Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig Cofnodion y Bwrdd - 11 Tachwedd 2022

Submitted by Content Publisher on

TfW Rail Limited - Cofnodion y Bwrdd

11 Tachwedd 2022

09:00 - 13:00

Lleoliad: St Patricks House, Caerdydd

 

Yn bresennol

James Price (Cadeirydd) Peter Strachan; Heather Clash; Jan Chaudhry; Alexia Course a Marie Daly.

Hefyd yn bresennol: Jeremy Morgan.

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Dim

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datganodd bod y cyfarfod yn agored.

 

1c. Datganiadau Diddordeb

Dim wedi’i ddatgan.

 

1d. Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2022 fel cofnod gwir a chywir. Nodwyd y Log Camau Gweithredu diweddaraf. Mae gwersi a ddysgwyd o adroddiad bomio Arena Manceinion wedi cael eu nodi a’u trafod yng nghyfarfod diweddaraf yr Awdurdod Gweithredol Diogelwch, gyda chynlluniau brys yn cael eu diweddaru.

 

2a. Sylw i Ddiogelwch

Digwyddodd digwyddiad thermol bach o ganlyniad i nam ar fatri e-sigarét personol. Mae cyngor i staff wedi cael ei ddarparu. Nododd y Bwrdd yr angen i annog staff i beidio ag ysmygu na defnyddio e-sigaréts drwy ymgyrchu dros iechyd a diogelwch [Cam Gweithredu i Marie Daly].

 

2b. Sylw i Gwsmeriaid

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad o brosiect gorsafoedd a mân waith a gomisiynwyd gan y CCCO a'r CIO.

 

4. Adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr

Nododd a thrafododd y Bwrdd adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr ar gyfer Cyfnod 7 (18 Medi 2022 i 15 Hydref 2022). Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:

  • Yr heriau a gyflwynwyd yn Nepo Treganna drwy waith cyfarpar llinellau uwchebn ar redeg gwasanaethau o ddydd i ddydd.
  • Lleihau lefelau absenoldeb oherwydd salwch i lefelau cyn Covid.
  • TYNNWYD
  • Rhaglen waith peirianneg
  • Amseroedd rhedeg cerbydau MKIV ar gyfer amserlenni mis Rhagfyr 2022 a mis Mai 2023.
  • Dangosyddion Perfformiad
  • Bodlonrwydd cwsmeriaid

 

5a. Adroddiad Sicrhau Diogelwch

Ar hyn o bryd, dywedir ar bod nifer yr anafiadau a damweiniau nad ydynt yn ymwneud a'r gweithlu yn uwch na'r targed. Mae gwaith sylweddol wedi'i wneud i ddeall unrhyw broblemau. Awgrymodd y Bwrdd y byddai adolygiad allanol yn fuddiol [Cam Gweithredu - Jan Chaudhry i siarad a Leyton Powell].

 

5b. Adroddiad risg rheilffyrdd

Nodwyd yr adroddiad risg.

 

6. Diweddariad masnachol

Ymunodd Stephanie Raymond a'r cyfarfod.

Trafododd y Bwrdd ganlyniadau cyfnodol o ran refeniw, siwrneiau, cynnyrch, adwerthu a rheoli twyll. 

Mae data'n dangos newidiadau clir ym mhatrymau'r galw, yn enwedig yn ystod cyfnod prysuraf y bore.

Nododd y Bwrdd fod 'prynu tocyn cyn teithio' yn cael effaith gadarnhaol a bod angen cynllun clir ar gyfer hyrwyddo pellach.

 

7. Pris tocynnau costau byw

Ystyriodd y Bwrdd bapur yn nodi argymhellion ar gyfer opsiynau prisiau rhwng mis lonawr a mis Mawrth 2023. Cytunodd y Bwrdd ar sawl egwyddor sy'n ymwneud ag opsiynau sy'n creu refeniw, symud i docynnau digidol, a chynnig yr opsiynau amrywiol dim ond drwy ddefnyddio sianeli sy'n eiddo i TrC.

TYNNWYD

 

8. Cyf rifon Rheoli

Nododd y Bwrdd y cyfrifon rheoli ar gyfer Cyfnod 7 gan gynnwys gofynion gweithredu a chymhorthdal cyfalaf, a'r gwariant hyd yma yn erbyn y gyllideb.

TYNNWYD

 

10. Capasiti Rhymni

Nododd y Bwrdd gyflwyniad yn nodi dadansoddiad o gapasiti llinell Rhymni a'r asesiad o'r galw. Cyflwynwyd dadansoddiad i'r Bwrdd ar yr amgylchedd ar y tren, data'n ymwneud a chyfnod prysuraf y bore, y galw gan deithwyr, ac adferiad a rhagolygon teithwyr.

Casgliad y Bwrdd oedd gyda'r cyfuniad o gapasiti a darpariaeth gwasanaeth yn cynyddu dros amser o heddiw ymlaen, yn ogystal a'r galw sy'n cael ei ragweld, mae digon o gapasiti ar reilffordd Rhymni yn y tymor byr a thymor canolig, mae'r risg o orlenwi yn isel, ac mae'r cynllun yn gadarn.

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu presenoldeb a'u cyfraniadau.