Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig Cofnodion y Bwrdd - 10 Rhagfyr 2021

Submitted by Content Publisher on

TfW Rail Limited - Cofnodion y Bwrdd

10 Rhagfyr 2021

09:00 - 12:30

Lleoliad: ar-lein

 

Yn bresennol

James Price (Cadeirydd) Peter Strachan; Heather Clash; Jan Chaudhry; James Price; Alexia Course a Marie Daly.

Hefyd yn bresennol: David O’Leary; Rachel Davies a Jeremy Morgan.

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Dim

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, rhoddodd y Cadeirydd groeso i bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod wedi agor.

 

1c. Datganiadau Diddordeb

Dim wedi’i ddatgan.

 

2a. Sylw i Ddiogelwch

Trafododd y Bwrdd gefndir y digwyddiadau a’r camau dilynol a gymerwyd dros ddau ddigwyddiad SPAD yn ystod Cyfnod 8 y Rheilffyrdd.

 

2b. Sylw i Gwsmeriaid

Gwyliodd y Bwrdd fideo o’r gwaith diweddar a wnaed yng ngorsaf Caerdydd Heol y Frenhines.

 

3. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd Rheilffyrdd TrC ar 12 Tachwedd 2021 yn gofnod gwir a chywir.

Nodwyd y cofnod camau gweithredu gyda sawl diweddariad yn y cyfarfod.

 

4. Adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr

Roedd y cyfnod blaenorol yn wael o ran perfformiad, a oedd yn deillio’n bennaf o broblemau tymhorol a digwyddiadau technegol ar y rhwydwaith. Rhoddwyd sicrwydd i’r Bwrdd nad yw hon yn broblem endemig a bod nifer o broblemau wedi dod ar yr un pryd, gan gynnwys amodau niweidiol yn yr Hydref, problemau parhaus gyda cherbydau ac adnoddau, yn enwedig ar gyfer dyddiau Sul, a dibyniaeth ar weithio goramser. Roedd rhai o’r problemau gyda chriwiau trenau o ganlyniad i golli cyfleoedd i recriwtio a hyfforddi yn ystod cyfnodau atal oherwydd Covid yn 2020 a 2021, ond roedd y pwyslais nawr ar gyflymu hyfforddiant i oruchwylwyr newydd, yn enwedig yn y depos yng Nghaerdydd. Trafododd y Bwrdd achosion y sefyllfa o ran gyrwyr, goruchwylwyr a rhai o’r fflydoedd cerbydau, a’r cynlluniau gweithredu a roddwyd ar waith i wella’r sefyllfa.

Gadawodd James Price y cyfarfod dros dro a chymerodd Peter Strachan yr awenau fel Cadeirydd.

Hysbyswyd y Bwrdd bod yr hyn a oedd wrth wraidd y perfformiad gwael diweddar wedi cael ei ymchwilio. Mae gwersi wedi cael eu dysgu lle nad oedd cynlluniau wedi ystyried rhagfynegi ac atal, yn enwedig o ran adnoddau.

TYNNWYD

Ailymunodd James Price â’r cyfarfod.

Trafododd y Bwrdd opsiynau ar gyfer gwella cadernid y gweithlu a gofynnodd am bapur ar risgiau a chyfleoedd o ran lleoli staff yn hyblyg [Marie Daly i Weithredu]. Os bydd tywydd ac amodau ffafriol ar y rhwydwaith, mae cyfle yn gynnar yn 2022 i adfer perfformiad yn ôl i'r lefel roedd arni cyn mis Medi.

TYNNWYD

Ni fydd gwasanaethau Dydd Calan yn rhedeg yn 2022. Cytunodd y Bwrdd y dylid cynllunio ymlaen llaw i benderfynu yn gynharach yn y flwyddyn a ddylid cynnal gwasanaethau Dydd Calan yn y dyfodol. 

Rydym yn dal i aros am ymateb gan Lywodraeth Cymru ar gynnydd mewn prisiau chwyddiant ar gyfer 2022.

 

5. Cyfrifon Rheoli

Ymunodd Stephanie Raymond â’r cyfarfod. Roedd canlyniadau diwedd Cyfnod 8 y Rheilffyrdd yn ffafriol gyda’r cymhorthdal gweithredu yn llai na’r disgwyl o ganlyniad i adferiad COVID drwy gynyddu nifer y teithwyr. Roedd cymhorthdal Capex yn llai na’r disgwyl oherwydd amseriad y gwariant ar ddepo Treganna, cyflwyno fflyd newydd, a nifer o brosiectau BAU sy’n gysylltiedig â’r fflyd.

TYNNWYD. Cytunodd y Bwrdd fod angen i ddatblygu syniadau strategol ynghylch cynllunio ar gyfer tanwariant posibl. 

Nodwyd y Cyfrifon Rheoli.

