Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig Cofnodion y Bwrdd - 1 Ebrill 2022

Submitted by Content Publisher on

TfW Rail Limited - Cofnodion y Bwrdd

1 Ebrill 2022

09:00 - 1400

Lle: Llys Cadwyn

 

Yn bresennol

James Price (Cadeirydd); Jan Chaudhry; Heather Clash; Alexia Course; Marie Daly; a Peter Strachan.

Hefyd yn bresennol: David O’Leary a Jeremy Morgan. Ymunodd Stephanie Raymond â’r cyfarfod ar gyfer eitem 7.  Ymunodd Tristan Guyard ar gyfer eitemau 8 a 9. Ymunodd Colin Lea ar gyfer eitem 10.

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

1a. Apologies for Absence

Dim

 

1b. Hysbysiad Cworwm

Oherwydd bod cworwm, fe wnaeth y Cadeirydd ddatgan bod y cyfarfod ar agor.

 

1c. Datgan Budd

Ni chafodd ddim budd ei ddatgan gan aelodau. Mae David O’Leary (hefyd yn bresennol) yn un o gyfarwyddwyr PTI Cymru.

TYNNWYD

 

2b. Sylw Cwsmeriaid

Roedd teithiwr yng ngorsaf Caer wedi cwympo a brifo. Derbyniwyd llythyr yn diolch i’r staff am y sylw a’r gofal a roddwyd i’r teithiwr oedd wedi brifo.

 

3. Cofnodion a Gweithredu’r Cyfarfod Blaenorol

Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod Bwrdd Rheilffyrdd TrC Cyf a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2022 fel rhai gwir a chywir.

Nodwyd y log Camau Gweithredu.

Cymeradwyodd y Bwrdd gofnodion yn penderfynu prynu pedwar trên Dosbarth 153 gan Great Rolling Stock Company Plc; a rhoi awdurdod i’r llofnodeion perthnasol i wneud popeth sy’n ofynnol o dan ddarpariaethau, ac sydd i bob diben yn cyflawni’r pwrpasau sydd mewn golwg gan, y Trafodiad Arfaethedig a’r Ddogfen / Dogfennau.

Cymeradwyodd y Bwrdd gofnodion yn penderfynu prynu saith cerbyd MkIV a’r darnau sbâr cysylltiedig gan Eversholt Rail Finance Limited; a rhoi awdurdod i’r llofnodeion perthnasol i wneud popeth sy’n ofynnol o dan ddarpariaethau, ac sydd i bob diben yn cyflawni’r pwrpasau sydd mewn golwg gan, y Trafodiad Arfaethedig a’r Dogfennau.

 

4. Adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr

Roedd perfformiad y trenau’n gwella’n barhaus ond wedi gostwng fymryn yn dilyn stormydd cyn codi eto, a hyn wedi’i helpu drwy barhau’r amserlen milltiroedd is “camu lawr” o ganlyniad i don amrywiolyn Omicron Covid. Ers y stormydd, yr her yw cynllunio gwasanaeth trenau sy’n taro’r cydbwysedd iawn rhwng:

  • yr adnoddau (stoc a chriw) sydd ar gael - gyda mini-don newydd o absenoldebau Covid, ond gan obeithio y codir yr holl gyfyngiadau yng Nghymru ar 28 Mawrth;
  • cynnydd mewn galw wrth i awydd pobl i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus gynyddu’n dilyn Covid;
  • bod angen darparu gwasanaeth dibynadwy a chanslo llai o drenau ar y diwrnod, ac felly peidio â gor-addo;
  • mwy o deithwyr yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a chynnydd siarp mewn prisiau petrol;
  • effaith bosib ymgyrchoedd marchnata a gynlluniwyd ers tro byd; a
  • bod angen rhyddhau nifer sylweddol o yrwyr a thocynwyr o’u dyletswyddau i fynychu hyfforddiant ar drenau Dosbarth 197, MkIV a Dosbarth 230.

Roedd dangosyddion diogelwch yn eithaf sefydlog dros y cyfnod, heb unrhyw achosion SPAD Categori A. Fodd bynnag, roedd cynnydd nodedig wedi bod mewn damweiniau teithwyr a chyhoeddus, sy’n gyson â mwy o deithwyr.

Gydag amserlen newydd Mai 2022 ond rai wythnosau i ffwrdd, mae AIW wedi adrodd cynnydd da gyda gwaith trwsio pont Adam Street sy’n golygu y bydd y gwasanaeth o Coryton i’r Radur (Lein y Ddinas) yn cael ei adfer ynghyd â bysus gwennol Bae Caerdydd. TYNNWYD.

TYNNWYD

 

5. Adroddiad Sicrhau Ansawdd

Nododd y Bwrdd yr Adroddiad Sicrhau Ansawdd.

 

6. Diweddariad Masnachol

Roedd twf pellach yn y galw / refeniw o un cyfnod i’r llall wedi bod yn P12, gyda data’r diwydiant yn awgrymu bod y galw hamdden bellach wedi dychwelyd i tua 98% o’r hyn ydoedd cyn Covid. Mae teithio hamdden bellach yn cyfrif am tua 76% o’r holl alw ar rwydwaith TrC. Fodd bynnag, mae’r galw / refeniw yn parhau i fod o dan darged yn dilyn yr amrywiolyn Omicron a’r cyfyngiadau ar gymdeithas o ganlyniad, yn enwedig o ran teithio busnes.

Nododd y Bwrdd yr adroddiad.

 

7. Cyfrifon Rheoli

Ymunodd Stephanie Raymond â’r cyfarfod. TYNNWYD.

TYNNWYD

Nododd y Bwrdd y cyfrifon rheoli ar gyfer P12.

TYNNWYD

 

9. Trenau 175

Cymeradwyodd y Bwrdd argymhelliad i lofnodi Llythyr o Fwriad a Chytundeb TSSSA ag Alstom i ymestyn prydles y trenau Dosbarth 175 tan fis Mai 2023.

Gadawodd Tristan Guyard y cyfarfod.

TYNNWYD

Diolchodd y Cadeirydd i bawb a fu’n bresennol am eu cyfraniadau.