r rhain yr un mor bwysig â'n gweithrediadau depo o ran gwella perfformiad amgylcheddol TrC!”

Kieran Cloake - Ymgynghorydd Iechyd yr Amgylchedd
“Roedd gen i ddiddordeb brwd yn yr amgylchedd a'i ecosystemau trwy gydol fy mhlentyndod. Roedd hyn wedi fy arwain at astudio bioleg yn y brifysgol a dechrau gwirfoddoli ar gyfer arolygon ymlusgiaid yn fy ardal leol. Cyn i mi symud i fyd cydymffurfiad amgylcheddol, dechreuais fel gwyddonydd Ymchwil a Datblygu i gwmni dyfeisiau meddygol, yna symudais i’r maes cydymffurfiaeth dyfeisiau meddygol fel peiriannydd ansawdd. Yn ystod y cyfnod hwn, cefais gyfle i helpu gyda rheoli cydymffurfiaeth amgylcheddol, gan gynorthwyo gydag archwiliadau amgylcheddol yn y gweithle a rheoli gwastraff. Roedd hyn wedi fy arwain at gwblhau fy nghwrs rheoli amgylcheddol y Sefydliad Rheoli ac Asesu Amgylcheddol ac yna ymunais â Trafnidiaeth Cymru a derbyn fy rôl amgylcheddol gyntaf yn swyddogol.
Dw i bellach wedi bod yn gweithio i Trafnidiaeth Cymru ers ychydig dros flwyddyn. Mae fy nyletswyddau o ddydd i ddydd yn cynnwys bod yn bwynt cyswllt allweddol ar gyfer rheoli gwastraff, cynnal archwiliadau mewnol, ymchwilio i ddigwyddiadau amgylcheddol a monitro ansawdd aer o amgylch ein safleoedd.
Ers i mi ddechrau'r rôl hon, dw i wedi gweithio gyda'r tîm i roi cofnod ymchwiliad amgylcheddol manylach ar waith i gynnwys dull gweithredu sy’n fwy seiliedig ar risg amgylcheddol er mwyn deall sut mae gweithrediadau’r busnes yn effeithio ar yr amgylchedd. Mae hyn yn bwysig oherwydd ei fod wedi gwella’r ffordd yr ydym yn olrhain Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer digwyddiadau amgylcheddol ac yn caniatáu i ni nodi tueddiadau sydd â'r risg fwyaf i'r amgylchedd a chyflwyno newidiadau a all helpu i liniaru'r risgiau hyn.”

Sam Baran - Cydlynydd Cydymffurfiaeth Amgylcheddol
“Fel Cydlynydd Cydymffurfiaeth Amgylcheddol, dw i’n gyfrifol am gefnogi'r Tîm i sicrhau bod ein systemau trafnidiaeth nid yn unig yn bodloni ond yn rhagori ar safonau amgylcheddol. Mae hyn yn cynnwys casglu a chyflwyno tystiolaeth fel rhan o'n System Reoli Amgylcheddol, sicrhau cydymffurfiaeth â Deddfwriaeth Amgylcheddol a pholisïau’r Cwmni a nodi meysydd ar gyfer Gwella’r Amgylchedd.
Astudiais Ddaearyddiaeth fel myfyriwr israddedig a chwblhau gradd Meistr mewn Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Aberystwyth, a dw i wedi gweithio yn y Sector Amgylcheddol dros y pedair blynedd diwethaf. Yn ddiweddar, dw i wedi ennill tystysgrif mewn Rheolaeth Amgylcheddol a dw i’n gweithio tuag at aelodaeth Ymarferydd llawn gyda’r Sefydliad Rheoli ac Asesu Amgylcheddol. Dw i hefyd yn bwriadu mynychu hyfforddiant yr Archwilydd Mewnol ym mis Ebrill, wedi'i achredu gan y Sefydliad Rheoli ac Asesu Amgylcheddol. Er mwyn ffynnu yn y sector hwn, mae'n bwysig meddu ar sgiliau technegol da fel sgiliau dadansoddi a datrys problemau, a'r gallu i ddeall rheoliadau, polisïau a deddfwriaeth amrywiol, yn ogystal â sgiliau personol fel cyfathrebu, trefnu a’r gallu i addasu.
Yng nghyd-destun y rheilffyrdd, mae Rheoli Amgylcheddol yn hanfodol er mwyn sicrhau perfformiad parhaus ac effeithiol ac wrth helpu i lunio'r byd er gwell. Mae rheolaeth amgylcheddol yn cynnwys gweithredu strategaethau a thechnolegau newydd, gwyrddach i leihau allyriadau, sicrhau effeithlonrwydd adnoddau cynaliadwy am genedlaethau i ddod ac i wella bioamrywiaeth a'r byd naturiol. Mae hyn wedi arwain at gynlluniau i weithredu dulliau mwy cynaliadwy i bweru'r rhwydwaith fel batris lithiwm-ion i drenau, trydaneiddio'r system reilffyrdd a systemau bysiau hydrogen. Mae rheolaeth amgylcheddol nid yn unig yn gysylltiedig â'r byd ffisegol ond hefyd yn darparu gwerth cymdeithasol yn y gwaith a wnawn. Mewn byd sy'n newid yn barhaus yn wyneb newid yn yr hinsawdd, gyda thywydd mwy eithafol, prinder adnoddau ac anghydraddoldebau cynyddol, mae'n hanfodol dod o hyd i fwy o ddulliau i addasu er budd pobl a'r blaned am genedlaethau i ddod. Dyna pam dw i’n teimlo bod fy rôl nid yn unig yn bwysig o ran sicrhau cydymffurfiaeth, ond hefyd wrth helpu i nodi meysydd lle mae modd gwneud gwelliannau amgylcheddol a chymdeithasol parhaus.”