 

6. Setliad masnachol a dewisiadau fflyd Class 230

TYNNWYD

 

7. Amserlen mis Mai ar gyfer Wrecsam - Bidston

Trafododd y Bwrdd faterion cyfredol ynghylch cyflwyno dau dren yr awr rhwng Wrecsam a Bidston mewn pryd ar gyfer amserlen mis Mai 2022. Mae TrC a Network Rail o'r farn y gallai fod yn bosibl rhedeg dau dren yr awr yn ystod cyfnod yr amserlen ym mis Mai ond oherwydd bod angen dod o hyd i ddatrysiad ar gyfer materion ynghylch hawliau mynediad, ni fyddai hynny tan ddiwedd yr Haf/Hydref 2022.

Cytunodd y bwrdd i wneud y canlynol:

  • trafod y mater gyda Network Rail [James Price i Weithredu];
  • drafftio llythyr gan Lywodraeth Cymru at Network Rail yn mynegi siom ynghylch ei wrthwynebiad i gymeradwyo hawliau mynediad [James Price i Weithredu];
  • codi gyda Llywodraeth Cymru ei fuddsoddiad mewn gwaith sment sy'n gyrru llwybrau cludo nwyddau gan effeithio ar y gallu i redeg dau dren yr awr rhwng Wrecsam a Bidston [James Price ac Alexia Course i Weithredu];
  • trafod y materion a'r atebion posibl gyda GB RailFreight [Alexia Course a Colin Lea i Weithredu].

Gadawodd Owen Clutterbuck y cyfarfod.

 

8. Defnyddio Tranche 2 MKIV

Trafododd y Bwrdd opsiynau amserlen ar gyfer defnyddio'r ail 'tranche' o gerbydau MklV ar gyfer naill ai gwasanaeth bob tair awr rhwng Manceinion a Chaerdydd neu Abertawe, neu wasanaeth bob dwy awr rhwng Mance inion a Chaerdydd gydag un daith i ac o Abertawe. Mewn egwyddor, cymeradwyodd y Bwrdd argymhelliad i weithredu amledd bob dwy awr rhwng Caerdydd a Manceinion - er mwyn sicrhau'r ansawdd gorau posibl o ran y cynnig i gwsmeriaid a manteisio ar gyfleoedd refeniw, yn amodol ar adolygiad o fodelu costau opex a naratif ategol cryfach - ac i'r cynnig gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo [Alexia Course i Weithredu]

Gadawodd Andrew Gainsbury a Colin Lea y cyfarfod.

TYNNWYD

 

10. Proses gymeradwyo'r cytundeb grant

Cymeradwyodd y Bwrdd newidiadau i’r broses cymeradwyo Cytundeb Grant OLR yn amodol ar y canlynol: (1) ymarfer darbodus ar brosesau llywodraethu’r Cytundeb Grant (2) nodi’r fersiwn symlaf o gontract consesiwn sy’n bodoli o dan y ddeddfwriaeth bresennol i gymharu a chyferbynnu Cytundeb Grant Rheilffyrdd TrC [Alexia Course i Weithredu].

 

11. Cynllun ceir trydan Tusker

Cymeradwyodd y Bwrdd roi contract ar waith gyda Tusker Direct Limited (Tusker) sy’n rhoi mynediad i weithwyr at gynllun prydlesu ceir allyriadau isel. Mae’r gwersi a ddysgwyd o gynllun grŵp TrC wedi cael eu cynnwys yng nghynllun Rheilffyrdd TrC. Hysbyswyd y Bwrdd bod effaith y fantolen yn cael ei hystyried ac y byddai’r cynllun yn cael ei nodi ym Mwrdd Gweithredol Llywodraeth Cymru.

Gofynnodd y Bwrdd hefyd am roi ystyriaeth i sut y gallai’r cynllun fod o fudd i gynlluniau cerbydau gweithredol [Marie Daly i Weithredu].

 

12. Llinellau gatiau talu wrth ddefnyddio

Cymeradwyodd y Bwrdd opsiwn i osod gatiau VIX yn lle dau lwybr cerdded ar bob rhes o gatiau er mwyn lleihau ymyrraeth ar gyfer staff a chwsmeriaid.

 

13. Diweddariad masnachol

Nodwyd y diweddariad Masnachol. Cadarnhawyd bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i TrC gymryd rhan yn ymgyrch Dychwelyd i Hamdden yr Adran Drafnidiaeth a darparu tocynnau a brynir ymlaen llaw yn rhatach ar gyfer Cyfnodau Rheilffyrdd 12 a 13.

 

14. Argymhelliad Cytundeb Partneriaeth Strategol Stadler

Ymunodd Andy Slater, Dan Tipper ac Owen Clutterbuck â’r cyfarfod. TYNNWYD.

Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben a diolch i bawb am fod yn bresennol ac am eu cyfraniadau.